Skip to main content
Banner image for Janet Finch-Saunders MS/AS

Janet Finch-Saunders MS/AS

ABERCONWY

Main navigation

  • Home/Hafan
  • Janet
  • News/Newyddion
  • Senedd Cymru
  • Contact/Manylion Cyswllt

AS Aberconwy yn nodi Diwrnod Gweithredu Gofalwyr Ifanc 2021

  • Tweet
Tuesday, 16 March, 2021
Janet Finch-Saunders MS

Heddiw (16 Mawrth), mae'r Aelod o’r Senedd dros Aberconwy – Janet Finch-Saunders AS – wedi nodi Diwrnod Gweithredu Gofalwyr Ifanc 2021 drwy bwysleisio'r angen i hybu mynediad at addysg ôl-16, gan gynnwys drwy gyflwyno cynllun tocynnau teithio rhatach a Grant i Ofalwyr Ifanc y Dyfodol o £60 yr wythnos.

Mae Diwrnod Gweithredu Gofalwyr Ifanc yn ddigwyddiad blynyddol dan arweiniad yr Ymddiriedolaeth Gofalwyr. Mae'n codi ymwybyddiaeth ac yn galw am weithredu i gynyddu'r cymorth i bobl ifanc sydd â chyfrifoldebau gofalu. Gallwch gael rhagor o wybodaeth drwy fynd i https://carers.org/young-carers-action-day-2021/diwrnod-gweithredu-gofalwyr-ifanc-2021.

Wrth ddathlu gofalwyr ifanc Aberconwy, dywedodd Janet:

"Mae gan ofalwyr ifanc, ar draws Aberconwy a Chymru, lawer iawn o gyfrifoldeb ar eu hysgwyddau, felly gallaf ddychmygu pa mor ofidus y gall fod pan nad yw unigolion yn deall eu rôl yn llawn – ffaith bryderus a danlinellwyd ymhellach yn ystod y pandemig.

"Wrth ofalu am eu hanwyliaid, yn aml ar ben ymrwymiadau eraill, mae ein gofalwyr ifanc wedi datblygu sgiliau gwerthfawr fel gwydnwch, rheoli amser ac empathi. Y thema eleni yw diogelu dyfodol gofalwyr ifanc, gan hyrwyddo'r sgiliau hyn i ddatgloi cyfleoedd pellach.

"Gall pob un ohonom chwarae rôl gefnogol, o ysgolion i gyflogwyr. Fel ffordd o gydnabod y pwysau y mae ein gofalwyr ifanc yn eu hwynebu, a sicrhau y gellir datblygu'r sgiliau hyn drwy addysg a lleoliadau gwaith, rwyf wedi bod yn dadlau dros gyflwyno cynllun tocynnau teithio rhatach a Grant ar gyfer Dyfodol ein Gofalwyr Ifanc o £60 yr wythnos."

Diwedd

  • Local News

You may also be interested in

Janet

First Minister Urged to Keep to his word and Make Business Support “Immediately available”

Wednesday, 12 May, 2021

Janet Finch-Saunders, Member of the Senedd for Aberconwy, has written to Mark Drakeford MS, First Minister, urging him to keep to his word and make business support immediately available.

 

Show only

  • Articles
  • Assembly News
  • Local News
  • Media
  • Opinions
  • Senedd News
  • Speeches
  • Westminster News

Janet Finch-Saunders MS/AS Aberconwy

Footer

  • About RSS
  • Accessibility
  • Cookies
  • Privacy
  • About/Am Janet Finch-Saunders
  • Polisi Diogelu Data a Phreifatrwydd
Promoted by Mostyn Jones on behalf of Janet Finch-Saunders, both of 29 Madoc Street, Llandudno, LL30 2TL

Neither the Welsh Parliament, nor Janet Finch-Saunders are responsible for the content of external links or websites. The costs of this website have been met by the Senedd Commission from public funds | Nid yw Senedd Cymru na Janet Finch Saunders yn gyfrifol am gynnwys lincs na gwefannau allanol. Mae Comisiwn y Senedd wedi talu costau'r wefan hon o arian cyhoeddus.

Copyright 2021 Janet Finch-Saunders MS/AS Aberconwy. All rights reserved.
Powered by Bluetree