Skip to main content
Banner image for Janet Finch-Saunders MS/AS

Janet Finch-Saunders MS/AS

ABERCONWY

Main navigation

  • Home/Hafan
  • Janet
  • News/Newyddion
  • Senedd Cymru
  • Contact/Manylion Cyswllt

AS Aberconwy yn hyrwyddo Ysgol Feddygol Gogledd Cymru fel ffordd o ddatrys argyfwng recriwtio

  • Tweet
Thursday, 11 March, 2021
Marchnata Ar-lein ar Unsplas

Wrth siarad yn y Senedd, mae Janet Finch-Saunders, yr Aelod o'r Senedd dros Aberconwy, wedi tanlinellu ei chefnogaeth i'r rôl y gallai Ysgol Feddygol Gogledd Cymru ei chael wrth ddatrys argyfwng recriwtio'r rhanbarth. 

Mae'r cynigion yn cael eu llywio gan Brifysgol Bangor a Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, ac maen nhw'n ceisio datblygu ymhellach yr hyn sydd ar gael nawr. Ar hyn o bryd, mae nifer o fyfyrwyr yn astudio Rhaglen Mynediad i Raddedigion Gogledd Cymru C21, sy'n cael ei rhedeg ar y cyd â Phrifysgol Caerdydd. Mae hyn yn rhoi cyfle i fyfyrwyr graddedig wneud gwblhau eu cwrs gradd meddygol i gyd yn y Gogledd.

Wrth siarad ar ôl ei chyfraniad, dywedodd Janet: 

“Ym mis Mehefin 2015, fe wnaeth Mark Drakeford roi Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr mewn mesurau arbennig, gan adlewyrchu pryderon difrifol am arweinyddiaeth, llywodraethu, gwasanaethau iechyd meddwl, ailgysylltu â'r cyhoedd, a meysydd eraill. Yr wythnos ddiwethaf, aeth y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ati unwaith eto i amlinellu pedwar maes i'w gwella. 

“O'r hanner miliwn o lwybrau cleifion sy'n aros i ddechrau triniaeth ym mis Rhagfyr, mae 21% yma yn y Gogledd. O'r chwarter miliwn o lwybrau sy'n aros dros 36 wythnos, mae dros 51,000 yma yn y Gogledd. Mae hynny'n gynnydd o 347% ers dechrau'r pandemig.  

“Rhan o'r broblem yw argyfwng recriwtio sydd wedi’i wreiddio’n ddwfn, ac mae hynny’n arwain at gostau enfawr mewn biliau staff asiantaeth. Dyna pam rydw i wedi annog Llywodraeth Cymru i gychwyn y broses o sicrhau cynnydd sylweddol mewn recriwtio drwy fanteisio i'r eithaf ar y potensial ar gyfer Ysgol Feddygol Gogledd Cymru. Mae'n rhaid i ni fuddsoddi nawr er mwyn sicrhau bod hyn yn talu ar ei ganfed yn y tymor hir.” 

Diwedd 

Llun: Marchnata Ar-lein ar Unsplas

  • Local News

You may also be interested in

Janet

First Minister Urged to Keep to his word and Make Business Support “Immediately available”

Wednesday, 12 May, 2021

Janet Finch-Saunders, Member of the Senedd for Aberconwy, has written to Mark Drakeford MS, First Minister, urging him to keep to his word and make business support immediately available.

 

Show only

  • Articles
  • Assembly News
  • Local News
  • Media
  • Opinions
  • Senedd News
  • Speeches
  • Westminster News

Janet Finch-Saunders MS/AS Aberconwy

Footer

  • About RSS
  • Accessibility
  • Cookies
  • Privacy
  • About/Am Janet Finch-Saunders
  • Polisi Diogelu Data a Phreifatrwydd
Promoted by Mostyn Jones on behalf of Janet Finch-Saunders, both of 29 Madoc Street, Llandudno, LL30 2TL

Neither the Welsh Parliament, nor Janet Finch-Saunders are responsible for the content of external links or websites. The costs of this website have been met by the Senedd Commission from public funds | Nid yw Senedd Cymru na Janet Finch Saunders yn gyfrifol am gynnwys lincs na gwefannau allanol. Mae Comisiwn y Senedd wedi talu costau'r wefan hon o arian cyhoeddus.

Copyright 2021 Janet Finch-Saunders MS/AS Aberconwy. All rights reserved.
Powered by Bluetree