Skip to main content
Banner image for Janet Finch-Saunders MS/AS

Janet Finch-Saunders MS/AS

ABERCONWY

Main navigation

  • Home/Hafan
  • Janet
  • News/Newyddion
  • Surveys/Holiaduron
  • Senedd Cymru
  • Surgeries/Cymorthfeydd
  • Contact/Manylion Cyswllt

AS Aberconwy yn amlinellu'r angen am ymchwiliad i lifogydd lleol yn araith Fforwm y Gymanwlad

  • Tweet
Tuesday, 23 March, 2021
Janet Finch-Saunders MS

Heddiw (23 Mawrth), bydd yr Aelod o’r Senedd dros Aberconwy a Gweinidog yr Wrthblaid y Ceidwadwyr Cymreig dros yr Amgylchedd - Janet Finch-Saunders AS - yn annerch Fforwm Seneddol y Gymanwlad ar Newid yn yr Hinsawdd gan egluro'r angen am strwythurau craffu i fynd i'r afael â heriau amgylcheddol a gweithredu ymrwymiadau.

Un pwnc o'r fath i'w drafod gan Mrs Finch-Saunders fydd yr angen am gamau craffu yn dilyn yr achosion o lifogydd. Y llynedd, cafwyd llifogydd mewn tua 70 eiddo yn Nyffryn Conwy. Mae'r Aelod wedi bod yn gefnogwr cryf i'r angen am ymchwiliad annibynnol i adolygu methiant y mesurau lliniaru llifogydd lleol.  

Ar y mater hwn, dywedodd Janet:

"I'n partneriaid yn y Gymanwlad heddiw, byddaf yn galw o’r newydd unwaith eto am ymchwiliad annibynnol i’r llifogydd lleol cyson – byddai cymryd camau i graffu’n fwy manwl yn sicrhau bod Llywodraeth Cymru yn newid eu hagwedd gan atal llifogydd yn hytrach nac adweithio iddynt.

"Mae'r llifogydd hyn bellach yn digwydd yn llawer rhy aml, ac mae’n gwbl amlwg bod newid yn yr hinsawdd yn fygythiad go iawn i drefi a phentrefi Dyffryn Conwy. Gan fod amcanestyniadau gwyddonol yn awgrymu y gall Cymru ddisgwyl mwy o ddigwyddiadau tywydd eithafol, rhaid inni geisio diogelu trigolion yn well.

"Ers 2019 rwyf wedi bod yn galw am ymchwiliad annibynnol i lifogydd yn Nyffryn Conwy, ac yn fwy diweddar mae cais tebyg wedi ei wneud gan y gymuned yn Rhondda Cynon Taf.

"Pan ddaw hi’n fater o lifogydd, yn hytrach na chael adroddiadau unigol ar ardaloedd penodol, mae angen i ni ystyried dalgylchoedd cyfan a gweithredu cynlluniau lliniaru o gopa mynyddoedd hyd eithaf aberoedd. Yn fy araith i'r fforwm rhyngwladol hwn, pan ddaw'n fater o graffu ac adolygu, byddaf yn galw am roi lle blaenllaw i gysylltiadau cymunedol."

Diwedd

  • Local News

You may also be interested in

Janet Finch-Saunders MS

Ymgynghoriad ar welliannau'r A470 Glan Conwy

Monday, 29 March, 2021

Heddiw, mae Janet Finch-Saunders, AS Aberconwy, wedi croesawu'r ffaith y bydd bwriad i beintio llinellau melyn ar hyd yr A470 yng Nglan Conwy yn destun ymgynghoriad.

Show only

  • Articles
  • Assembly News
  • Local News
  • Media
  • Opinions
  • Senedd News
  • Speeches
  • Westminster News

Janet Finch-Saunders MS Aberconwy

Footer

  • About RSS
  • Accessibility
  • Cookies
  • Privacy
  • About/Am Janet Finch-Saunders
  • Polisi Diogelu Data a Phreifatrwydd
Promoted by Mostyn Jones on behalf of Janet Finch-Saunders MS/AS, both of 29 Madoc Street, Llandudno, LL30 2TL

Neither the Welsh Parliament, nor Janet Finch-Saunders are responsible for the content of external links or websites | Nid yw Senedd Cymru na Janet Finch Saunders yn gyfrifol am gynnwys lincs na gwefannau allanol.

Copyright 2021 Janet Finch-Saunders MS Aberconwy. All rights reserved.
Powered by Bluetree