Mae Janet Finch-Saunders AC, Aelod Cynulliad Aberconwy, wedi galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod proses ymgynghori lawn ac agored yn cael ei chynnal ar gyflwyno gwelliannau i Gyffyrdd 15 ac 16 yr A55.
Deallir y bydd y gwaith arfaethedig yn golygu cael gwared ar gylchfannau yn y cyffyrdd hyn.
Mae’r broses eisoes ar ei hôl hi, gyda gwefan Llywodraeth Cymru’n dweud “rydym yn gobeithio cynnal arddangosfeydd i roi gwybodaeth i'r cyhoedd dechrau 2017” ond mewn ymateb i Gwestiwn Ysgrifenedig y Cynulliad yn ddiweddar, awgrymwyd y byddai’r rhain yn cael eu cynnal tua diwedd y flwyddyn.
Meddai Janet:
“Mae Llywodraeth Cymru eisoes wedi gohirio ei harddangosfeydd gwybodaeth gyhoeddus. Er fy mod i’n falch o nodi y byddant yn cael eu cynnal yn ddiweddarach eleni, rwy’n dal i boeni nad yw Ysgrifennydd y Cabinet yn gallu rhoi amserlen bendant ar gyfer dechrau’r broses ymgynghori.
“Mae’n hollbwysig bod yr ymgynghoriad ar y gwaith hwn, sy’n debygol o effeithio ar lawer o drigolion a busnesau lleol, yn gwbl agored, yn dryloyw ac ar gael i bawb.
“Rhaid i Lywodraeth Cymru ddangos sut y cafodd barn a sylwadau pawb a effeithir eu hystyried cyn dechrau unrhyw waith yn yr ardal hon.”
Nodiadau:
Yn ôl gwefan Llywodraeth Cymru
“Ymgynghori
Cynhaliwyd gweithdai i randdeiliaid ym mis Gorffennaf 2008.
Rydym yn gobeithio cynnal arddangosfeydd i roi gwybodaeth i'r cyhoedd dechrau 2017 ar ôl penodi contractwr ECI.
Camau nesaf
Byddwn yn penodi contractwr ECI hydref 2016.”
[Dolen:http://gov.wales/topics/transport/roads/schemes/a55/junction-15-junctio…]
Cwestiwn Ysgrifenedig y Cynulliad:
CWESTIWN YSGRIFENEDIG Y CYNULLIAD
I’W ATEB GAN
YSGRIFENNYDD Y CABINET DROS YR ECONOMI A’R SEILWAITH
AR 11 HYDREF 2017
Janet Finch-Saunders (Aberconwy): A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y cynnydd a wnaed o ran y gwaith gwella i gyffyrdd 15 a 16 ar yr A55, i gynnwys manylion yr ymgynghoriad cyhoeddus, ac amserlen fanwl ar gyfer datblygu, ymgynghori, dylunio ac adeiladu? (WAQ74330)
Ken Skates: We recently appointed Carillion as the Early Contractor Involvement (ECI) contractor to progress the improvements of Junctions 15 and 16 on the A55. Over the next 18 months we will be progressing the design development of both junctions which will include public consultations. We are planning to hold Public Information Exhibitions towards the end of the year where further details of the programme for delivering the junction improvements will be presented.