Wrth gymryd rhan mewn dadl yn y Senedd ar gyflwyniad arfaethedig pasys Covid-19 yng Nghymru, mae Janet Finch-Saunders AS - Aelod o’r Senedd dros Aberconwy - wedi amlinellu ei gwrthwynebiad i’w cyflwyno gan grybwyll pryderon am yr agweddau moesegol, cyfreithiol ac ymarferol.
Mae Mrs Finch-Saunders wedi tynnu sylw at ymateb y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol i ymgynghoriad Llywodraeth y DU ar y mater o ardystio statws COVID-19. Roedd yr ymateb yn amlygu pryderon ynghylch y posibilrwydd o wahaniaethu neu fynd yn erbyn rhyddid sifil wrth orfod defnyddio statws ardystio i deithio, mynd i’r gwaith, mwynhau gweithgareddau cymdeithasol a chael mynediad at wasanaethau hanfodol, a chreu cymdeithas dwy haen sy’n caniatáu i grwpiau penodol yn unig fwynhau eu hawliau yn llawn.”
Dangosodd eu cyflwyniad yn glir hefyd y dylai unrhyw gynllun arfaethedig ystyried yr angen am esemptiadau ar gyfer grwpiau penodol a chael ei lywio gan asesiadau ar ba mor effeithiol yw’r brechiad o ran lleihau cyfraddau trosglwyddiadau, lleihau difrifoldeb symptomau a pherygl o salwch difrifol neu farwolaeth.
Yn rhoi sylwadau ar ei gwrthwynebiad, dywedodd Janet:
“Roedd dadl heddiw yn adolygu mater pwysig a chymhleth iawn sy’n mynd at galon y ffordd y mae’n cymdeithas yn gweithredu. Mae sgyrsiau diweddar gyda Chymdeithas Diwydiannau Nos Cymru wedi nodi’n glir y byddai pasbortau brechu yn ei gwneud yn ofynnol i fusnesau newid eu modelau gweithredu, ar ôl buddsoddi mewn ailagor heb y gofyniad hwn.
“Mae ein busnesau lletygarwch eisoes ymysg y busnesau sydd wedi’u heffeithio fwyaf yn ystod y pandemig, gyda llawer wedi’u gorlethu â dyledion ac ôl-ddyledion rhent. Mae pryder dwys a dilys ymysg ein busnesau nawr y gallai’r rheoliadau hyn arwain yn uniongyrchol at wrthdaro posibl gyda staff diogelwch a staff eraill mewn lleoliadau.
“Yn yr un modd, o ystyried statws gwarchodedig gwybodaeth feddygol unigolion, gan gynnwys statws brechu, gellid bod ystyriaethau o ran cyfraith diogelu data ar gyfer unrhyw fusnes sy’n gofyn am statws brechu unigolion sy’n dod i mewn i’w adeiladau. Law yn llaw â phryderon ynghylch mynd yn erbyn rhyddid sifil, mae cymhlethdod cyflawni hyn yn dod yn amlwg.
“Mae cwestiynau difrifol ynghylch gweithrediad y tystysgrifau hyn yn parhau. Felly, byddaf yn parhau i weithio gyda fy nghydweithwyr yn y Ceidwadwyr Cymreig i ddwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif dros gamau gweithredu polisi COVID-19 a gwrthwynebu gweithrediad pasys domestig COVID-19.”
DIWEDD
Ffoto: Janet Finch-Saunders AS