Mae Janet Finch-Saunders AS – Aelod o’r Senedd dros Aberconwy – wedi ymuno â phreswylwyr Cartrefi Conwy ar Ddiwrnod Rhyngwladol Pobl Hŷn, drwy gyflwyno’r cwis rhithwir a sesiwn bingo.
Yn ei sylwadau agoriadol, siaradodd Janet am waith rhagorol a diflino Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig yng Nghymru, gan bwysleisio eu bod yn parhau yn gonglfaen ar gyfer cyflogaeth. Yn ôl Cartrefi Cymunedol Cymru, yn 2019/20, gwariodd cymdeithasau £1.3 biliwn yn uniongyrchol yn economi Cymru, ac am bob un o’r oddeutu 10,000 o staff llawn amser, rhoddwyd cefnogaeth i 1.5 swydd yn rhywle arall - ffaith y tynnwyd sylw ati yn araith ddiweddar Janet yng nghyfarfod llawn y Senedd.
Yn rhoi sylwadau ar ymdrechion cymunedol Cartrefi, dywedodd Janet:
“Yn ystod Wythnos Gwirfoddolwyr eleni, clywais am achosion hyfryd o staff yn bod yn hollol anhunanol, gan gynnwys y ffaith bod 100 o aelodau staff y gymdeithas dai wedi cerdded, seiclo, rhedeg a hyd yn oed hopian 25,000 milltir mewn Her o Gwmpas y Byd i helpu Hosbis Dewi Sant, gan godi £4,137.
“Hoffwn ganmol y staff hynny am eu hymdrechion gwych sy’n codi ysbryd ar ôl cyfnod mor galed, gan brofi eto bod ein 59 Landlord Cymdeithasol Cofrestredig yn gwneud cymaint dros ein cymunedau.”
Defnyddiodd Janet yr achlysur hefyd i roi sylw i’w gwaith ymgyrchu gan alw i’r gyfraith ddiogelu hawliau pobl hŷn. Wrth siarad am y mater ar ôl y digwyddiad, dywedodd Janet:
“Mae gan bawb yr hawl i gael eu trin gydag urddas a pharch. Fodd bynnag, mae profiadau pobl hŷn yn ystod y pandemig hwn wedi cryfhau’r achos dros ddiogelu eu hawliau ymhellach yn y gyfraith a gwella gwybodaeth a chydnabyddiaeth o’r hawliau hyn.
“Dychmygwch y gwahaniaeth y byddai’n ei wneud pe bai Gweinidogion Llywodraeth Cymru, awdurdodau lleol, byrddau iechyd ac awdurdodau eraill yng Nghymru yn gorfod rhoi ystyriaeth ddilys i’r angen i bobl hŷn gael mynediad at ofal iechyd a thai digonol.
“Gellir gwneud mwy i roi grym i bobl hŷn, a byddaf yn dal ati i roi sylw i hyn ym Mae Caerdydd.”
DIWEDD
Ffoto: Janet Finch-Saunders AS