Llandudno in top ten of UK seaside property hotspots
Following the news that Llandudno is one of the UK’s top seaside property hotspot, Janet Finch-Saunders AM said:
“Those of us who live in Llandudno have long known that it holds a special kind of charm. We are surrounded by incredible landscapes a views – our own Great Orme is a particularly unique and beautiful nature feature of the town. The people and businesses – including our wonderful hotelier, restaurateurs and others in our thriving tourism industry – give Llandudno a friendly and welcoming feel all year round.
“I am delighted, though not surprised, that Llandudno is now one of the top UK seaside property hotspots.
“Aberconwy’s award winning beaches, our proud Victoria promenade, and location on the doorstep of Snowdonia are all factors which make Llandudno such a desirable and attractive destination for so many.”
~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~
Yn sgil y newyddion bod Llandudno yn un o’r 10 cyrchfan glan môr mwyaf poblogaidd yn y DU i brynwyr tai, dywedodd Janet Finch-Saunders AC:
“Mae’r rheiny ohonom sy’n byw yn Llandudno yn gwybod bod rhyw naws a swyn arbennig i’r lle. Rydyn ni’n byw yng nghanol tirweddau a golygfeydd godidog - mae Penygogarth yn dirnod hynod unigryw a hardd o’r dref. Mae pobl a busnesau y dref- gan gynnwys ein perchnogion gwestai, bwytai ac eraill yn y sector twristiaeth ffyniannus - yn golygu bod Llanduno’n lle cyfeillgar a chroesawgar gydol y flwyddyn.
“Dw i wrth fy modd, ond heb synnu dim, bod Llandudno bellach ymhlith y 10 lle mwyaf poblogaidd yn y DU o ran eiddo glan môr.
“Mae ffactorau fel traethau arobryn Aberconwy, ein promenâd Fictorianaidd ysblennydd, ac Eryri ar garreg y drws, yn golygu bod Llandudno yn gyrchfan dymunol a deniadol i gymaint o bobl.”