A recent Freedom of Information (FOI) request submitted to 22 local authorities across Wales sought to establish what proportion of chicken used in school meals was produced and reared in Wales, the UK, the EU, and outside the EU.
The responses were striking. Of the 20 authorities that replied, three reported that over 85% of the chicken used in their schools was sourced from outside the UK and EU, including countries such as Thailand and China.
One of the three councils over 85% was Conwy County Borough Council, where an alarming 94% of the chicken used in school meals was sourced from Thailand and Brazil. Conwy recorded the second-highest figure of imported chicken among all 22 authorities contacted.
The revelation of these figures has sparked outrage among campaign groups, including the Countryside Alliance, which has called for urgent action to ensure that public money spent on school meals supports Welsh farming, upholds high food standards, and promotes sustainability.
Parents across Wales have also voiced serious concerns. Many say they had assumed school meals would prioritise Welsh produce and local sourcing. As a result, some parents are now considering withdrawing from the free school meals scheme altogether, opting instead to provide packed lunches on moral and health grounds.
Janet Finch-Saunders, Senedd Member for Aberconwy said:
“Parents are absolutely right to be shocked. For something as fundamental as school meals, people reasonably expect food to be sourced at least from Britain, and preferably from Wales, particularly when the Welsh Government repeatedly states its intention to support Welsh farmers and reduce food miles.
If we truly value our children’s health, our environment and our rural economy, then Welsh food should be the default in Welsh schools.
This situation highlights a clear gap between what the Welsh Government says and what is actually happening on the ground. Ministers must urgently work with councils to ensure school meals contracts prioritise Welsh produce, so public money supports local farmers and local jobs.”
Roedd cais Rhyddid Gwybodaeth yn ddiweddar a gyflwynwyd gan y Gynghrair Cefn Gwlad i 22 awdurdod lleol ledled Cymru yn ceisio canfod pa gyfran o’r cig cyw iâr a ddefnyddir mewn prydau ysgol sy’n cael ei chynhyrchu a'i magu yng Nghymru, y DU, yr UE, a thu allan i'r UE.
Roedd yr ymatebion yn drawiadol. O'r 20 awdurdod a atebodd, dywedodd tri fod dros 85% o’r cig cyw iâr a ddefnyddiwyd yn eu hysgolion yn dod o'r tu allan i'r DU a'r UE, gan gynnwys gwledydd fel Gwlad Thai a Tsieina.
Un o'r tri chyngor dros 85% oedd Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy, oedd â’r ffigur brawychus o 94% o'r cig cyw iâr a ddefnyddiwyd mewn prydau ysgol yn dod o Wlad Thai a Brasil. Cofnododd Conwy yr ail ffigur uchaf o gywion ieir wedi'u mewnforio ymhlith yr holl 22 awdurdod y cysylltwyd â nhw.
Mae datgelu'r ffigurau hyn wedi ennyn dicter ymhlith grwpiau ymgyrchu, gan gynnwys y Gynghrair Cefn Gwlad, sydd wedi galw am weithredu ar unwaith i sicrhau bod arian cyhoeddus sy'n cael ei wario ar brydau ysgol yn cefnogi amaeth yng Nghymru, yn cynnal safonau bwyd uchel, ac yn hyrwyddo cynaliadwyedd.
Mae rhieni ledled Cymru hefyd wedi mynegi pryderon difrifol. Mae llawer yn dweud eu bod wedi cymryd yn ganiataol y byddai prydau ysgol yn blaenoriaethu cynnyrch Cymreig a lleol. O ganlyniad, mae rhai rhieni bellach yn ystyried tynnu'n ôl o'r cynllun prydau ysgol am ddim yn gyfan gwbl, gan ddewis darparu pecyn cinio ar sail foesol ac iechyd.
Meddai Janet Finch-Saunders, yr Aelod o’r Senedd dros Aberconwy:
"Gellir deall yn iawn pan mae rhieni mewn sioc. Ar gyfer rhywbeth mor sylfaenol â phrydau ysgol, mae pobl yn ddigon rhesymol yn disgwyl fod y bwyd yn dod o Brydain o leiaf, ac yn ddelfrydol o Gymru, yn enwedig pan fydd Llywodraeth Cymru yn datgan dro ar ôl tro ei bwriad i gefnogi ffermwyr Cymru a lleihau milltiroedd bwyd.
Os ydyn ni wir yn gwerthfawrogi iechyd ein plant, ein hamgylchedd a'n heconomi wledig, yna dylai bwyd Cymreig fod yn ddewis diofyn yn ysgolion Cymru.
Mae'r sefyllfa hon yn tynnu sylw at fwlch clir rhwng yr hyn y mae Llywodraeth Cymru yn ei ddweud a'r hyn sy'n digwydd ar lawr gwlad. Rhaid i weinidogion weithio gyda chynghorau ar unwaith i sicrhau bod contractau prydau ysgol yn blaenoriaethu cynnyrch Cymreig, fel bod arian cyhoeddus yn cefnogi ffermwyr lleol a swyddi lleol."