Skip to main content
Banner image for Janet Finch-Saunders MS/AS

Janet Finch-Saunders MS/AS

ABERCONWY

Main navigation

  • Home/Hafan
  • Janet
  • News/Newyddion
  • Senedd Cymru
  • Contact/Manylion Cyswllt

‘Adolygu rheolau er mwyn cynyddu’r cyflenwadau bwyd o Gymru i ysgolion, ysbytai, y lluoedd arfog ac awdurdodau lleol’

  • Tweet
Tuesday, 18 August, 2020
Janet Finch-Saunders MS

Mae Janet Finch-Saunders AS Gweinidog yr Wrthblaid y Ceidwadwyr Cymreig dros Newid Hinsawdd, Ynni a Materion Gwledig wedi ysgrifennu at y Prif Weinidog yn galw am iddo adolygu arferion cyfredol y sector cyhoeddus yng Nghymru ar gyfer caffael bwyd a diod. Mae Mrs Finch-Saunders yn credu bod yn rhaid addasu’r mesurau cyfredol fel y gellir cefnogi’n well cynhyrchwyr a ffermwyr Cymru.

Mae’r sector cyhoeddus yn cyfrannu’n sylweddol at wariant bwyd a diod yng Nghymru, ac amcangyfrifir bod y gwariant hwn yn £78 miliwn ar gyfer blwyddyn ariannol 2015/16. Yn ôl ffigurau a ryddhawyd gan yr Archwilydd Cyffredinol Cymru, roedd hyn yn cynnwys gwariant o £53 miliwn gan lywodraeth leol; gwariant o £20 miliwn gan fyrddau iechyd; gwariant o £2 filiwn gan lywodraeth ganolog a chyrff a noddir; a gwariant o £2 filiwn gan sefydliadau addysg bellach ac addysg uwch.

Gan sôn am ei llythyr i’r Prif Weinidog, dywedodd:

“Mae’r cyfnod adfer o COVID-19 yn rhoi cyfle i fynd ati o ddifrif i gefnogi ein cyflenwyr yma yng Nghymru. Rydw i wedi ysgrifennu at y Prif Weinidog yn galw am adolygiad o arferion caffael y sector cyhoeddus, er mwyn sicrhau bod arian cyhoeddus yn cael ei wario ar gael mynediad i fwyd maethlon o ansawdd a dyfir yng Nghymru.

“Byddai mesurau newydd yn creu gwell cyfleoedd i fusnesau bwyd a diod o Gymru, gan gylchdroi arian cyhoeddus yn y llefydd y caiff ei fuddsoddi. Byddai’n arwydd amlwg iawn o gefnogaeth i’r sector hwn, wrth i’w cynnyrch ychwanegu’n fawr at yr hyn a gynigir mewn prydau bwyd mewn ysgolion, ysbytai, safleoedd y lluoedd arfog ac adeiladau awdurdod lleol yng Nghymru.

“Fel y mae ar hyn o bryd, mae’r rheolau cyfredol yn rhwystr diangen syn atal cynhyrchwyr lleol rhag ennill contractau cyhoeddus gwerthfawr. Dychmygwch am eiliad y gwahaniaeth y gallai gwariant blynyddol o £78 miliwn ei wneud i’r sector petai’r holl gyllideb caffael hwnnw’n cael ei wario yng Nghymru ar gynnyrch o Gymru.

“Byddai rhoi arferion caffael newydd ar waith yn rhoi cymaint â phosibl o gefnogaeth i fusnesau lleol sy’n darparu cyfleoedd cyflogaeth hanfodol, byddai’n sicrhau’r safonau lles uchaf wrth symud ymlaen ac yn ffordd synhwyrol a blaenllaw o ymateb i’r argyfwng hinsawdd.”

DIWEDD

  • Senedd News

You may also be interested in

Janet

First Minister Urged to Keep to his word and Make Business Support “Immediately available”

Wednesday, 12 May, 2021

Janet Finch-Saunders, Member of the Senedd for Aberconwy, has written to Mark Drakeford MS, First Minister, urging him to keep to his word and make business support immediately available.

 

Show only

  • Articles
  • Assembly News
  • Local News
  • Media
  • Opinions
  • Senedd News
  • Speeches
  • Westminster News

Janet Finch-Saunders MS/AS Aberconwy

Footer

  • About RSS
  • Accessibility
  • Cookies
  • Privacy
  • About/Am Janet Finch-Saunders
  • Polisi Diogelu Data a Phreifatrwydd
Promoted by Mostyn Jones on behalf of Janet Finch-Saunders, both of 29 Madoc Street, Llandudno, LL30 2TL

Neither the Welsh Parliament, nor Janet Finch-Saunders are responsible for the content of external links or websites. The costs of this website have been met by the Senedd Commission from public funds | Nid yw Senedd Cymru na Janet Finch Saunders yn gyfrifol am gynnwys lincs na gwefannau allanol. Mae Comisiwn y Senedd wedi talu costau'r wefan hon o arian cyhoeddus.

Copyright 2021 Janet Finch-Saunders MS/AS Aberconwy. All rights reserved.
Powered by Bluetree