Heddiw (17 Chwefror), mae Janet Finch-Saunders, Aelod o'r Senedd dros Aberconwy, wedi cymeradwyo ymgyrch 'Cadwch Curiadau' gan fenter Awyr Las sy'n annog preswylwyr i ymarfer CPR yn niogelwch eu cartrefi eu hunain, drwy ddefnyddio eitemau cyffredin y cartref fel peli, clustogau a thedis.
Mae CPR yn driniaeth frys cymorth cyntaf sy'n golygu bod rhywun yn pwyso i fyny ac i lawr ar frest unigolyn sydd wedi cael pwl. Ataliad y galon yw pan fydd y galon yn stopio curo. Yn aml, mae CPR a'r defnydd o ddiffibriliwr yn dyblu'r siawns o oroesi.
Gan egluro'r angen i ymarfer CPR, dywedodd Janet:
“Dylai pawb yng Nghymru ddysgu sgiliau CPR er mwyn sicrhau eu bod yn hyderus o'r camau sydd angen iddyn nhw eu cymryd pan fo rhywun yn cael ataliad y galon. Drwy dreulio ychydig funudau'n dysgu rhai sgiliau CPR sylfaenol, gallwch gynyddu siawns rhywun o oroesi, mewn sefyllfa a all fod yn anodd iawn a llawn straen.
Awgryma data cynnar, yn rhanbarth BIPBC, nad yw 75% o bobl sydd wedi cael ataliad y galon yn cael CPR cyn i gymorth meddygol gyrraedd. Bob blwyddyn yng Nghymru, bydd dros 6,000 o bobl yn cael ataliad sydyn y galon yn y gymuned a bydd tua 80% o'r rheiny'n digwydd yn y cartref.
Mae'n bwysig deall y camau sy'n gysylltiedig â CPR, a elwir yn aml yn Gadwyn Oroesi. Mae'r 'Gadwyn Oroesi' yn disgrifio'r elfennau hanfodol sy'n gallu achub bywyd pan fo rhywun yn cael ataliad y galon yn y gymuned.
Wrth gymeradwyo'r fenter i ymarfer yn y cartref, dywedodd Janet:
“Mae'r ymgyrch hon gan Awyr Las, sy'n hyrwyddo’r defnydd o eitemau bob dydd y cartref i hyfforddi a diweddaru ein sgiliau CPR, yn sicrhau bod gennym gymuned o achubwyr bywyd hyfforddedig a hyderus. Yn rhai o leoliadau mwyaf gwledig Aberconwy, bydd hyn yn achub bywydau, gan gynnwys bywydau ein hanwyliaid agosaf.
“Mae pob eiliad yn hollbwysig pan fo rhywun yn cael ataliad y galon. Bydd mynd ati'n rheolaidd i ddefnyddio tedi neu bêl i ymarfer CPR yn golygu y bydd gan bob un ohonon ni yr hyder i gamu i 'r adwy a chynorthwyo'r rhai mewn angen. Wedi'r cyfan, mewn sefyllfa ddybryd o’r fath, mae unrhyw CPR yn well na dim CPR.”
Diwedd
Nodiadau i Olygyddion:
- Mae elusen Awyr Las, GIG Gogledd Cymru, yn darparu gwasanaethau ychwanegol sy’n mynd y tu hwnt i beth mae'r GIG yn ei ariannu. Mae gan y rhan fwyaf o wardiau ysbytai, adrannau a gwasanaethau gofal iechyd cymunedol arian penodol fel rhan o'r elusen.
- Gallwch gael rhagor o wybodaeth drwy ymweld â: https://awyrlas.org.uk/cy/about-keep-the-beats
- I ddysgu mwy am y Gadwyn Oroesi, ewch i: https://llyw.cymru/achub-bywyd-cymru
Llun: Oxana Lyashenko ar Unsplash