Skip to main content
Banner image for Janet Finch-Saunders MS/AS

Janet Finch-Saunders MS/AS

ABERCONWY

Main navigation

  • Home/Hafan
  • Janet
  • News/Newyddion
  • Senedd Cymru
  • Contact/Manylion Cyswllt

AS Aberconwy yn Sicrhau Addewid gan Lywodraeth Cymru ar gyfer Cerddwyr yng Nglan Conwy

  • Tweet
Friday, 11 October, 2019
Janet

Ar ôl blynyddoedd o ymgyrchu cymunedol am groesfan ddiogel i gerddwyr ar hyd yr A470 yng Nglan Conwy, mae Janet Finch-Saunders, yr Aelod Cynulliad dros Aberconwy, wedi cael addewid gan Ken Skates AC, Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth, y bydd yn gweithredu ar y mater hwn.

 

Mae ymrwymiad y Gweinidog i’w weld yn ei ymateb i gwestiwn gan Janet, sydd wedi’i gynnwys ar ddiwedd y datganiad hwn i’r wasg.

 

Wrth drafod ei llwyddiant, meddai Janet:

 

“Ers i Lywodraeth Cymru gyhoeddi ei chynlluniau i wella Cylchfan y Black Cat, rwyf wedi datgan yn glir bod angen rhoi ystyriaeth fanwl i ddiogelwch cerddwyr yng Nglan Conwy.

 

“Yn dilyn fy ngwaith craffu ar y gwaith arfaethedig a gweithredoedd y Gweinidog, mae wedi dod i’r amlwg y gallai’r system goleuadau traffig newydd gynyddu’r perygl i ddiogelwch cerddwyr yng Nglan Conwy.

 

“Felly, i fynd i’r afael â’r mater hwn, rwyf wedi codi’r hen ymgyrch i gael croesfan ddiogel yn y pentref.

 

“Mae’n dda gennyf ddweud bod Llywodraeth Cymru wedi cytuno o’r diwedd bod angen gweithredu ar y mater hwn.

 

“Ar ôl gwrando ar fy mhryderon ynglŷn â diogelwch, mae’r Gweinidog yn cynnig uwchraddio’r man croesi presennol yng nghyffordd Stryd yr Eglwys / yr A470 yng Nglan Conwy, gan ddatblygu’r droetffordd bresennol ar ochr y gorllewin i ddarparu llwybr defnydd wedi’i rannu i gysylltu Stryd yr Eglwys â’r cyfleusterau hamdden a’r busnesau yng Nghae Ffwt.

 

“Gobeithio y bydd cynifer o drigolion â phosibl yn gallu mynychu’r digwyddiad cyhoeddus ynglŷn â’r mater hwn, ar ôl i Lywodraeth Cymru benderfynu ar ddyddiad”.

 

DIWEDD

 

Cwestiwn ysgrifenedig Janet yn y Cynulliad:

 

Yn dilyn WAQ78841 a’r disgwyliad y bydd llif y traffig yn gwella ar hyd yr A470 i gyfeiriad y gogledd trwy Glan Conwy, a oes ystyriaeth wedi’i rhoi i’r perygl cynyddol posibl i gerddwyr sy’n ceisio croesi’r ffordd yn y pentref?

 

Ymateb Ken Skates AC, Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth:

 

Rhoddir ystyriaeth ddyledus i ddiogelwch dulliau trafnidiaeth o bob math, gan gynnwys seiclwyr a cherddwyr, yn ystod cam dichonoldeb a cham dylunio’r cynllun hwn.

 

Hefyd, rydym yn bwriadu uwchraddio’r man croesi presennol yng nghyffordd Stryd yr Eglwys / yr A470 yng Nglan Conwy. Bydd y gwaith hwn yn cynnwys uwchraddio’r droetffordd bresennol ar ochr y gorllewin i ddarparu llwybr defnydd wedi’i rannu i gysylltu Stryd yr Eglwys â’r cyfleusterau hamdden a’r busnesau ym Mharc Busnes Cae Ffwt.

 

Mae’r prosiect wedi cyrraedd y cam dylunio manwl, a byddwn yn cynnal digwyddiad cyhoeddus yn y dyfodol agos i ymgysylltu â’r gymuned.

 

Nodiadau:

 

A55: cyffordd 19 cyfnewidfa Glan Conwy (trosolwg)

 

Dogfen Ymgynghori Llywodraeth Cymru: Cyffordd 19 Cyfnewidfa Llansanffraid Glan Conwy Yr A55

 

Major road improvements planned for notorious A470 Black Cat roundabout off A55

  • Local News

You may also be interested in

Janet

First Minister Urged to Keep to his word and Make Business Support “Immediately available”

Wednesday, 12 May, 2021

Janet Finch-Saunders, Member of the Senedd for Aberconwy, has written to Mark Drakeford MS, First Minister, urging him to keep to his word and make business support immediately available.

 

Show only

  • Articles
  • Assembly News
  • Local News
  • Media
  • Opinions
  • Senedd News
  • Speeches
  • Westminster News

Janet Finch-Saunders MS/AS Aberconwy

Footer

  • About RSS
  • Accessibility
  • Cookies
  • Privacy
  • About/Am Janet Finch-Saunders
  • Polisi Diogelu Data a Phreifatrwydd
Promoted by Mostyn Jones on behalf of Janet Finch-Saunders, both of 29 Madoc Street, Llandudno, LL30 2TL

Neither the Welsh Parliament, nor Janet Finch-Saunders are responsible for the content of external links or websites. The costs of this website have been met by the Senedd Commission from public funds | Nid yw Senedd Cymru na Janet Finch Saunders yn gyfrifol am gynnwys lincs na gwefannau allanol. Mae Comisiwn y Senedd wedi talu costau'r wefan hon o arian cyhoeddus.

Copyright 2021 Janet Finch-Saunders MS/AS Aberconwy. All rights reserved.
Powered by Bluetree