Skip to main content
Banner image for Janet Finch-Saunders MS/AS

Janet Finch-Saunders MS/AS

ABERCONWY

Main navigation

  • Home/Hafan
  • Janet
  • News/Newyddion
  • Senedd Cymru
  • Contact/Manylion Cyswllt

AS Aberconwy yn croesawu’r bwriad i ailagor llinell rheilffordd Dyffryn Conwy

  • Tweet
Tuesday, 22 September, 2020
Janet Finch-Saunders MS

Heddiw (22 Medi), mae Janet Finch-Saunders AS - Aelod o’r Senedd dros Aberconwy - wedi croesawu’r cyhoeddiad y bydd gwasanaethau teithwyr yn ailddechrau ar linell rheilffordd Dyffryn Conwy ddydd Llun 28 Medi 2020.

Mae’r bwriad i ailagor y llinell yn dilyn buddsoddiad o £2.2 miliwn gan Network Rail ar hyd y rheilffordd o Flaenau Ffestiniog i Landudno, gyda’r nod o wneud y rheilffordd yn fwy cydnerth i wrthsefyll tywydd garw. Yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf, mae’r llinell wedi cael ei golchi i ffwrdd yn rhannol yn dilyn sawl llif, gan arwain at gau a tharfu am gyfnodau maith i bobl, busnesau a chymunedau Dyffryn Conwy.

Gan roi sylwadau ar y cyhoeddiad i ailagor, dywedodd Janet:

“Dwi ar ben fy nigon gyda’r newyddion hwn gan Bartneriaeth Rheilffordd Dyffryn Conwy. Bydd y bwriad i ailagor yn rhoi sicrwydd i drigolion, sydd wedi cael eu gorfodi i ddefnyddio gwasanaethau bws amgen yn rhy aml yn y blynyddoedd diwethaf.

“O ystyried bod rheilffordd Dyffryn Conwy wedi wynebu problemau yn dilyn glaw ysgafn hyd yn oed yn y gorffennol, rwyf hefyd yn croesawu’r bwriad i osod 16,000 tunnell o falast rhwng Tal y Cafn a Llanrwst, sy’n benderfyniad doeth o ystyried ein hinsawdd newidiol a’r nifer cynyddol o achosion o lifogydd yn lleol.

“Mae National Rail yn mynnu y dylai’r amddiffynfa garreg hon helpu i arafu llifddwr a’i atal rhag ysgubo arglawdd y rheilffordd a’r balast sy’n cefnogi’r rheilffordd i ffwrdd. Byddaf yn dal ati i adolygu’r sefyllfa dros fisoedd y gaeaf er mwyn sicrhau bod yr amddiffynfa hon yn gweithio fel y dylai.

“Gyda’r addewid am amserlen fwy dibynadwy, gobeithio y bydd penllanw’r gwaith hwn yn dangos sut mae amynedd lleol wedi talu ar ei ganfed. Mae’r rheilffordd hon yn cynnig gwasanaeth hollbwysig sy’n cysylltu rhai o gymunedau mwyaf gwledig Conwy ac felly rwyf wedi ymgyrchu’n gyson am fuddsoddiad pellach i sicrhau ei dyfodol yn yr hirdymor.

“Gyda chymaint o atyniadau mawr yn y DU yn agos iawn i’r gorsafoedd, fel Gerddi Bodnant, a Pharc Cenedlaethol Eryri yn amlwg, mae’n hollbwysig bod y rheilffordd hanfodol hon yn cael ei diogelu er mwyn amddiffyn rhagolygon economaidd y Gogledd.”

DIWEDD

  • Local News

You may also be interested in

Janet

First Minister Urged to Keep to his word and Make Business Support “Immediately available”

Wednesday, 12 May, 2021

Janet Finch-Saunders, Member of the Senedd for Aberconwy, has written to Mark Drakeford MS, First Minister, urging him to keep to his word and make business support immediately available.

 

Show only

  • Articles
  • Assembly News
  • Local News
  • Media
  • Opinions
  • Senedd News
  • Speeches
  • Westminster News

Janet Finch-Saunders MS/AS Aberconwy

Footer

  • About RSS
  • Accessibility
  • Cookies
  • Privacy
  • About/Am Janet Finch-Saunders
  • Polisi Diogelu Data a Phreifatrwydd
Promoted by Mostyn Jones on behalf of Janet Finch-Saunders, both of 29 Madoc Street, Llandudno, LL30 2TL

Neither the Welsh Parliament, nor Janet Finch-Saunders are responsible for the content of external links or websites. The costs of this website have been met by the Senedd Commission from public funds | Nid yw Senedd Cymru na Janet Finch Saunders yn gyfrifol am gynnwys lincs na gwefannau allanol. Mae Comisiwn y Senedd wedi talu costau'r wefan hon o arian cyhoeddus.

Copyright 2021 Janet Finch-Saunders MS/AS Aberconwy. All rights reserved.
Powered by Bluetree