Skip to main content
Banner image for Janet Finch-Saunders MS/AS

Janet Finch-Saunders MS/AS

ABERCONWY

Main navigation

  • Home/Hafan
  • Janet
  • News/Newyddion
  • Senedd Cymru
  • Contact/Manylion Cyswllt

AS Aberconwy i gynnal cyfres o drafodaethau bord gron ar letygarwch

  • Tweet
Thursday, 4 February, 2021
Janet Finch-Saunders MS

Yn gyson â’i gwaith ymgyrchu diweddar ar ran yr economi dwristiaeth ranbarthol, mae Janet Finch-Saunders AS – yr Aelod o’r Senedd dros Aberconwy – heddiw (04 Chwefror) wedi siarad am ei chynlluniau i gynnal cyfres o fforymau rhithwir ar gyfer darparwyr llety lleol.

Y gobaith yw y bydd y fforymau digidol hyn yn cynnig y cyfle i drafod yr heriau unigryw sy’n wynebu’r diwydiant, yn enwedig yn sgil Coronafeirws, gyda golwg ar lunio cynllun ar gyfer cryfhau’r sector, wrth i’r rhanbarth geisio adfer ar ôl digwyddiadau’r flwyddyn ddiwethaf.

Bydd y drafodaeth bord gron gyntaf yn archwilio effaith y pandemig Coronafeirws ar westai’r etholaeth, gydag anerchiadau i ddod gan Berin Jones, Cadeirydd Cymdeithas Lletygarwch Llandudno, a Jim Jones, Cyfarwyddwr Twristiaeth Go North Wales. Bydd dau ddigwyddiad pellach yn cynnal trafodaethau gyda thai llety a gwely a brecwast, ynghyd â llety hunanarlwyo a pharciau gwyliau.

Gan siarad cyn y tymor hwn o ddigwyddiadau digidol, dywedodd Janet:

“Gydol y pandemig, rwyf wedi bod yn falch iawn o gael cynnal trafodaethau rhithwir rheolaidd gyda darparwyr llety lleol. Nawr, bydd y fforymau bord gron rithwir newydd hyn yn rhoi cyfle unigryw a mawr ei angen i drafod y materion maen nhw wedi’u hwynebu yn ystod y flwyddyn ddiwethaf.

“Er y flwyddyn ddiwethaf, rwy’n credu bod Aberconwy yn parhau yn guriad calon i gynnig twristiaeth Cymru. Wedi’r cwbl, awgryma ffigurau cyn y pandemig bod budd economaidd twristiaeth y Sir yn werth oddeutu £900 miliwn, gyda thua 9.5 miliwn o ymwelwyr bob blwyddyn.

“Mae’r diwydiant yn creu swyddi hollbwysig sydd hefyd o fudd i’n detholiad gwych lleol o gaffis, bwytai ac atyniadau. Gyda chymorth cynrychiolwyr masnach lleol, dylai’r trafodaethau hyn ddatgelu pa gymorth sydd eu hangen i sicrhau bod y diwydiant yn cryfhau unwaith eto.

“Wrth i’r flwyddyn hon ddechrau, ac wrth i’r broses o gyflwyno brechlyn yn raddol arwain at wyliau gartref eto haf eleni, dydy hi ond yn iawn fod y diwydiant yn meithrin cynllun positif i adfer ei hun yn gryfach nag erioed. Argymhellaf yn frwd bod unrhyw ddarparwr sydd â diddordeb yn mynychu’r sesiwn berthnasol.”

Diwedd 

Nodiadau i Olygyddion:  

  • Bydd y drafodaeth bord gron gyntaf hon ar gyfer gwestywyr lleol. Cynhelir y sesiwn hon rhwng 9:30 – 11:00am, ddydd Mercher 10 Chwefror, ar Microsoft Teams.
  • Gofynnir i westywyr sydd â diddordeb e-bostio laura.thompson@senedd.cymru i archebu lle a derbyn manylion ymuno.
  • Bydd dyddiadau ar gyfer sesiynau pellach yn cael eu cadarnhau maes o law, gyda’r gweithgareddau hyn yn cael eu hysbysebu drwy sianel cyfryngau cymdeithasol yr Aelod ac ar ei gwefan: www.janetfinchsaunders.org.uk
  • Local News

You may also be interested in

Janet

First Minister Urged to Keep to his word and Make Business Support “Immediately available”

Wednesday, 12 May, 2021

Janet Finch-Saunders, Member of the Senedd for Aberconwy, has written to Mark Drakeford MS, First Minister, urging him to keep to his word and make business support immediately available.

 

Show only

  • Articles
  • Assembly News
  • Local News
  • Media
  • Opinions
  • Senedd News
  • Speeches
  • Westminster News

Janet Finch-Saunders MS/AS Aberconwy

Footer

  • About RSS
  • Accessibility
  • Cookies
  • Privacy
  • About/Am Janet Finch-Saunders
  • Polisi Diogelu Data a Phreifatrwydd
Promoted by Mostyn Jones on behalf of Janet Finch-Saunders, both of 29 Madoc Street, Llandudno, LL30 2TL

Neither the Welsh Parliament, nor Janet Finch-Saunders are responsible for the content of external links or websites. The costs of this website have been met by the Senedd Commission from public funds | Nid yw Senedd Cymru na Janet Finch Saunders yn gyfrifol am gynnwys lincs na gwefannau allanol. Mae Comisiwn y Senedd wedi talu costau'r wefan hon o arian cyhoeddus.

Copyright 2021 Janet Finch-Saunders MS/AS Aberconwy. All rights reserved.
Powered by Bluetree