Skip to main content
Banner image for Janet Finch-Saunders MS/AS

Janet Finch-Saunders MS/AS

ABERCONWY

Main navigation

  • Home/Hafan
  • Janet
  • News/Newyddion
  • Senedd Cymru
  • Contact/Manylion Cyswllt

AS Aberconwy wedi dychryn bod plant lleol yn cael eu hanfon i Oldham am brawf COVID

  • Tweet
Friday, 11 September, 2020
Janet Finch-Saunders MS

Heddiw (11 Medi), mae Janet Finch-Saunders AS - Aelod o’r Senedd dros Aberconwy - wedi siarad am ei syndod o glywed bod nifer o rieni lleol yn wynebu anawsterau difrifol wrth iddynt geisio mynychu safle profion yn agos i gartref, gyda rhai yn clywed bod eu safle agosaf yn Oldham, ger Manceinion.

Mae Mrs Finch-Saunders bellach wedi ysgrifennu at Vaughan Gething AS, Gweinidog Iechyd Cymru, i ofyn am newid y system archebu profion ar-lein er mwyn iddi allu dangos yr holl slotiau sydd ar gael ben bore. Ar hyn o bryd, mae’r system archebu ar-lein yn oedi’r slotiau sydd ar gael gydol y dydd. Cyn gofyn am brawf, cynghorir preswylwyr bod yn rhaid iddynt gael o leiaf un o’r symptomau canlynol: peswch parhaus newydd, gwres, colli neu newid yn eu synnwyr arogli neu flasu.

Yn rhoi sylwadau ar bryderon trigolion lleol, dywedodd Janet:

“Mae’n peri pryder mawr i mi i glywed bod plant ysgol lleol yn cael cynnig slot profion COVID-19 ar safle yn Oldham, ger Manceinion. Mae hyn yn gwbl annerbyniol, yn enwedig wrth ystyried bod gennym safle profion gyda gallu digonol yn Llandudno.

“Mae rhieni yn aml wedi gweld bod slotiau ar y safle lleol wedi’u harchebu ymhell ymlaen llaw, gyda’r system archebu ar-lein yn achosi dryswch mawr a rhwystredigaeth. Mae hyn yn digwydd oherwydd bod slotiau rhydd yn ymddangos o nunlle gydol y dydd, heb reswm yn y byd mae’n debyg.

“Ar ôl i nifer o etholwyr pryderus gysylltu â mi, rydw i bellach wedi ysgrifennu at Weinidog Iechyd Cymru i siarsio newid i’r system archebu er mwyn gallu cynnig mwy o eglurder i rieni pryderus. Gyda’r flwyddyn ysgol wedi dechrau go iawn bellach, mae’n rhaid i’r weinyddiaeth sy’n gyfrifol am iechyd cyhoeddus yng Nghymru fynd i’r afael â’r mater ar unwaith.

“Yn y cyfamser, gall y preswylwyr hynny sy’n dangos symptomau Coronafeirws wneud cais am becyn profion cartref ar wefan Llywodraeth Cymru. Fodd bynnag, mae’n rhaid i mi bwysleisio y dylai’r person sy’n gwneud cais am y pecyn profion geisio cymryd y prawf hwn yn ystod 5 diwrnod cyntaf y symptomau.”

DIWEDD

  • Local News

You may also be interested in

Janet

First Minister Urged to Keep to his word and Make Business Support “Immediately available”

Wednesday, 12 May, 2021

Janet Finch-Saunders, Member of the Senedd for Aberconwy, has written to Mark Drakeford MS, First Minister, urging him to keep to his word and make business support immediately available.

 

Show only

  • Articles
  • Assembly News
  • Local News
  • Media
  • Opinions
  • Senedd News
  • Speeches
  • Westminster News

Janet Finch-Saunders MS/AS Aberconwy

Footer

  • About RSS
  • Accessibility
  • Cookies
  • Privacy
  • About/Am Janet Finch-Saunders
  • Polisi Diogelu Data a Phreifatrwydd
Promoted by Mostyn Jones on behalf of Janet Finch-Saunders, both of 29 Madoc Street, Llandudno, LL30 2TL

Neither the Welsh Parliament, nor Janet Finch-Saunders are responsible for the content of external links or websites. The costs of this website have been met by the Senedd Commission from public funds | Nid yw Senedd Cymru na Janet Finch Saunders yn gyfrifol am gynnwys lincs na gwefannau allanol. Mae Comisiwn y Senedd wedi talu costau'r wefan hon o arian cyhoeddus.

Copyright 2021 Janet Finch-Saunders MS/AS Aberconwy. All rights reserved.
Powered by Bluetree