Mae Janet Finch-Saunders, yr Aelod o'r Senedd dros Aberconwy, wedi ceisio rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i drigolion am gau pont Dolgarrog, gan gyhoeddi y bydd yn cynnal cyfarfod cymunedol rhithwir yn ddiweddarach y mis hwn i gadarnhau’r diweddaraf ar y pryderon sydd wedi’u codi.
Ar hyn o bryd, y bont sy'n darparu'r unig lwybr mynediad i Orsaf Reilffordd Dolgarrog o bentref Dolgarrog. Cynhelir cyfarfod rhithwir Microsoft Teams rhwng 14:00 a 15:00 ar 19 Mawrth 2021. Gall preswylwyr dderbyn y wybodaeth ymuno angenrheidiol drwy e-bostio Janet.Finch-Saunders@Senedd.Cymru.
Wrth gadarnhau'r cyfarfod, dywedodd Janet:
“Ers y cyhoeddiad pryderus bod y groesfan yn cael ei chau'n barhaol, rydw i 'n falch fy mod wedi cysylltu â nifer o randdeiliaid perthnasol. Yn dilyn ein gohebiaeth, mae Dŵr Cymru wedi cytuno i fynychu cyfarfod rhithwir o randdeiliaid perthnasol.
“Yn y cyfarfod hwn, byddaf yn mynegi'n glir y pryderon lleol bod cau'r bont hon yn torri'r cysylltiad rhwng y gymuned â'i gorsaf, mae'n cael effaith negyddol ar fynediad i Barc Cenedlaethol Eryri, ac mae’n debygol o arwain at gynnydd yn y defnydd o gerbydau preifat a fydd eisiau cael mynediad i Orllewin Dyffryn Conwy. Mae hyn i gyd yn rhwystredig o ystyried y potensial gwych sydd gan Orsaf Reilffordd Dolgarrog.
“Er y bydd y cyfarfod rhanddeiliaid hwn yn ddigwyddiad caeedig, fy nymuniad yw bod y gymuned leol yn cael y wybodaeth ddiweddaraf am ganlyniad y cyfarfod cyn gynted â phosibl. Credaf yn gryf fod tryloywder yn parhau i fod yn allweddol i unrhyw gydweithrediad cymunedol wrth inni fwrw ymlaen a thynnu sylw at y pryder hwn.
“Felly, yn dilyn y sesiwn rhanddeiliaid, rydw i'n falch o gadarnhau y byddaf yn cynnal cyfarfod cymunedol rhithwir. Rydw i wir yn annog trigolion lleol i fynychu'r cyfarfod hwn fel y gellir cofrestru'n ffurfiol a gweithredu'r holl bryderon sydd ganddyn nhw."
Diwedd
Nodiadau i Olygyddion:
- Mae pont Dolgarrog yn cludo dau brif gyflenwad dŵr dros Afon Conwy. Ym 1982, cytunodd Dŵr Cymru â Chyngor Conwy y byddai'n caniatáu i'r bont gael ei defnyddio fel rhodfa gan y cyhoedd. Fodd bynnag, nid yw'n llwybr troed dynodedig nac yn hawl tramwy cyhoeddus.
- I ddod o hyd i sylwadau blaenorol Janet ar gau'r bont, cliciwch yma.
Llun: Janet Finch-Saunders AS