Skip to main content
Banner image for Janet Finch-Saunders MS/AS

Janet Finch-Saunders MS/AS

ABERCONWY

Main navigation

  • Home/Hafan
  • Janet
  • News/Newyddion
  • Senedd Cymru
  • Contact/Manylion Cyswllt

AS Aberconwy yn galw am strategaeth i fynd i’r afael ag argyfwng orthopaedig Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr

  • Tweet
Tuesday, 10 November, 2020
Janet Finch-Saunders MS

Heddiw (10 Tachwedd), mae Janet Finch-Saunders AS – Aelod o’r Senedd dros Aberconwy – wedi annog y Prif Weinidog i sicrhau bod mwy o wardiau’n cael eu neilltuo ar gyfer triniaethau nad ydynt yn gysylltiedig â Covid yn y Gogledd, fel ffordd o fynd i’r afael ag argyfwng orthopaedig Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr.

Yr wythnos diwethaf, clywodd Mrs Finch-Saunders bod y Gogledd wedi gweld cynnydd sylweddol yn nifer y cleifion sy’n aros am apwyntiadau orthopaedig. Ond nid yw’r Prif Weithredwr dros dro na’r Gweinidog Iechyd wedi gallu darparu dyddiadau ar gyfer triniaethau.

Gan roi sylwadau ar ei chwestiwn i’r Prif Weinidog, dywedodd Janet:

“Fel y mae pethau yn y Gogledd, mae preswylwyr ag anghenion meddygol nad ydyn nhw’n gysylltiedig â Choronafeirws mewn risg sylweddol o gael eu hanghofio. Roedd hi’n achos pryder mawr i mi glywed am un achos yn ddiweddar, lle cafodd apwyntiad gastro un etholwr ei ganslo ym mis Ebrill a’i fod ond wedi llwyddo i gael ymgynghoriad dros y ffôn ar ôl troi at Twitter. Yn sicr, dydy hyn ddim yn gynaliadwy.

“Mewn ymateb i achos orthopaedig a godais yn uniongyrchol â’r Gweinidog Iechyd, ysgrifennodd Vaughan Gething i ddweud ei bod yn anodd i’r bwrdd iechyd roi gwybod pryd y gallai cleifion nad ydyn nhw’n rhai brys dderbyn gwasanaethau unwaith eto. Mae hyn yn gwbl annerbyniol ac mae fy etholwyr wedi eu gadael yn nhir neb.

“Dyna pam y defnyddiais gwestiwn heddiw i erfyn ar y Prif Weinidog i amlinellu pa gamau y bydd ei weinyddiaeth yn eu cymryd i sicrhau bod mwy o wardiau yn cael eu neilltuo ar gyfer triniaethau nad ydyn nhw’n gysylltiedig â Covid yn y Gogledd. Gofynnais hefyd am i strategaeth gael ei rhoi ar waith i fynd i’r afael ag argyfwng orthopaedig presennol y Bwrdd Iechyd.

“Dyw hi ddim yn ddigon i bwyntio bys at y sefyllfa sydd ohoni, heb gynllun go iawn i fynd i’r afael â’r mater. Tra bod COVID yn sicr wedi arwain at restrau aros y GIG yn tyfu, mae’r pandemig hefyd wedi tynnu sylw at ba mor ddrwg oedd pethau’n barod. Onid ydych chi’n teimlo bod y Gogledd yn haeddu gwell?

“Tristwch o’r mwyaf yw bod diffyg gweledigaeth gan y weinyddiaeth hon, sy’n frith o benaethiaid, ac arweiniad ffwrdd â hi Llywodraeth Llafur Cymru, yn parhau i danseilio cyfleoedd y Bwrdd o symud allan o fod dan fesurau arbennig. Byddaf yn parhau i bwyso ar i’r mater hwn gael blaenoriaeth.”

DIWEDD

  • Local News

You may also be interested in

Janet

First Minister Urged to Keep to his word and Make Business Support “Immediately available”

Wednesday, 12 May, 2021

Janet Finch-Saunders, Member of the Senedd for Aberconwy, has written to Mark Drakeford MS, First Minister, urging him to keep to his word and make business support immediately available.

 

Show only

  • Articles
  • Assembly News
  • Local News
  • Media
  • Opinions
  • Senedd News
  • Speeches
  • Westminster News

Janet Finch-Saunders MS/AS Aberconwy

Footer

  • About RSS
  • Accessibility
  • Cookies
  • Privacy
  • About/Am Janet Finch-Saunders
  • Polisi Diogelu Data a Phreifatrwydd
Promoted by Mostyn Jones on behalf of Janet Finch-Saunders, both of 29 Madoc Street, Llandudno, LL30 2TL

Neither the Welsh Parliament, nor Janet Finch-Saunders are responsible for the content of external links or websites. The costs of this website have been met by the Senedd Commission from public funds | Nid yw Senedd Cymru na Janet Finch Saunders yn gyfrifol am gynnwys lincs na gwefannau allanol. Mae Comisiwn y Senedd wedi talu costau'r wefan hon o arian cyhoeddus.

Copyright 2021 Janet Finch-Saunders MS/AS Aberconwy. All rights reserved.
Powered by Bluetree