Skip to main content
Banner image for Janet Finch-Saunders MS/AS

Janet Finch-Saunders MS/AS

ABERCONWY

Main navigation

  • Home/Hafan
  • Janet
  • News/Newyddion
  • Senedd Cymru
  • Contact/Manylion Cyswllt

AS Aberconwy yn cael sicrwydd ymrwymiad diogelwch ffyrdd ar gyfer croesfan Glan Conwy

  • Tweet
Monday, 23 November, 2020
Janet Finch-Saunders MS

Heddiw (23 Tachwedd), mae Janet Finch-Saunders AS - Aelod o’r Senedd dros Aberconwy - wedi croesawu arwyddion dros dro, ynghyd ag asesiad gwelededd i bennu mesurau mwy parhaol, fel ffordd o wella diogelwch o gwmpas y groesfan sebra newydd yng Nglan Conwy.

Daw'r diweddariad hwn o ganlyniad i sgyrsiau parhaus rhwng Mrs Finch-Saunders, swyddogion Llywodraeth Cymru ac Asiant Cefnffyrdd Gogledd a Chanolbarth Cymru (NMWTRA).

Wrth sôn am yr ymrwymiadau, dywedodd Janet:

“Yn dilyn pryderon a godwyd ynghylch diogelwch y groesfan sebra yng Nglan Conwy, fe wnes i sylwadau ar frys i Lywodraeth Cymru a arweiniodd at gyflwyno arwyddion dros dro. Rwy’n croesawu’r newyddion y bydd yr asiantaeth Cefnffyrdd yn cynnal asesiad gwelededd hanfodol i bennu mesurau mwy parhaol.

"Ymhlith y mesurau parhaol hynny sy'n cael eu hystyried mae cyflwyno arwyneb gwrth-sgid, llwydfelyn ar y ffordd at y groesfan. Mae swyddogion yn fy hysbysu bod yr arwyneb hwn wedi'i gynllunio i helpu gyrwyr i sylwi ar y groesfan wrth nesáu ati. Dylai mwy o ymwybyddiaeth o'r groesfan helpu defnyddwyr ffyrdd i arafu mewn da bryd, gan leihau'r risg i gerddwyr.

“Ers tua wyth mlynedd, rydw i wedi bod yn gweithio gyda’r gymuned i gael croesfan sebra yng Nglan Conwy. Rydym wedi protestio ac rydw i wedi ysgrifennu llythyrau a gofyn sawl cwestiwn i weinidogion Llywodraeth Cymru. Rwy’n croesawu’r arwydd positif hwn o gynnydd fel ffordd o ddiogelu cerddwyr a byddaf yn dal ati i fonitro’r sefyllfa i sicrhau bod yr ymrwymiadau’n cael eu cyflawni.

“Rwy’n gwerthfawrogi o waelod calon amynedd a chefnogaeth benderfynol trigolion Glan Conwy i’m gwaith yn deisebu dros y gwelliannau ffyrdd lleol hanfodol hyn, sy’n pwysleisio eto gwerth y lle fel lle gwych i fyw a gweithio. Rwy’n annog preswylwyr lleol sydd ag unrhyw bryderon pellach ar y mater i e-bostio fy swyddfa ar unwaith, er mwyn i mi allu gweithredu.”

DIWEDD

  • Local News

You may also be interested in

Janet

First Minister Urged to Keep to his word and Make Business Support “Immediately available”

Wednesday, 12 May, 2021

Janet Finch-Saunders, Member of the Senedd for Aberconwy, has written to Mark Drakeford MS, First Minister, urging him to keep to his word and make business support immediately available.

 

Show only

  • Articles
  • Assembly News
  • Local News
  • Media
  • Opinions
  • Senedd News
  • Speeches
  • Westminster News

Janet Finch-Saunders MS/AS Aberconwy

Footer

  • About RSS
  • Accessibility
  • Cookies
  • Privacy
  • About/Am Janet Finch-Saunders
  • Polisi Diogelu Data a Phreifatrwydd
Promoted by Mostyn Jones on behalf of Janet Finch-Saunders, both of 29 Madoc Street, Llandudno, LL30 2TL

Neither the Welsh Parliament, nor Janet Finch-Saunders are responsible for the content of external links or websites. The costs of this website have been met by the Senedd Commission from public funds | Nid yw Senedd Cymru na Janet Finch Saunders yn gyfrifol am gynnwys lincs na gwefannau allanol. Mae Comisiwn y Senedd wedi talu costau'r wefan hon o arian cyhoeddus.

Copyright 2021 Janet Finch-Saunders MS/AS Aberconwy. All rights reserved.
Powered by Bluetree