Skip to main content
Banner image for Janet Finch-Saunders MS/AS

Janet Finch-Saunders MS/AS

ABERCONWY

Main navigation

  • Home/Hafan
  • Janet
  • News/Newyddion
  • Senedd Cymru
  • Contact/Manylion Cyswllt

AS Aberconwy yn cymeradwyo ymdrech frechu leol yn dilyn carreg filltir brechu grwpiau blaenoriaeth

  • Tweet
Friday, 12 February, 2021
Janet Finch-Saunders MS

Wrth sôn am y newyddion y bydd Cymru'n cyflawni'r garreg filltir o gynnig brechlyn i bawb yn y pedwar grŵp blaenoriaeth cyntaf erbyn diwedd y penwythnos hwn, dywedodd Janet Finch-Saunders Aelod o Senedd Cymru dros Aberconwy a Hyrwyddwr Pobl Hŷn y Ceidwadwyr Cymreig: 

“Mae'r rhaglen frechu fesul cam hon yn stori o lwyddiant cymunedol gwirioneddol sy'n pwysleisio pa mor bwysig yw’r ffaith bod Cymru'n cydweithio â'i phartneriaid ledled y Deyrnas Unedig. O'r glanhawyr a'r clercod desg; y cogyddion a staff yr ystafell gefn; i'n staff iechyd rheng flaen, y rhoddwyr gofal a'r gwirfoddolwyr – mae'r ymdrech leol wedi sicrhau bod ysbryd cymunedol yn flaenllaw, sy'n gwbl briodol. 

“Mae ein hymatebwyr Coronafeirws gwych yn dyst gwirioneddol i'w proffesiwn, ac unwaith eto yn amlygu pam y bydd ein Gwasanaeth Iechyd Gwladol, ein darparwyr gofal a'n lluoedd arfog yn parhau i fod yn destun balchder yn Aberconwy, Cymru a'r Deyrnas Unedig am byth. Rydyn ni'n sefyll ochr yn ochr â chi wrth i'r rhaglen frechu fesul cam hon barhau.

“Ddylen ni ddim bod ag unrhyw amheuaeth bod llwybr hirfaith yn ein hwynebu, gydag ail ddosau i'w rhoi o hyd i'r unigolion hynny sydd fwyaf mewn perygl, a bod mwy na thri chwarter y boblogaeth angen eu dos cyntaf ar hyn o bryd. Ond mae'n wir dweud bod hon yn garreg filltir bwysig i drigolion lleol, wrth i ni geisio adfer o'r pandemig ac ailadeiladu'r Gogledd.” 

Diwedd 

Llun: Janet Finch-Saunders AS 

 

  • Local News

You may also be interested in

Janet

First Minister Urged to Keep to his word and Make Business Support “Immediately available”

Wednesday, 12 May, 2021

Janet Finch-Saunders, Member of the Senedd for Aberconwy, has written to Mark Drakeford MS, First Minister, urging him to keep to his word and make business support immediately available.

 

Show only

  • Articles
  • Assembly News
  • Local News
  • Media
  • Opinions
  • Senedd News
  • Speeches
  • Westminster News

Janet Finch-Saunders MS/AS Aberconwy

Footer

  • About RSS
  • Accessibility
  • Cookies
  • Privacy
  • About/Am Janet Finch-Saunders
  • Polisi Diogelu Data a Phreifatrwydd
Promoted by Mostyn Jones on behalf of Janet Finch-Saunders, both of 29 Madoc Street, Llandudno, LL30 2TL

Neither the Welsh Parliament, nor Janet Finch-Saunders are responsible for the content of external links or websites. The costs of this website have been met by the Senedd Commission from public funds | Nid yw Senedd Cymru na Janet Finch Saunders yn gyfrifol am gynnwys lincs na gwefannau allanol. Mae Comisiwn y Senedd wedi talu costau'r wefan hon o arian cyhoeddus.

Copyright 2021 Janet Finch-Saunders MS/AS Aberconwy. All rights reserved.
Powered by Bluetree