Heddiw (04 Medi), yn dilyn ei hymweliad ag Antiques Roadshow y BBC, roedd Aelod o’r Senedd dros Aberconwy - Janet Finch-Saunders AS - yn canmol llwyddiant cynhyrchu rhaglen ar bellter cymdeithasol, pan fu’r criw yn ffilmio mewn lleoliad hanesyddol yng nghalon sir Conwy.
Yn unol â chyfyngiadau COVID-19, dim ond nifer fach o westeion gafodd eu gwahodd gan y criw cynhyrchu i ddod â’u heitemau i gael eu prisio gan arbenigwyr y rhaglen. Mae Gerddi Bodnant yn estyn dros 80 erw ar lethr ac maent yn cynnwys terasau Eidalaidd ffurfiol a borderi o lwyni anffurfiol gyda thoreth o blanhigion o bedwar ban byd. Disgwylir i’r safle hwn o eiddo’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol ymddangos yn yr addasiad ffilm mwyaf diweddar o The Secret Garden, a gaiff ei ryddhau yn ddiweddarach eleni.
Wrth sôn am ei hymweliad â Gerddi Bodnant ddoe, dywedodd Janet:
“Roeddwn yn falch iawn o gael gwahoddiad i weld y rhaglen BBC One hyfryd hon yn cael ei ffilmio yng Ngerddi hanesyddol Bodnant. Roeddwn yn hynod falch o fod yn dyst i'r ffyrdd arloesol y mae'r cynhyrchiad teledu gwych hwn wedi addasu er mwyn i’r gwylwyr allu parhau i gael eu swyno gan drysorau teuluol y genedl.
“Er bod y criw wedi symud ymlaen bellach, rwy'n annog trigolion lleol ac ymwelwyr o bob cwr i ymweld â gerddi hyfryd Bodnant. Rydym yn hynod lwcus o gael gerddi 80 erw mor eang ar garreg ein drws.
“Hyd yn oed o dan yr amgylchiadau presennol, mae byddin o wirfoddolwyr ymroddedig a chwech o arddwyr yn parhau i weithio’n ddiflino i gynnal ein Heden fach ni ar y ddaear ac rydym yn ddiolchgar iawn iddynt. Mae eu gwaith parhaus ac ymroddedig yn amlwg yn talu ar ei ganfed.
“Gyda hyd at 1,500 o docynnau ar gael bob dydd i’w harchebu o flaen llaw, dyma gyfle heb ei ail i weld gardd helaeth ac amrywiol, sy'n gartref i rai planhigion reit unigryw sydd i’w gweld ym Modnant yn unig.”
DIWEDD
Llun: Janet Finch-Saunders yn ymweld â Gerddi Bodnant