Skip to main content
Banner image for Janet Finch-Saunders MS/AS

Janet Finch-Saunders MS/AS

ABERCONWY

Main navigation

  • Home/Hafan
  • Janet
  • News/Newyddion
  • Senedd Cymru
  • Contact/Manylion Cyswllt

AS Aberconwy yn cyfarfod Cyfoeth Naturiol Cymru i drafod y cerrig sydd wedi crynhoi ar hyd Afon Conwy ym Mhont Fawr

  • Tweet
Monday, 21 September, 2020
Janet Finch-Saunders MS

Mae Janet Finch-Saunders AS – Aelod o’r Senedd dros Aberconwy – wedi croesawu cadarnhad gan Cyfoeth Naturiol Cymru y bydd swyddogion yn adolygu’r siâl cynyddol sydd wedi crynhoi ar wely’r afon ym Mhont Fawr ar Afon Conwy, yn dilyn ymweliad safle gan swyddogion CNC yr wythnos diwethaf.

Yn ystod y cyfarfod cydymffurfiaeth COVID-19, bu Mrs Finch-Saunders yn cynnal trafodaethau manwl ynghylch telemetreg a monitro lefelau lled yr afon ar hyd Afon Conwy. Nodwyd bod y o siâl sydd wedi crynhoi yng nghanol gwely’r afon bellach cynddrwg ag yr oedd yn 2016, ac mae’n bosib y bydd angen cael gwared ar gerrig er mwyn sicrhau bod system monitro lefel yr afon yn gweithredu’n iawn.

Gan roi sylwadau ar yr ymrwymiad gan CNC, dywedodd Janet:

“Yn ystod y llifogydd diweddar, mae’r lefelau dŵr uchaf erioed wedi’u cofnodi ym Mhont Fawr ar Afon Conwy. Mae hyn yn amlwg yn achosi pryder mawr ynghylch sefydlogrwydd pont hanesyddol Llanrwst, y caffi a glan yr afon.

“Am y rheswm hwn, trefnais ymweliad safle cydymffurfiaeth COVID gyda swyddogion o Cyfoeth Naturiol Cymru i gynnal trafodaethau manwl am y delemetreg a monitro lefelau lled yr afon ar hyd Afon Conwy.

“Rwy’n croesawu’r cadarnhad y bydd CNC yn parhau i adolygu faint o siâl sy’n crynhoi ar wely’r afon ym Mhont Fawr fel rhan o friff gwylio, er mwyn penderfynu a oes rhaid symud cerrig er mwyn i’r system fonitro weithredu’n iawn.

“Ond dydy cyrraedd y pwynt o glirio’r siâl ddim yn syml o bell ffordd. Ar ôl asesiad cychwynnol, byddai angen cyllid a chaniatâd i ddefnyddio maes parcio lleol. Mae cyfyngiadau hefyd ar wneud gwaith o’r fath.

“Rwy’n barod i helpu CNC os oes angen cael gwared ar y siâl. Roedd hi’n hollbwysig sicrhau’r ymrwymiad hwn am adolygiad, cyn misoedd y gaeaf, o ystyried hanes yr ardal o lifogydd.”

DIWEDD

Ffoto: Janet Finch-Saunders AS yn cadw pellter cymdeithasol yn ystod yr ymweliad safle ddydd Gwener diwethaf.

  • Local News

You may also be interested in

Janet

First Minister Urged to Keep to his word and Make Business Support “Immediately available”

Wednesday, 12 May, 2021

Janet Finch-Saunders, Member of the Senedd for Aberconwy, has written to Mark Drakeford MS, First Minister, urging him to keep to his word and make business support immediately available.

 

Show only

  • Articles
  • Assembly News
  • Local News
  • Media
  • Opinions
  • Senedd News
  • Speeches
  • Westminster News

Janet Finch-Saunders MS/AS Aberconwy

Footer

  • About RSS
  • Accessibility
  • Cookies
  • Privacy
  • About/Am Janet Finch-Saunders
  • Polisi Diogelu Data a Phreifatrwydd
Promoted by Mostyn Jones on behalf of Janet Finch-Saunders, both of 29 Madoc Street, Llandudno, LL30 2TL

Neither the Welsh Parliament, nor Janet Finch-Saunders are responsible for the content of external links or websites. The costs of this website have been met by the Senedd Commission from public funds | Nid yw Senedd Cymru na Janet Finch Saunders yn gyfrifol am gynnwys lincs na gwefannau allanol. Mae Comisiwn y Senedd wedi talu costau'r wefan hon o arian cyhoeddus.

Copyright 2021 Janet Finch-Saunders MS/AS Aberconwy. All rights reserved.
Powered by Bluetree