Skip to main content
Banner image for Janet Finch-Saunders MS/AS

Janet Finch-Saunders MS/AS

ABERCONWY

Main navigation

  • Home/Hafan
  • Janet
  • News/Newyddion
  • Senedd Cymru
  • Contact/Manylion Cyswllt

AS Aberconwy yn galw am fframwaith cyllid hirdymor i ddiogelu gwasanaethau bws y Gogledd

  • Tweet
Thursday, 24 September, 2020
Janet Finch-Saunders MS

Heddiw (24 Medi), mae Janet Finch-Saunders AS wedi croesawu ymrwymiad o gyllid gan Lywodraeth Cymru i gynnal lefelau gwasanaetha bws gydol misoedd y gaeaf. Gydol y pandemig, cyflwynodd Mrs Finch-Saunders sylwadau dro ar ôl tro i Lywodraeth Cymru mewn perthynas ag amddiffyn lefelau gwasanaethau yn y Gogledd.

Yn ôl Datganiad Ysgrifenedig gan Ddirprwy Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth:

Yn dilyn y cyhoeddiad y mis diwethaf o £10 miliwn yn ychwanegol i gefnogi'r broses o ddarparu gwasanaeth llawnach o fis Medi, rwy’n falch iawn o gyhoeddi bod Llywodraeth Cymru yn darparu £84.6 miliwn yn ychwanegol i gynnal a datblygu y lefelau uwch hyn o wasanaethau ar gyfer gweddill y flwyddyn ariannol, tra bod llai o alw a chapasiti yn cael effaith sylweddol ar refeniw tocynnau.

Gan roi sylwadau ar y mater o gyllido bysiau, dywedodd Janet:

“Bysiau yw’r drafnidiaeth gyhoeddus a ddefnyddir amlaf yng Nghymru ac maen nhw’n anghenraid dyddiol hanfodol i etholwyr di-ri yn Aberconwy. Maen nhw wedi cefnogi ein gweithwyr allweddol gydol y pandemig, gan helpu plant i ddychwelyd i’r ysgol a byddant yn ganolog i unrhyw adferiad yn dilyn COVID sydd ar y gweill.

“Yn gynharach eleni, fe wnes i erfyn ar Lywodraeth Cymru i atal toriadau pellach i wasanaethau drwy amlinellu cynllun cymorth ariannol pellach i gefnogi gweithredwyr. Rwy’n falch fod y cais hwn wedi arwain at weithredu gan y weinyddiaeth ym Mae Caerdydd.

“Mae’r ymrwymiad ariannol hwn yn hanfodol os ydym am atal pobl y Gogledd rhag teimlo eu bod yn cael eu hanwybyddu a’u hynysu. Dylai sicrhau bod lefelau uwch o wasanaeth yn gallu parhau am weddill y flwyddyn ariannol, tra bod llai o allu yn parhau i effeithio ar refeniw tocynnau gweithredwyr.

"Fodd bynnag, os yw Llywodraeth Cymru o ddifrif am ddefnyddio bysiau i helpu i sbarduno gweithgarwch economaidd, a chefnogi ymgais ein cenedl i leihau allyriadau carbon, bydd angen fframwaith cyllid ychwanegol a hirdymor.”

DIWEDD

Ffoto: Chuttersnap/UnSplash

  • Local News

You may also be interested in

Janet

First Minister Urged to Keep to his word and Make Business Support “Immediately available”

Wednesday, 12 May, 2021

Janet Finch-Saunders, Member of the Senedd for Aberconwy, has written to Mark Drakeford MS, First Minister, urging him to keep to his word and make business support immediately available.

 

Show only

  • Articles
  • Assembly News
  • Local News
  • Media
  • Opinions
  • Senedd News
  • Speeches
  • Westminster News

Janet Finch-Saunders MS/AS Aberconwy

Footer

  • About RSS
  • Accessibility
  • Cookies
  • Privacy
  • About/Am Janet Finch-Saunders
  • Polisi Diogelu Data a Phreifatrwydd
Promoted by Mostyn Jones on behalf of Janet Finch-Saunders, both of 29 Madoc Street, Llandudno, LL30 2TL

Neither the Welsh Parliament, nor Janet Finch-Saunders are responsible for the content of external links or websites. The costs of this website have been met by the Senedd Commission from public funds | Nid yw Senedd Cymru na Janet Finch Saunders yn gyfrifol am gynnwys lincs na gwefannau allanol. Mae Comisiwn y Senedd wedi talu costau'r wefan hon o arian cyhoeddus.

Copyright 2021 Janet Finch-Saunders MS/AS Aberconwy. All rights reserved.
Powered by Bluetree