Heddiw (10 Chwefror), mae Janet Finch-Saunders AS – Aelod o Senedd Cymru dros Aberconwy – wedi arwain teyrngedau’r etholaeth i weithwyr iechyd rheng flaen ac arwyr gofal di-glod yr etholaeth, wrth i Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr fod y Bwrdd Iechyd cyntaf yng Nghymru i fynd heibio 100,000 dos.
Wrth ymweld â Venue Cymru, safle Canolfan Brechu Torfol Llandudno, ailadroddodd Janet ei bod yn dal i fod ar gael i helpu’r etholwyr drwy’r cyfnod hwn. Anogodd unrhyw drigolion 70 oed neu drosodd, sydd heb dderbyn eu dos cyntaf o’r brechlyn eto, i ffonio llinell gymorth archebu’r Bwrdd Iechyd ar 03000 840004. Dim ond ar gyfer trefnu apwyntiadau i bobl 70 oed a hŷn, neu’r rhai oedd ar y rhestr warchod, y dylid defnyddio’r rhif ffôn hwn ac nid unrhyw reswm arall. Dylai pobl o dan 70 oed barhau i aros i’r GIG gysylltu â nhw am eu hapwyntiad brechu.
Wrth ddathlu’r staff sy’n gweinyddu’r ymateb, meddai Janet:
“Rwy’n falch o arwain teyrngedau’r etholaeth i’n hymatebwyr i’r Coronafeirws wrth i Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr fynd heibio 100,000 dos o’r brechlyn – y Bwrdd Iechyd cyntaf yng Nghymru i wneud hynny. Mae’r garreg filltir hon yn glod i’n gweithlu lleol ymroddgar, yn ei holl agweddau, sydd wedi parhau i frwydro dros fisoedd heriol y gaeaf.
“Mae’n gallu bod yn anodd mesur yn llawn ein gwerthfawrogiad o waith caled ymroddedig yr ymatebwyr lleol i’r Coronafeirws yn ystod y pandemig, a’r rhaglen frechu ddilynol. Maen nhw’n glod i’w proffesiwn, ac yn amlygu pam y bydd ein Gwasanaeth Iechyd Gwladol, ein darparwyr gofal a’n lluoedd arfog yn parhau i fod yn destun balchder yn y Deyrnas Unedig.
“O’r glanhawyr a chlercod; cogyddion a staff cefndir; i’n staff iechyd rheng flaen, darparwyr gofal a gwirfoddolwyr – mae’r ymdrech frechu leol hon wedi rhoi ysbryd cymunedol ar y blaen, a hynny’n haeddiannol. Bydd hyn yn cael ei gofio a bydd eich ymdrechion yn ganolog i’n cynlluniau i adfer yn well.
“Wrth i fwy o etholwyr dderbyn eu brechiad cyntaf, mae llawer wedi gyrru e-byst diolchgar sy’n tanlinellu’r gwaith anhunanol rydych wedi’i wneud. Tra bydd y rhaglen yn parhau i fynd rhagddi, yn y rhanbarth hwn sy’n cynnwys y gyfran fwyaf o drigolion dros 65 oed, gobeithio y bydd gwybod am y gwerthfawrogiad hwn yn helpu i gynnal morâl.
“Rwy’n sylweddoli nad yw rhai pobl sy’n gymwys wedi derbyn eu brechiad cyntaf eto, ac rwy’n annog trigolion blaenoriaeth o’r fath i ffonio llinell archebu’r Bwrdd Iechyd. Os ydych yn cael unrhyw broblemau neu os oes gennych bryderon, rwy’n dal i fod wrth law i helpu lle bo’n bosibl. Rwyf hefyd yn gohebu gyda darparwyr gofal lleol wrth i’r sefyllfa barhau i esblygu.”
DIWEDD
Llun: Daniel Schludi ar Unsplash