Skip to main content
Banner image for Janet Finch-Saunders MS/AS

Janet Finch-Saunders MS/AS

ABERCONWY

Main navigation

  • Home/Hafan
  • Janet
  • News/Newyddion
  • Senedd Cymru
  • Contact/Manylion Cyswllt

Aelod o’r Senedd Aberconwy yn croesawu Gweithredu ar Lwybr Arfordir Cymru ym Mhen Morfa

  • Tweet
Friday, 9 October, 2020
West Shore

Yn dilyn pryderon sylweddol a godwyd gan Janet Finch-Saunders, Aelod o Senedd Cymru Aberconwy, am lwybr yr arfordir ym Mhen Morfa, mae’r Aelod wedi croesawu’r cyhoeddiad bod Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy wedi sicrhau cyllid i symud y llwybr cenedlaethol i’r llwybr ar frig y twyni.

Mae gwaith i symud yr hawl tramwy gyhoeddus ar frig y twyni yn cychwyn yr wythnos hon. Bydd y llwybr ar hyd ymyl y cwrs golff yn cael ei wella a bydd yn cael gwell arwyneb a bydd mwy o arwyddion yn cael eu gosod yno. Bydd cerddwyr yn gallu dilyn llwybr arfordir Cymru ar ben y trwyni a bydd beicwyr yn gallu defnyddio’r llwybr Teithio Llesol newydd rhwng Pen Morfa a Deganwy sy’n mynd ar hyd Heol Maesdu.

Gan gyfeirio at y gwaith, dywedodd Janet:

“Cymru oedd y wlad gyntaf i gael llwybr di-dor ar hyd arfordir cenedlaethol, felly roedd y darn ym Mhen Morfa yn peri pryder yn lleol ac yn genedlaethol.

“Fel y mae Llywodraeth Cymru a Chyngor Bwrdeistref sirol Conwy yn gwybod, rydw i wedi cael nifer o gwynion, yn cynnwys cwynion am bobl mewn cadeiriau olwyn sy’n methu â defnyddio’r llwybr.

“Rydw i wrth fy modd ein bod wedi dod o hyd i ateb i’r broblem hirhoedlog hon, a bydd gennym unwaith eto lwybr arfordirol cyflawn yma yn Llandudno.

“Hoffwn ddiolch i Gyngor Conwy am ymrwymo i ddatrys problem genedlaethol yr oedd Llywodraeth Cymru yn gyndyn iawn o’i datrys yn dilyn cais am gymorth”.

DIWEDD

Ffotograff:

  • Janet Finch-Saunders AS (y llun wedi’i gymryd cyn pandemig Covid-19)
  • Local News

You may also be interested in

Janet

First Minister Urged to Keep to his word and Make Business Support “Immediately available”

Wednesday, 12 May, 2021

Janet Finch-Saunders, Member of the Senedd for Aberconwy, has written to Mark Drakeford MS, First Minister, urging him to keep to his word and make business support immediately available.

 

Show only

  • Articles
  • Assembly News
  • Local News
  • Media
  • Opinions
  • Senedd News
  • Speeches
  • Westminster News

Janet Finch-Saunders MS/AS Aberconwy

Footer

  • About RSS
  • Accessibility
  • Cookies
  • Privacy
  • About/Am Janet Finch-Saunders
  • Polisi Diogelu Data a Phreifatrwydd
Promoted by Mostyn Jones on behalf of Janet Finch-Saunders, both of 29 Madoc Street, Llandudno, LL30 2TL

Neither the Welsh Parliament, nor Janet Finch-Saunders are responsible for the content of external links or websites. The costs of this website have been met by the Senedd Commission from public funds | Nid yw Senedd Cymru na Janet Finch Saunders yn gyfrifol am gynnwys lincs na gwefannau allanol. Mae Comisiwn y Senedd wedi talu costau'r wefan hon o arian cyhoeddus.

Copyright 2021 Janet Finch-Saunders MS/AS Aberconwy. All rights reserved.
Powered by Bluetree