Skip to main content
Banner image for Janet Finch-Saunders MS/AS

Janet Finch-Saunders MS/AS

ABERCONWY

Main navigation

  • Home/Hafan
  • Janet
  • News/Newyddion
  • Senedd Cymru
  • Contact/Manylion Cyswllt

AS Aberconwy yn annog cyfranogiad at ymgynghoriad ar Lyfrgell Aberconwy

  • Tweet
Wednesday, 3 February, 2021
Tom Hermans ar Unsplash

Heddiw (3 Chwefror), anogodd Janet Finch-Saunders AS – yr Aelod o’r Senedd dros Aberconwy – breswylwyr i gymryd rhan yn yr ymgynghoriad ar symud Llyfrgell Llanrwst i lawr isaf Canolfan Fusnes a Chynadledda Glasdir.

Wrth ofyn am gyfraniadau, dywedodd Janet:

“Mae Llyfrgell Llanrwst yn gyfleuster poblogaidd a gwerthfawr sy’n parhau yn rhan bwysig o’r gymuned wledig hon, yn enwedig wrth ddarparu gwasanaethau hanfodol fel mynediad am ddim i’r cyhoedd at gyfrifiaduron.

“Mae Llyfrgell Llanrwst yn hyb cymunedol go iawn, gyda hanes o ddarparu grwpiau darllen, amser stori ar gyfer y plant lleiaf a dosbarthiadau addysg ddigidol. Hyd yn oed drwy’r pandemig, ac fel rhan o Lyfrgelloedd Conwy, mae Gwasanaeth Galw a Chasglu wedi’i gynnal, gan ein galluogi i ddal ati i bori mewn llenyddiaeth.

“O ystyried defnydd cynyddol o’r llyfrgell, mae swyddogion wedi hen gydnabod bod yr adeilad presennol yn rhy fach ac y byddai angen buddsoddiad sylweddol ynddo. Yn dilyn cau Canolfan Fusnes a Chynadledda Glasdir yn annisgwyl, maen nhw bellach wedi cynnig cynlluniau i symud i lawr isaf y Ganolfan.

“Y gobaith yw y bydd symud fel hyn yn galluogi’r llyfrgell i ddarparu cyfleusterau a gwasanaethau ychwanegol. Byddwn yn sicr yn annog preswylwyr lleol yn frwd i edrych ar y cynigion ar wefan Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy a chwblhau’r holiadur. Mae’r llyfrgell hon yn eiddo i ni i gyd, felly mae’n hanfodol bod eich llais yn cael ei glywed.”

DIWEDD

Nodiadau i Olygyddion

  • Gellir gweld lluniadau o sut byddai’r llyfrgell newydd yn edrych ar wefan y gwasanaeth. Mae holiadur i etholwyr lleol ar gael i’w gwblhau ar-lein yn: conwy.gov.uk/llanrwstlibrary

Ffoto: Tom Hermans ar Unsplash

  • Local News

You may also be interested in

Janet

First Minister Urged to Keep to his word and Make Business Support “Immediately available”

Wednesday, 12 May, 2021

Janet Finch-Saunders, Member of the Senedd for Aberconwy, has written to Mark Drakeford MS, First Minister, urging him to keep to his word and make business support immediately available.

 

Show only

  • Articles
  • Assembly News
  • Local News
  • Media
  • Opinions
  • Senedd News
  • Speeches
  • Westminster News

Janet Finch-Saunders MS/AS Aberconwy

Footer

  • About RSS
  • Accessibility
  • Cookies
  • Privacy
  • About/Am Janet Finch-Saunders
  • Polisi Diogelu Data a Phreifatrwydd
Promoted by Mostyn Jones on behalf of Janet Finch-Saunders, both of 29 Madoc Street, Llandudno, LL30 2TL

Neither the Welsh Parliament, nor Janet Finch-Saunders are responsible for the content of external links or websites. The costs of this website have been met by the Senedd Commission from public funds | Nid yw Senedd Cymru na Janet Finch Saunders yn gyfrifol am gynnwys lincs na gwefannau allanol. Mae Comisiwn y Senedd wedi talu costau'r wefan hon o arian cyhoeddus.

Copyright 2021 Janet Finch-Saunders MS/AS Aberconwy. All rights reserved.
Powered by Bluetree