Skip to main content
Banner image for Janet Finch-Saunders MS/AS

Janet Finch-Saunders MS/AS

ABERCONWY

Main navigation

  • Home/Hafan
  • Janet
  • News/Newyddion
  • Senedd Cymru
  • Contact/Manylion Cyswllt

AC Aberconwy yn Targedu Bylchau mewn Gofal Deintyddol

  • Tweet
Wednesday, 4 December, 2019
Teeth

Roedd yn rhaid i’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wynebu sesiwn graffu eithaf llym ar lawdriniaethau deintyddol ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yr wythnos hon. Digwyddodd hyn wedi i Janet Finch-Saunders, Aelod Cynulliad Aberconwy, ddwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif am y ffaith bod gan GIG Cymru, ym mis Medi, y ganran uchaf erioed o amseroedd aros lle’r oedd llwybrau cleifion yn gorfod disgwyl rhwng 26 a 36 wythnos am driniaeth ar gyfer llawdriniaeth ar y geg.

 

Ar ôl craffu ar y Gweinidog, meddai Janet:

 

“Roedd tua 1,600 o lwybrau cleifion yn aros dros y targed ar gyfer amser aros am lawdriniaeth ar y geg ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr ym mis Medi.

 

“Fel y dywedais wrth y Gweinidog, mae’r oedi mewn llawdriniaeth yn niweidiol i fy etholwyr.

 

“Mae un wedi bod yn disgwyl am flwyddyn gyfan bron i gael tynnu dant wedi ei heintio.

 

“Mae’n annerbyniol bod trigolion yn cael eu gadael i aros gydag wynebau chwyddedig, heintiadau, a phoen difrifol, am driniaeth ddeintyddol.

 

“Er fy mod yn croesawu’r ffaith bod adolygiad o ddarpariaeth ddeintyddol frys ac argyfwng wedi cychwyn, mae’r sefyllfa’n dystiolaeth bellach o’r argyfwng parhaus yn ein bwrdd iechyd”.

 

DIWEDD

 

Nodiadau:

 

Llwybrau cleifion sy’n aros i gychwyn triniaeth yn ôl mis, fesul grŵp o wythnosau a swyddogaeth y driniaeth

 

Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Darpariaeth frys o Lawdriniaeth Ddeintyddol yn y Gogledd 

  • Local News

You may also be interested in

Janet

First Minister Urged to Keep to his word and Make Business Support “Immediately available”

Wednesday, 12 May, 2021

Janet Finch-Saunders, Member of the Senedd for Aberconwy, has written to Mark Drakeford MS, First Minister, urging him to keep to his word and make business support immediately available.

 

Show only

  • Articles
  • Assembly News
  • Local News
  • Media
  • Opinions
  • Senedd News
  • Speeches
  • Westminster News

Janet Finch-Saunders MS/AS Aberconwy

Footer

  • About RSS
  • Accessibility
  • Cookies
  • Privacy
  • About/Am Janet Finch-Saunders
  • Polisi Diogelu Data a Phreifatrwydd
Promoted by Mostyn Jones on behalf of Janet Finch-Saunders, both of 29 Madoc Street, Llandudno, LL30 2TL

Neither the Welsh Parliament, nor Janet Finch-Saunders are responsible for the content of external links or websites. The costs of this website have been met by the Senedd Commission from public funds | Nid yw Senedd Cymru na Janet Finch Saunders yn gyfrifol am gynnwys lincs na gwefannau allanol. Mae Comisiwn y Senedd wedi talu costau'r wefan hon o arian cyhoeddus.

Copyright 2021 Janet Finch-Saunders MS/AS Aberconwy. All rights reserved.
Powered by Bluetree