Skip to main content
Banner image for Janet Finch-Saunders MS/AS

Janet Finch-Saunders MS/AS

ABERCONWY

Main navigation

  • Home/Hafan
  • Janet
  • News/Newyddion
  • Senedd Cymru
  • Contact/Manylion Cyswllt

Aelod Aberconwy yn cyhoeddi manteision iechyd meddwl a chadwraeth Birdwatch

  • Tweet
Friday, 29 January, 2021
Photo: Jan Meeus on Unsplash

Heddiw (29 Ionawr), mae Gweinidog Cysgodol y Ceidwadwyr Cymreig dros yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig – Janet Finch-Saunders AS – yn annog trigolion Cymru benbaladr i dreulio awr y penwythnos hwn yn cofnodi'r adar sy'n ymweld â'u gerddi, fel rhan o ddigwyddiad 'Big Garden Birdwatch' yr RSPB.

Eleni, cynhelir y digwyddiad gwylio adar blynyddol rhwng 29 a 31 Ionawr. Dyma arolwg adar mwyaf y byd, ac mae wedi'i gynnal bob blwyddyn ers 1979. Mae arolwg newydd YouGov a gynhaliwyd ar gyfer yr elusen, wedi datgelu bod gwylio a gwrando ar adar wedi helpu pobl yn ystod y pandemig. Mae bron i ddwy ran o dair o'r rhai a holwyd yn teimlo bod gwylio adar a chlywed eu cân yn ychwanegu at eu mwynhad o fywyd, yn enwedig yn ystod y 12 mis diwethaf.

Wrth annog pobl i gymryd rhan yn y digwyddiad, dywedodd Janet:

“2021 yw 42ain digwyddiad 'Big Garden Birdwatch' blynyddol - cyfle hanfodol sy'n caniatáu i'r elusen gadw llygad barcud ar boblogaeth adar Prydain. Yn anffodus, ers y digwyddiad cyntaf nôl ym 1979, mae nifer y rhywogaethau niferus wedi dirywio.

“Drwy gofnodi'r adar sy'n piciad i'ch gardd neu fannau gwyrdd lleol, am gyfnod o awr yn unig, gallai'r Big Garden Birdwatch roi cliwiau i gadwraethwyr ynghylch pa rywogaethau sydd dan fygythiad, a pham. Mae hefyd yn ein helpu i olrhain pa adar sy'n gwneud yn arbennig o dda.

“Un o bleserau prin y misoedd diwethaf fu gwylio'r robin goch a'r sigl-di-gwt yn porthi ar fwrdd adar wrth fy ffenestr wrth i mi weithio. Yn aml, maen nhw'n cael cwmni'r fronfraith a'r ji-binc, yn dibynnu ar ba mor hael yw fy mwrdd bwyd adar!

"Ar ôl sylwi ar farcud coch yn hedfan fry, rydych chi'n dechrau gwerthfawrogi'r creaduriaid godidog hyn yn ein byd naturiol. Fel cynifer o bobl ledled y DU, mae'r cysylltiad hwn â bywyd gwyllt Prydain wedi fy helpu i ddal ati mewn blwyddyn heriol dros ben.

“Yn ogystal â'r manteision iechyd meddwl, a chyda 51% o ymatebwyr i arolwg YouGov yr RSPB yn dweud bod y pandemig wedi eu gwneud yn fwy ymwybodol o fyd natur o'u cwmpas, mae'r arolwg adar blynyddol hwn hefyd yn gyfle gwych i sicrhau ein bod ni i gyd yn ystyried ein heffaith ar ein cyfeillion pluog yn well, wrth i ni edrych ymlaen at adferiad gwyrdd ôl-Covid.”

DIWEDD

Nodiadau i Olygyddion:

  • Dyma'r pum aderyn mwyaf cyffredin yn arolwg Big Garden Birdwatch yr RSPB 2020 (Rhywogaethau – cyfartaledd fesul gardd (% o rywogaethau gerddi a gofnodwyd yn 2020)) Aderyn y to – 4.7 (64); Drudwen – 3.0 (38); Titw tomos las – 2.9 (80); Ysguthan – 2.3 (76); Deryn du – 2.1 (85).

Photo: Jan Meeus on Unsplash

  • Local News

You may also be interested in

Janet

First Minister Urged to Keep to his word and Make Business Support “Immediately available”

Wednesday, 12 May, 2021

Janet Finch-Saunders, Member of the Senedd for Aberconwy, has written to Mark Drakeford MS, First Minister, urging him to keep to his word and make business support immediately available.

 

Show only

  • Articles
  • Assembly News
  • Local News
  • Media
  • Opinions
  • Senedd News
  • Speeches
  • Westminster News

Janet Finch-Saunders MS/AS Aberconwy

Footer

  • About RSS
  • Accessibility
  • Cookies
  • Privacy
  • About/Am Janet Finch-Saunders
  • Polisi Diogelu Data a Phreifatrwydd
Promoted by Mostyn Jones on behalf of Janet Finch-Saunders, both of 29 Madoc Street, Llandudno, LL30 2TL

Neither the Welsh Parliament, nor Janet Finch-Saunders are responsible for the content of external links or websites. The costs of this website have been met by the Senedd Commission from public funds | Nid yw Senedd Cymru na Janet Finch Saunders yn gyfrifol am gynnwys lincs na gwefannau allanol. Mae Comisiwn y Senedd wedi talu costau'r wefan hon o arian cyhoeddus.

Copyright 2021 Janet Finch-Saunders MS/AS Aberconwy. All rights reserved.
Powered by Bluetree