Skip to main content
Banner image for Janet Finch-Saunders MS/AS

Janet Finch-Saunders MS/AS

ABERCONWY

Main navigation

  • Home/Hafan
  • Janet
  • News/Newyddion
  • Senedd Cymru
  • Contact/Manylion Cyswllt

Addewid i sicrhau bod modd cael gafael ar feddyginiaethau ffibrosis systig

  • Tweet
Friday, 22 November, 2019
hospital

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi'r wythnos hon y dylai cleifion yng Nghymru fedru cael gafael ar Orkambi a Symkevi: cyffuriau newid bywyd i bobl â ffibrosis systig. Erbyn hyn mae yna gytundeb mewn egwyddor ar delerau gyda Vertex Pharmaceuticals, a ddylai weld cleifion â'r flaenoriaeth uchaf yn cael triniaeth ym mis Rhagfyr a phob claf cymwys yn cael cynnig triniaeth o 2020 ymlaen. 

 

Mae hyn yn dilyn blynyddoedd o waith gan Janet Finch-Saunders, Aelod Cynulliad Aberconwy, gyda nifer o’i hetholwyr bellach yn gallu cael gafael ar y cyffur.

 

Wrth sôn am gyhoeddiad y Gweinidog Iechyd, dywedodd Janet:

 

“Rwy'n falch iawn bod Cymru yn dal i fyny â Lloegr a'r Alban ac y dylai fy etholwyr allu cael gafael ar Orkambi cyn gynted â mis nesaf.

 

“Mae'r trigolion lleol hynny rydw i wedi cael pleser i weithio gyda nhw a'u cynrychioli yn haeddu diolch am eu hymdrechion diflino i sicrhau bod y moddion hwn a allai newid bywydau ar gael.

 

“Wrth weithio i ddod â'r feddyginiaeth i Gymru, rydw i wedi bod mewn cysylltiad â Phwyllgor Gwasanaeth Iechyd Arbenigol Cymru, Mr Gary Doherty, Prif Weithredwr, Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, a Vaughan Gething AC, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol.

 

“Mae hyn yn newyddion da i Gymru, ond mae dal yn drueni ei bod hi wedi cymryd cymaint o amser i Lywodraeth Cymru wneud y penderfyniad.

 

“Ni ddylai unrhyw oedi fod wedi bod o ran sicrhau bod y feddyginiaeth hon - a all arafu'r dirywiad yn swyddogaeth yr ysgyfaint, ac achub bywydau - ar gael yng Nghymru.”

 

 

DIWEDD

 

Nodiadau:

 

Datganiad ysgrifenedig: Mynediad i feddyginiaethau ffibrosis systig Orkambi® a Symkevi®

 

Bydd cyffur ffibrosis systig ar gael i gleifion yng Nghymru

 

Orkambi (Mae data 96-wythnos yn dangos y gall Orkambi arafu dirywiad yn swyddogaeth yr ysgyfaint - prif achos marwolaeth ymhlith pobl â ffibrosis systig – o 42%)

  • Senedd News

You may also be interested in

Janet

First Minister Urged to Keep to his word and Make Business Support “Immediately available”

Wednesday, 12 May, 2021

Janet Finch-Saunders, Member of the Senedd for Aberconwy, has written to Mark Drakeford MS, First Minister, urging him to keep to his word and make business support immediately available.

 

Show only

  • Articles
  • Assembly News
  • Local News
  • Media
  • Opinions
  • Senedd News
  • Speeches
  • Westminster News

Janet Finch-Saunders MS/AS Aberconwy

Footer

  • About RSS
  • Accessibility
  • Cookies
  • Privacy
  • About/Am Janet Finch-Saunders
  • Polisi Diogelu Data a Phreifatrwydd
Promoted by Mostyn Jones on behalf of Janet Finch-Saunders, both of 29 Madoc Street, Llandudno, LL30 2TL

Neither the Welsh Parliament, nor Janet Finch-Saunders are responsible for the content of external links or websites. The costs of this website have been met by the Senedd Commission from public funds | Nid yw Senedd Cymru na Janet Finch Saunders yn gyfrifol am gynnwys lincs na gwefannau allanol. Mae Comisiwn y Senedd wedi talu costau'r wefan hon o arian cyhoeddus.

Copyright 2021 Janet Finch-Saunders MS/AS Aberconwy. All rights reserved.
Powered by Bluetree