Skip to main content
Banner image for Janet Finch-Saunders MS/AS

Janet Finch-Saunders MS/AS

ABERCONWY

Main navigation

  • Home/Hafan
  • Janet
  • News/Newyddion
  • Senedd Cymru
  • Contact/Manylion Cyswllt

AS Aberconwy yn galw am sefydlu Cronfa Datblygu Sioeau Gwledig

  • Tweet
Monday, 8 March, 2021
Llun: Janet Finch-Saunders AS yn Sioe Eglwysbach 2018

Mae Janet Finch-Saunders, Gweinidog yr Wrthblaid y Ceidwadwyr Cymreig dros Faterion Gwledig ac Aelod o'r Senedd dros Aberconwy, wedi ysgrifennu at Lywodraeth Cymru i alw am sefydlu Cronfa Datblygu Sioeau Gwledig, fel y gellir darparu cymorth ariannol i sioeau amaethyddol llai.  

Wrth danlinellu'r angen am gymorth ariannol, dywedodd Janet: 

“Er fy mod yn falch bod cymorth ariannol wedi'i roi i Gymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru, mae pobl wedi mynegi eu pryder nad yw rhai sioeau gwledig llai wedi cael yr un geiniog o gefnogaeth hyd yma. 

“Rydw i'n credu y byddai'n werth i Lywodraeth Cymru greu Cronfa Datblygu Sioeau Gwledig – cynllun a fyddai nid yn unig yn cynorthwyo'r digwyddiadau amaethyddol a chymunedol cyfarwydd hyn i ymdopi â'r cyfnod heriol hwn, ond er mwyn sicrhau eu bod mewn sefyllfa well i ddychwelyd yn gadarn.    

“Rydw i wedi cynnig y gallai grantiau fod ar gael i helpu gyda mesurau diogelwch Covid-19 ac ar gyfer arallgyfeirio i raddau mwy. Mae digwyddiadau, fel Sioe Wledig Llanrwst a Sioe Eglwysbach, yn ddiwrnodau pwysig iawn yng nghalendr llawer o drefi a phentrefi gwledig. Byddai cynllun o'r fath yn golygu y bydd y cymunedau hyn yn cael eu grymuso i barhau â'r traddodiadau hyn i'r dyfodol. 

Mae'r Aelod wedi galw hefyd am ddatblygu cyfres o ganllawiau gweithredol ar gyfer sioeau amaethyddol, er mwyn helpu i ailddechrau digwyddiadau awyr agored o'r fath wedi'u rheoli yn ddiweddarach eleni. O ran ei chynigion eraill, sydd â'r nod o sicrhau dyfodol mwy disglair i sioeau o'r fath, ychwanegodd Janet: 

“Gan edrych tua'r blynyddoedd i ddod, rydw i wedi cynnig hefyd fod 'Llwybr Sioeau Amaethyddol i Gymru' yn cael ei greu– lle byddai'r Gweinidog yn cydweithio â Croeso Cymru er mwyn annog y farchnad ddomestig a rhyngwladol i fynychu'r digwyddiadau hyn lle gellir dysgu cymaint am ffermio, bwyd a chrefftau. 

“Pan fydd yr amser yn iawn, bydd cyfleoedd di-ben-draw i'r sioeau hyn ddenu cynulleidfaoedd o bob rhan o'r DU, a thu hwnt. Bydd sicrhau gwariant ganddyn nhw'n golygu y bydd yna fuddsoddiad yn ein cymunedau gwledig, a dylai arddangos sgiliau cynaliadwy helpu hefyd yn ein brwydr yn erbyn y newid yn yr hinsawdd. 

“Ond er mwyn i hyn fod yn effeithiol, mae'n rhaid i'r gwaith gynllunio ddechrau o ddifrif. A dyma'r union reswm pam rydw i wedi ysgrifennu at y Gweinidog i ofyn i'w hadran weithio i ddatblygu cyfres o ganllawiau gweithredol ar gyfer sioeau amaethyddol ac i gydweithio â Croeso Cymru ar gynllun marchnata effeithiol.” 

Diwedd 

Llun: Janet Finch-Saunders AS yn Sioe Eglwysbach 2018

  • Local News

You may also be interested in

Janet

First Minister Urged to Keep to his word and Make Business Support “Immediately available”

Wednesday, 12 May, 2021

Janet Finch-Saunders, Member of the Senedd for Aberconwy, has written to Mark Drakeford MS, First Minister, urging him to keep to his word and make business support immediately available.

 

Show only

  • Articles
  • Assembly News
  • Local News
  • Media
  • Opinions
  • Senedd News
  • Speeches
  • Westminster News

Janet Finch-Saunders MS/AS Aberconwy

Footer

  • About RSS
  • Accessibility
  • Cookies
  • Privacy
  • About/Am Janet Finch-Saunders
  • Polisi Diogelu Data a Phreifatrwydd
Promoted by Mostyn Jones on behalf of Janet Finch-Saunders, both of 29 Madoc Street, Llandudno, LL30 2TL

Neither the Welsh Parliament, nor Janet Finch-Saunders are responsible for the content of external links or websites. The costs of this website have been met by the Senedd Commission from public funds | Nid yw Senedd Cymru na Janet Finch Saunders yn gyfrifol am gynnwys lincs na gwefannau allanol. Mae Comisiwn y Senedd wedi talu costau'r wefan hon o arian cyhoeddus.

Copyright 2021 Janet Finch-Saunders MS/AS Aberconwy. All rights reserved.
Powered by Bluetree