Mae Janet Finch-Saunders, yr Aelod o'r Senedd dros Aberconwy, wedi pwyso ar Lywodraeth Cymru i ystyried sefydlu llinell gymorth arbenigol i roi cyngor llafar i drigolion a busnesau pryderus 24/7, yn dilyn cynnydd o 84% mewn achosion delta Covid-19.
Mae ei hymyriad yn dilyn adroddiad achos heddiw, a gadarnhaodd fod 178 o achosion o'r amrywiolyn delta yng Nghymru erbyn hyn - cynnydd o 81 o'r 97 a adroddwyd yr wythnos diwethaf. Mae Mrs Finch-Saunders wedi bod yn ceisio gweld a yw'r amrywiolyn yn lledaenu drwy rai lleoliadau diwydiant penodol.
Wrth siarad ar ôl ei chwestiwn i Weinidog Cymru dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, dywedodd Janet:
“Yn dilyn pryderon cynyddol am yr amrywiolyn delta yn lleol, rydw i wedi gofyn i Lywodraeth Cymru ystyried cysylltu â bwrdd iechyd y rhanbarth, er mwyn annog holl drigolion Aberconwy i gael prawf nawr hyd yn oed os nad oes ganddyn nhw unrhyw symptomau.
“Fy ngobaith diffuant yw y byddai gweithredu pendant o'r fath yn helpu Cymru i atal y lledaeniad yn gyflym. Mae hyn yn hanfodol os ydym am barhau tuag at adferiad economaidd, yn enwedig o ystyried bod yr amrywiolyn delta 40% yn fwy trosglwyddadwy na straen Caint.
“Neithiwr, cysylltodd perchennog gwesty lleol â mi i ddweud bod un o'i westeion wedi dweud wrtho ei fod wedi cael prawf positif 24 awr ar ôl cyrraedd adref. Er i berchennog y gwesty ffonio GIG Cymru i gael y cyngor diweddaraf, uniongyrchol, yr oll a ddywedwyd wrtho oedd i edrych ar wefan Llywodraeth Cymru.
“Mae'r holl aros a'r holl bryder y mae'r dull hwn yn ei achosi yn gwbl ddiangen. Dyna pam rydw i wedi gofyn i Lywodraeth Cymru ystyried ffurfio tîm a all roi cyngor ar lafar i fusnesau pryderus 24/7 hefyd. Mae'n rhaid i ni wella'r cymorth sydd ar gael i'r rhai sy'n gweithio er lles gorau pawb ohonom ni.”
DIWEDD