Skip to main content
Banner image for Janet Finch-Saunders MS/AS

Janet Finch-Saunders MS/AS

ABERCONWY

Main navigation

  • Home/Hafan
  • Janet
  • News/Newyddion
  • Senedd Cymru
  • Contact/Manylion Cyswllt

50% o Wasanaethau Bws TrawsCymru yn methu’r Targed

  • Tweet
Friday, 3 January, 2020
Bus

Er i Lywodraeth Cymru gadarnhau bod contractau TrawsCymru yn ei gwneud yn ofynnol i weithredwyr sicrhau bod 95% o wasanaethau yn rhedeg ar amser, mae Janet Finch-Saunders, Aelod Cynulliad Aberconwy, a Gweinidog Pobl Hŷn yr Wrthblaid, wedi canfod na lwyddodd 50% o wasanaethau i fodloni’r targed yn 2018/19.

 

Wrth ymateb i’r canfyddiad, dywedodd Janet:

 

“Mae trafnidiaeth gyhoeddus yn adnodd allweddol ar gyfer mynd i’r afael ag unigedd a newid hinsawdd.

 

“Mae TrawsCymru yn ffordd amgylcheddol gyfeillgar o deithio’n bell yng Nghymru, ond mae defnyddwyr gwasanaethau yn dioddef.

 

“Rydw i wedi clywed am etholwyr yn cael eu gadael heb fws yn troi i fyny ym Mhorthmadog, mae’n debyg bod 454 cwyn wedi eu gwneud rhwng 1 Tachwedd 2018 a 31 Hydref 2019, ac ni wnaeth 50 y cant o wasanaethau fodloni’r gofyniad cytundebol sy’n dweud bod yn rhaid i 95 y cant o wasanaethau fod ar amser yn 2018/19.

 

“Dyw hyn ddim yn ddigon da, ac mae’n tynnu sylw at y ffaith bod angen gweithredu ar unwaith i sicrhau bod teithio yn bell ar fws yng Nghymru yn ddibynadwy.

 

“Ar hyn o bryd, dyw’r gwasanaeth sy’n cael ei gyllido gan Lywodraeth Cymru ddim yn gwireddu ei botensial.

 

“Mae arian trethdalwyr yn cadw’r bysus hyn ar y ffyrdd, felly’r peth lleiaf y gallen ni ei ddisgwyl yw gwasanaeth boddhaol”.

 

DIWEDD

 

Cwestiwn ysgrifenedig i’r Cynulliad gan Janet Finch-Saunders AC:

 

Mewn perthynas â WAQ79062, all y Gweinidog nodi pa un o’r 12 darparwr gwasanaeth Traws Cymru fodlonodd y gofyniad sy’n nodi bod yn rhaid i 95 y cant o wasanaethau redeg ar amser yn 2018/19?

 

Ymateb gan Ken Skates AC, Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth:

 

Yn ystod 2018/19, cofnodwyd bod y gwasanaethau TrawsCymru canlynol wedi bodloni targed y Comisiynydd Trafnidiaeth o redeg ar amser 95%: T1, T1C, T2, T3, T5, T12.

  • Senedd News

You may also be interested in

Janet

First Minister Urged to Keep to his word and Make Business Support “Immediately available”

Wednesday, 12 May, 2021

Janet Finch-Saunders, Member of the Senedd for Aberconwy, has written to Mark Drakeford MS, First Minister, urging him to keep to his word and make business support immediately available.

 

Show only

  • Articles
  • Assembly News
  • Local News
  • Media
  • Opinions
  • Senedd News
  • Speeches
  • Westminster News

Janet Finch-Saunders MS/AS Aberconwy

Footer

  • About RSS
  • Accessibility
  • Cookies
  • Privacy
  • About/Am Janet Finch-Saunders
  • Polisi Diogelu Data a Phreifatrwydd
Promoted by Mostyn Jones on behalf of Janet Finch-Saunders, both of 29 Madoc Street, Llandudno, LL30 2TL

Neither the Welsh Parliament, nor Janet Finch-Saunders are responsible for the content of external links or websites. The costs of this website have been met by the Senedd Commission from public funds | Nid yw Senedd Cymru na Janet Finch Saunders yn gyfrifol am gynnwys lincs na gwefannau allanol. Mae Comisiwn y Senedd wedi talu costau'r wefan hon o arian cyhoeddus.

Copyright 2021 Janet Finch-Saunders MS/AS Aberconwy. All rights reserved.
Powered by Bluetree