Skip to main content
Banner image for Janet Finch-Saunders MS/AS

Janet Finch-Saunders MS/AS

ABERCONWY

Main navigation

  • Home/Hafan
  • Janet
  • News/Newyddion
  • Senedd Cymru
  • Contact/Manylion Cyswllt

AS Aberconwy yn galw am gyllid ychwanegol i ailagor y broses grantiau dewisol

  • Tweet
Tuesday, 3 November, 2020
Janet Finch-Saunders MS

Heddiw (03 Tachwedd), mae Janet Finch-Saunders AS – Aelod o’r Senedd dros Aberconwy – wedi erfyn ar Lywodraeth Cymru i ddarparu cyllid ychwanegol i Gyngor Bwrdeistref Sirol Conwy er mwyn iddynt allu ailagor y grant dewisol, yn dilyn y newyddion bod y cynllun wedi ei ymrwymo’n llawn ddiwedd yr wythnos diwethaf.

Meddai Janet:

“Er gwaethaf honiadau cyson Gweinidog yr Economi y gall busnesau elwa o hyd ar gymorth cyllid sydd ar gael fel rhan o gynllun clo’r Gronfa Cadernid Economaidd, caewyd y Grant Dewisol yn fy etholaeth ar gyfer ceisiadau pellach ddydd Iau, gan fod y cyllid a ddyrannwyd i Gonwy gan Lywodraeth Cymru wedi ei ymrwymo’n llwyr.

“Rwy’n andros o siomedig fod Llywodraeth Cymru yn meddwl ei bod hi’n iawn troi’r holl beth yn ras am gymorth i bob diben, gan achosi poen a dryswch diangen. Roedd hyn yn gwbl annerbyniol, ac mae fy musnesau’n haeddu esboniad pam eu bod wedi rhoi’r lol y cyntaf i’r felin ar waith.

“Er mwyn sicrhau cydbwysedd, tegwch a chymesuroldeb, rwy’n erfyn ar Lywodraeth Cymru i fynd ati ar unwaith i ddarparu cyllid ychwanegol i Gonwy er mwyn i ni allu ailagor y grant dewisol ar gyfer ceisiadau. Mae’n rhaid darparu cymorth er mwyn i fusnesau bach Conwy allu goroesi’r cyfnod hwn.

“Mae busnesau a swyddi yn y fantol. Mae’n rhaid i Ken Skates adolygu faint o arian sy’n cael ei ddarparu i Gonwy ar unwaith, yn enwedig gan fod drysau sawl busnes lleol wedi bod ar gau ers dechrau mis Hydref.  Ni ddylai perchnogion busnesau Conwy gael eu hanwybyddu.”

DIWEDD 

Nodiadau i Olygyddion: 

  • I weld hysbysiad cau’r cynllun grant, cliciwch yma.
  • Local News

You may also be interested in

Janet

First Minister Urged to Keep to his word and Make Business Support “Immediately available”

Wednesday, 12 May, 2021

Janet Finch-Saunders, Member of the Senedd for Aberconwy, has written to Mark Drakeford MS, First Minister, urging him to keep to his word and make business support immediately available.

 

Show only

  • Articles
  • Assembly News
  • Local News
  • Media
  • Opinions
  • Senedd News
  • Speeches
  • Westminster News

Janet Finch-Saunders MS/AS Aberconwy

Footer

  • About RSS
  • Accessibility
  • Cookies
  • Privacy
  • About/Am Janet Finch-Saunders
  • Polisi Diogelu Data a Phreifatrwydd
Promoted by Mostyn Jones on behalf of Janet Finch-Saunders, both of 29 Madoc Street, Llandudno, LL30 2TL

Neither the Welsh Parliament, nor Janet Finch-Saunders are responsible for the content of external links or websites. The costs of this website have been met by the Senedd Commission from public funds | Nid yw Senedd Cymru na Janet Finch Saunders yn gyfrifol am gynnwys lincs na gwefannau allanol. Mae Comisiwn y Senedd wedi talu costau'r wefan hon o arian cyhoeddus.

Copyright 2021 Janet Finch-Saunders MS/AS Aberconwy. All rights reserved.
Powered by Bluetree