Skip to main content
Banner image for Janet Finch-Saunders MS/AS

Janet Finch-Saunders MS/AS

ABERCONWY

Main navigation

  • Home/Hafan
  • Janet
  • News/Newyddion
  • Senedd Cymru
  • Contact/Manylion Cyswllt

AS Aberconwy yn croesawu dechrau’r gwaith ar groesfan Glan Conwy

  • Tweet
Tuesday, 23 February, 2021
Alexandria Gilliott ar Unsplash

Heddiw (23 Chwefror), croesawodd Janet Finch-Saunders AS – Aelod o’r Senedd Aberconwy – y newyddion bod gwaith ychwanegol wedi dechrau i ddatrys problemau gyda chroesfan Glan Conwy, gyda mesurau newydd wedi’u deddfu i sicrhau bod ceir wedi eu parcio’n cadw'n glir o'r llain welededd. Disgwylir i’r gwaith ffordd lleol bara tair wythnos i gyd.

Wrth groesawu’r datblygiad, dywedodd Janet:

“Yn sgil y pryderon lleol am ddiogelwch y groesfan sebra yng Nglan Conwy, roeddwn i’n falch iawn o gyflwyno achos ar unwaith i Lywodraeth Cymru a arweiniodd at gynnig cynllun newydd i sicrhau bod gyrwyr yn ymwybodol o’r groesfan mewn da bryd.

“Ers tua wyth blynedd bellach rwyf wedi bod yn gweithio gyda’r gymuned i sicrhau croesfan sebra ar gyfer Glan Conwy. Rydym ni wedi protestio, ac rwyf wedi ysgrifennu llythyrau a gofyn cwestiwn ar ôl cwestiwn i Weinidogion Llywodraeth Cymru. Rwy’n croesawu’r ffaith ei bod hi’n ymddangos bod yr holl bwyso yn dwyn ffrwyth.

“Wrth i’r gwaith hanfodol ac ychwanegol hwn gychwyn ar groesfan Glan Conwy, hoffwn ddiolch i’r Asiant Cefnffyrdd am eu cydweithrediad parhaus ar y mater hwn, sydd wedi arwain at ddatrys y mater yn gyflym a chlir er budd defnyddwyr ffyrdd a cherddwyr.

“Rwy’n gwerthfawrogi amynedd a chefnogaeth ddi-ben-draw preswylwyr Glan Conwy yn fy ngwaith yn deisebu dros y gwelliannau ffyrdd lleol hanfodol hyn. Anogaf bob preswylydd sydd ag  unrhyw bryderon pellach ar faterion cysylltiedig i e-bostio fy swyddfa ar unwaith, er mwyn i ni allu cymryd camau’n ddi-oed.”

DIWEDD 

Nodiadau i Olygyddion: 

  • Adroddwyd ar y newyddion am yr ymrwymiad i’r cynllun gyntaf yma:  https://www.janetfinchsaunders.org.uk/news/aberconwy-ms-clinches-design-commitment-improve-road-safety-glan-conwy  
  • Mae gwaith diogelwch ffyrdd arall Janet ar gael yma..  

Ffoto: Alexandria Gilliott ar Unsplash

 

  • Local News

You may also be interested in

Janet

First Minister Urged to Keep to his word and Make Business Support “Immediately available”

Wednesday, 12 May, 2021

Janet Finch-Saunders, Member of the Senedd for Aberconwy, has written to Mark Drakeford MS, First Minister, urging him to keep to his word and make business support immediately available.

 

Show only

  • Articles
  • Assembly News
  • Local News
  • Media
  • Opinions
  • Senedd News
  • Speeches
  • Westminster News

Janet Finch-Saunders MS/AS Aberconwy

Footer

  • About RSS
  • Accessibility
  • Cookies
  • Privacy
  • About/Am Janet Finch-Saunders
  • Polisi Diogelu Data a Phreifatrwydd
Promoted by Mostyn Jones on behalf of Janet Finch-Saunders, both of 29 Madoc Street, Llandudno, LL30 2TL

Neither the Welsh Parliament, nor Janet Finch-Saunders are responsible for the content of external links or websites. The costs of this website have been met by the Senedd Commission from public funds | Nid yw Senedd Cymru na Janet Finch Saunders yn gyfrifol am gynnwys lincs na gwefannau allanol. Mae Comisiwn y Senedd wedi talu costau'r wefan hon o arian cyhoeddus.

Copyright 2021 Janet Finch-Saunders MS/AS Aberconwy. All rights reserved.
Powered by Bluetree