Skip to main content
Banner image for Janet Finch-Saunders MS/AS

Janet Finch-Saunders MS/AS

ABERCONWY

Main navigation

  • Home/Hafan
  • Janet
  • News/Newyddion
  • Senedd Cymru
  • Contact/Manylion Cyswllt

AS Aberconwy yn galw am gyfle ariannu cymesur a theg i fusnesau lleol

  • Tweet
Thursday, 8 October, 2020
Janet Finch-Saunders MS

Heddiw (08 Hydref), mae'r Aelod o'r Senedd dros Aberconwy – Janet Finch-Saunders AS – wedi annog Llywodraeth Cymru i edrych o'r newydd ar nifer y ffigurau coronafeirws lleol fel y gellid mynd ati i gyflwyno unrhyw gyfyngiadau mewn ffordd fwy 'cymesur'. 

Pwysodd yr Aelod am gymorth ariannol tecach i fusnesau'r rhanbarth hefyd, sy'n dal i deimlo ergyd y cyfyngiadau a ddaeth i rym am 18:00 ddydd Iau 1 Hydref 2020. Daeth araith Mrs Finch-Saunders yn ystod cwestiynau i Weinidog Cymru dros yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru ddoe. 

Wrth sôn am ei haraith i'r Senedd, dywedodd Janet: 

“Mae camau gweithredu anghymesur Llywodraeth Cymru yn cael effaith ddinistriol ar fy etholwyr a busnesau ledled Aberconwy. Dim ond dau fis mae sector twristiaeth y Gogledd wedi ei gael i fasnachu'n iawn i'w cadw nhw i fynd drwy fisoedd anodd y gaeaf. 

“Mae'n ofnadwy bod brenhines trefi gwyliau Cymru fel rhyw dref anghyfannedd unwaith eto fel yr oedd yn ystod y cyfyngiadau symud, tra bod gwestywyr lleol a'r sector manwerthu yn dal i fod yn ddryslyd ac yn ddig ynghylch y bygythiad i'w bywoliaeth.

“Dyna pam rwyf wedi galw am adolygiad brys o'r penderfyniad hwn i osod cyfyngiadau symud ar Sir Conwy. Mae cronfa cyfyngiadau symud newydd Llywodraeth Cymru yn cynnig ceiniogau o gymharu â'r hyn sydd ei angen i sicrhau nad yw fy etholwyr yn colli eu bywoliaeth. Rhaid darparu cyfle teg i oroesi drwy gymorth ariannol.

“Yn gynharach yr wythnos hon, roedd gan y Prif Weinidog yr hyfdra i awgrymu ein bod ni, fel gwleidyddion etholedig sy’n codi pryderon dilys ar ran ein hetholwyr, yn awgrymu y dylai pobl dorri'r rheolau. Mae llawer o'm hetholwyr yn teimlo bod yr awgrym hwn yn hurt ac yn gwbl sarhaus.

“Afraid dweud y byddaf yn rhoi blaenoriaeth i ddiogelwch y cyhoedd bob amser. Ond rhaid i unrhyw gyfyngiadau a gyflwynir barhau i fod yn gymesur â'r bygythiad a wynebir. Dyna pam mae'r Ceidwadwyr Cymreig wedi bod yn galw am gyfyngiadau lleol a arweinir gan ddata sy'n rhoi ystyriaeth briodol i iechyd meddwl cymunedol a chadw swyddi.”

DIWEDD

  • Local News

You may also be interested in

Janet

First Minister Urged to Keep to his word and Make Business Support “Immediately available”

Wednesday, 12 May, 2021

Janet Finch-Saunders, Member of the Senedd for Aberconwy, has written to Mark Drakeford MS, First Minister, urging him to keep to his word and make business support immediately available.

 

Show only

  • Articles
  • Assembly News
  • Local News
  • Media
  • Opinions
  • Senedd News
  • Speeches
  • Westminster News

Janet Finch-Saunders MS/AS Aberconwy

Footer

  • About RSS
  • Accessibility
  • Cookies
  • Privacy
  • About/Am Janet Finch-Saunders
  • Polisi Diogelu Data a Phreifatrwydd
Promoted by Mostyn Jones on behalf of Janet Finch-Saunders, both of 29 Madoc Street, Llandudno, LL30 2TL

Neither the Welsh Parliament, nor Janet Finch-Saunders are responsible for the content of external links or websites. The costs of this website have been met by the Senedd Commission from public funds | Nid yw Senedd Cymru na Janet Finch Saunders yn gyfrifol am gynnwys lincs na gwefannau allanol. Mae Comisiwn y Senedd wedi talu costau'r wefan hon o arian cyhoeddus.

Copyright 2021 Janet Finch-Saunders MS/AS Aberconwy. All rights reserved.
Powered by Bluetree