Skip to main content
Banner image for Janet Finch-Saunders MS/AS

Janet Finch-Saunders MS/AS

ABERCONWY

Main navigation

  • Home/Hafan
  • Janet
  • News/Newyddion
  • Senedd Cymru
  • Contact/Manylion Cyswllt

AS Aberconwy yn erfyn ar y Prif Weinidog i ‘wrando ar drigolion lleol’ ar y gwaharddiad i werthu eitemau nad ydynt yn hanfodol

  • Tweet
Monday, 26 October, 2020
COVID-19

Heddiw (26 Hydref) mae Janet Finch-Saunders AS – Aelod o’r Senedd dros Aberconwy – wedi beirniadu Llywodraeth Cymru am y dryswch sy’n wynebu trigolion a pherchnogion busnesau, ar ôl cyhoeddi canllawiau ar wahardd gwerthu eitemau nad ydynt yn hanfodol mewn archfarchnadoedd gydol y clo cenedlaethol 17 diwrnod. Mae manwerthwyr wedi dweud eu bod mewn “sefyllfa anodd” heb restr ddiffiniedig.

Daw’r ymyrraeth yn sgil ei datganiad fel Cadeirydd y Grŵp Trawsbleidiol ar Siopau Bach yr wythnos diwethaf a oedd yn beirniadu cyhoeddiad y polisi lai na thri deg chwe awr cyn dechrau’r cyfnod atal byr. Mae ei swyddfa wedi gweld cynnydd sylweddol mewn negeseuon gan drigolion lleol dros y penwythnos, oll yn datgan eu sioc a’u phryderon am gamau Llywodraeth Cymru.

Gan roi sylwadau, dywedodd Janet:

“Mae’r cyfathrebu gwarthus yn parhau, gan nad yw busnesau fawr callach ynghylch pa eitemau y gallant eu gwerthu, gan achosi cynnwrf mewn ciwiau mewn siopau a rhoi gweithwyr allweddol rheng flaen mewn perygl. Fel mae fy etholwyr wedi ei nodi’n glir, gall rhywbeth nad yw’n hanfodol i un person fod yn hanfodol iawn i un arall.

“Mae hyd yn oed rhai o gyfreithwyr trwyddededig disgleiriaf ein gwlad wedi mynegi eu pryderon, gan labelu’r canllawiau hyn yn flêr ac yn ddryslyd. Bydd cyhoeddiad heddiw, y bydd siopau’n cael y pwerau i weithredu yn ôl eu disgresiwn, yn gwneud dim mwy na drysu’r sefyllfa ymhellach.

“Mae fel nad yw Llywodraeth Cymru wedi dysgu dim o’u camgymeriadau cynharach, gan fwrw iddi unwaith eto heb ystyried y pryderon sydd wedi’u nodi gan Aelodau’r Senedd. Y cwbl y bydd y ffars ddiweddaraf yn ei wneud fydd erydu ymhellach ffydd y cyhoedd yn y weinyddiaeth hon.

“Dros y penwythnos, rydw i wedi derbyn cannoedd o negeseuon e-bost gan etholwyr pryderus a blin sy’n poeni go iawn y bydd y dryswch hwn yn arwain at drigolion bregus heb fodd o gael y bwyd sydd ei angen arnyn nhw. Rwy’n erfyn ar y Prif Weinidog i wrando ar fy mhreswylwyr ac ailystyried gorymateb hurt y wladwriaeth.”

DIWEDD

  • Local News

You may also be interested in

Janet

First Minister Urged to Keep to his word and Make Business Support “Immediately available”

Wednesday, 12 May, 2021

Janet Finch-Saunders, Member of the Senedd for Aberconwy, has written to Mark Drakeford MS, First Minister, urging him to keep to his word and make business support immediately available.

 

Show only

  • Articles
  • Assembly News
  • Local News
  • Media
  • Opinions
  • Senedd News
  • Speeches
  • Westminster News

Janet Finch-Saunders MS/AS Aberconwy

Footer

  • About RSS
  • Accessibility
  • Cookies
  • Privacy
  • About/Am Janet Finch-Saunders
  • Polisi Diogelu Data a Phreifatrwydd
Promoted by Mostyn Jones on behalf of Janet Finch-Saunders, both of 29 Madoc Street, Llandudno, LL30 2TL

Neither the Welsh Parliament, nor Janet Finch-Saunders are responsible for the content of external links or websites. The costs of this website have been met by the Senedd Commission from public funds | Nid yw Senedd Cymru na Janet Finch Saunders yn gyfrifol am gynnwys lincs na gwefannau allanol. Mae Comisiwn y Senedd wedi talu costau'r wefan hon o arian cyhoeddus.

Copyright 2021 Janet Finch-Saunders MS/AS Aberconwy. All rights reserved.
Powered by Bluetree