Skip to main content
Banner image for Janet Finch-Saunders MS/AS

Janet Finch-Saunders MS/AS

ABERCONWY

Main navigation

  • Home/Hafan
  • Janet
  • News/Newyddion
  • Surveys/Holiaduron
  • Senedd Cymru
  • Surgeries/Cymorthfeydd
  • Contact/Manylion Cyswllt

AS Aberconwy yn annog y Prif Weinidog i gael gwared ar y rheol 5 milltir

  • Tweet
Tuesday, 23 June, 2020
Janet Finch-Saunders MS

Mae Janet Finch-Saunders AS, Aelod Senedd Cymru dros Aberconwy, wedi ysgrifennu at y Prif Weinidog yn tynnu sylw at bryderon trigolion lleol. Daw ei llythyr brys yn sgil cyhoeddiad Llywodraeth Cymru ddydd Gwener am lacio rhai cyfyngiadau COVID-19.

Mae rheoliadau diweddaraf Llywodraeth Cymru, gyda rhai wedi dod i rym ddoe, yn dweud nad yw’r gofyniad i aros yn lleol wedi newid. Fodd bynnag, gall pobl deithio y tu allan i’w hardal leol ar ‘sail dosturiol’ yn awr, sy’n cynnwys gweld perthynas hŷn mewn cartref gofal neu blentyn mewn sefydliad troseddwyr ifanc.

Wrth siarad am ei llythyr at y Prif Weinidog, dywedodd Janet:

“Er fy mod yn croesawu’r ffaith fod Llywodraeth Cymru wedi gwrando ar alwadau’r Ceidwadwyr Cymreig o’r diwedd i ailagor economi’r genedl, rwy’n siomedig iawn clywed y newyddion y bydd y rheol 5 milltir greulon ar waith tan 6 Gorffennaf.

“Mae’n peri gofid nad yw’r Prif Weinidog yn llwyr amgyffred realiti byw yn y Gogledd, lle mae pobl yn gorfod teithio’n llawer pellach yn aml i siopa bob wythnos, heb sôn am weld eu teuluoedd.

“Hoffwn atgoffa Mark Drakeford a’i weinyddiaeth bod y rheol 5 milltir greulon yn cael effaith negyddol enfawr ar les meddyliol pobl, gydag etholwyr yn cael eu cadw oddi wrth eu hanwyliaid bregus yn ddiangen mewn cyfnod anodd dros ben.

“Mae’n rhaid i’r Prif Weinidog egluro a yw wedi ymgynghori â Chomisiynydd Pobl Hŷn Cymru ar effaith y gofyniad i aros yn lleol ar yr unigolion y maent yn eu cynrychioli. Dylai’r Prif Weinidog ddatgan yn glir hefyd y gall teuluoedd deithio unrhyw bellter i weld eu hanwyliaid.”

DIWEDD

  • Local News

You may also be interested in

Flood

Shadow Minister Presents Transformative Flood Plan for Wales

Wednesday, 27 January, 2021

Following the devastation caused by flooding across Wales due to Storm Christoph, Janet Finch-Saunders MS, Shadow Minister for Climate Change, Energy, and Rural Affairs, has called on the Welsh Parliament to back her transformative six point plan for protecting communities.

 

Show only

  • Articles
  • Assembly News
  • Local News
  • Media
  • Opinions
  • Senedd News
  • Speeches
  • Westminster News

Janet Finch-Saunders MS Aberconwy

Footer

  • About RSS
  • Accessibility
  • Cookies
  • Privacy
  • About/Am Janet Finch-Saunders MS/AS
  • Polisi Diogelu Data a Phreifatrwydd
Promoted by Mostyn Jones on behalf of Janet Finch-Saunders MS/AS, both of 29 Madoc Street, Llandudno, LL30 2TL

Neither the Welsh Parliament, nor Janet Finch-Saunders are responsible for the content of external links or websites | Nid yw Senedd Cymru na Janet Finch Saunders yn gyfrifol am gynnwys lincs na gwefannau allanol.

Copyright 2021 Janet Finch-Saunders MS Aberconwy. All rights reserved.
Powered by Bluetree