Skip to main content
Banner image for Janet Finch-Saunders MS/AS

Janet Finch-Saunders MS/AS

ABERCONWY

Main navigation

  • Home/Hafan
  • Janet
  • News/Newyddion
  • Senedd Cymru
  • Contact/Manylion Cyswllt

AC Aberconwy yn annog pobl i barchu’r Cod Cefn Gwlad i ddiogelu Ffermwyr Cymru

  • Tweet
Wednesday, 8 April, 2020
Janet Finch-Saunders during a Farm Visit

Heddiw (8 Ebrill), mae Janet Finch-Saunders, Aelod Aberconwy, yn annog preswylwyr i barchu’r Cod Cefn Gwlad er mwyn cefnogi ‘iechyd a llesiant’ ffermwyr Cymru.

Janet Finch-Saunders AM/AC, Member for Aberconwy, today (8 April) urges residents to respect the Countryside Code to support the ‘health and well being’ of Welsh farmers. Dywedodd Undeb Amaethwyr Cymru ei bod wedi derbyn nifer uchel o alwadau gan ffermwyr am aelodau’r cyhoedd yn cerdded ar draws tir ffermio, gan adael giatiau ar agor a gadael eu cŵn i redeg yn wyllt.

Mae’r Undeb yn erfyn ar bobl, yn enwedig pobl sy’n cerdded eu cŵn, i ddilyn rheolau’r Llywodraeth:

  • Peidiwch â theithio – gwnewch eich ymarfer corff yn agos i’ch cartref bob tro.
  • Byddwch yn wyliadwrus o ran golchi eich dwylo - mae giatiau, camfeydd a strwythurau awyr agored eraill yn cael eu cyffwrdd yn rheolaidd.
  • Peidiwch ag ymgymryd â gweithgareddau newydd neu beryglus.
  • Dilynwch y Cod Cefn Gwlad - meddyliwch am ffermwyr sy’n gweithio yn galed i gadw ein silffoedd yn llawn a’n seilwaith ar waith.
  • Cadwch gŵn ar eu tennyn.

Yn ei datganiad, dywedodd Mrs Finch-Saunders:

“Mae ein ffermwyr anhunanol yn gweithio yn ddiflino i fodloni galw cynyddol gan ddefnyddwyr, gan addasu’n gyflym i ddiwallu anghenion brys ein harchfarchnadoedd a’n siopau cornel.

“Wrth i ffermwyr Cymru barhau i ymroi i fwydo’r genedl, mae’n rhaid i ni fod yn barod i gynnig ein cymorth. Gallwn wneud hyn drwy barchu’r tir sy’n gartref ac yn weithle iddynt.

“Rwyf wedi clywed sawl tro bod llawer o ffermwyr Cymru yn y categori bregus. Mae hyn yn golygu byddant yn hunanynysu yn ogystal â gofalu am dda byw.

“Trwy ddilyn y Cod Cefn Gwlad, gallwch sicrhau iechyd a diogelwch yr arwyr amaethyddol hyn.

“Hoffwn hefyd atgoffa pawb i fwyta’n lleol. Trwy gefnogi ffermwyr Cymru yn ystod y cyfnod enbydus hwn – boed yn gig oen neu ddofednod, cynnyrch llaeth neu gnydau – gallwn gefnogi’n ariannol y rhai sy’n gweithio galetaf i ddiogelu ein llesiant maethol.

DIWEDD

  • Senedd News

You may also be interested in

Janet

First Minister Urged to Keep to his word and Make Business Support “Immediately available”

Wednesday, 12 May, 2021

Janet Finch-Saunders, Member of the Senedd for Aberconwy, has written to Mark Drakeford MS, First Minister, urging him to keep to his word and make business support immediately available.

 

Show only

  • Articles
  • Assembly News
  • Local News
  • Media
  • Opinions
  • Senedd News
  • Speeches
  • Westminster News

Janet Finch-Saunders MS/AS Aberconwy

Footer

  • About RSS
  • Accessibility
  • Cookies
  • Privacy
  • About/Am Janet Finch-Saunders
  • Polisi Diogelu Data a Phreifatrwydd
Promoted by Mostyn Jones on behalf of Janet Finch-Saunders, both of 29 Madoc Street, Llandudno, LL30 2TL

Neither the Welsh Parliament, nor Janet Finch-Saunders are responsible for the content of external links or websites. The costs of this website have been met by the Senedd Commission from public funds | Nid yw Senedd Cymru na Janet Finch Saunders yn gyfrifol am gynnwys lincs na gwefannau allanol. Mae Comisiwn y Senedd wedi talu costau'r wefan hon o arian cyhoeddus.

Copyright 2021 Janet Finch-Saunders MS/AS Aberconwy. All rights reserved.
Powered by Bluetree