Skip to main content
Banner image for Janet Finch-Saunders MS/AS

Janet Finch-Saunders MS/AS

ABERCONWY

Main navigation

  • Home/Hafan
  • Janet
  • News/Newyddion
  • Senedd Cymru
  • Contact/Manylion Cyswllt

'Ail-agor rhwydwaith trafnidiaeth gyhoeddus yn ddiogel i gefnogi cymudwyr’

  • Tweet
Monday, 27 July, 2020
Sunyu Kim/UnSplash

Heddiw (27 Gorffennaf), mae Janet Finch-Saunders AS - Aelod o’r Senedd Aberconwy - wedi erfyn ar Lywodraeth Cymru i wneud mwy i agor rhwydwaith trafnidiaeth gyhoeddus Cymru i deithwyr nad ydynt yn deithwyr hanfodol a chymudwyr lleol.

Credir y byddai hyn yn helpu i ysgafnhau’r problemau a welwyd yn Eryri dros y penwythnos, pan gafodd oddeutu 60 o gerbydau eu troi ymaith o droed yr Wyddfa cyn 8am ddydd Sadwrn. Mae pryderon wedi’u mynegi gan etholwyr sy’n ei chael hi’n anodd cymudo i’w gwaith.

Cyngor Trafnidiaeth Cymru ar hyn o bryd yw bod pob taith ar drên ar gyfer 'gweithwyr allweddol a theithiau hanfodol’ yn unig. Mae gweithredwyr bysiau hefyd yn nodi problemau wrth iddynt geisio cynyddu eu gwasanaethau, a thynnodd Mrs Finch-Saunders sylw at hyn yn gynharach yn y mis.

Wrth drafod y broblem, dywedodd Janet:

“Gyda llety hunangynhaliol yn cael agor nawr, a rheol pum milltir fympwyol Mark Drakeford wedi’i diddymu o’r diwedd, mae Cymru wedi agor ei drysau i ymwelwyr mewn ymgais a fydd gobeithio’n helpu i osgoi colli’r holl swyddi yr ofnir eu colli yn y Gogledd.

“Mae hyn yn newyddion gwych i Landudno, sydd wedi’i chydnabod yn un o drefi glan môr gorau’r DU, ac sy’n un o drysorau ein cynnig twristiaeth ac sy’n gwneud cyfraniad enfawr ar ddod â £900 miliwn i Sir Conwy bob blwyddyn.

“Felly, rwyf wedi fy nigalonni o glywed yr honiadau bod ymwelwyr yn teithio i’r Gogledd ar drenau yn cael eu lluchio oddi ar drenau yn yr orsaf olaf yn Lloegr ar eu taith gyfreithlon i’w llety gwyliau yng Nghymru. Mae hyn yn golygu bod ymwelwyr yn gorfod defnyddio’u ceir i gyrraedd ein rhanbarth, ac mae hyn wedi gwaethygu problemau sy’n bodoli ers amser maith o ran parcio o gwmpas ein hatyniadau hardd.

“Rwy’n erfyn ar Lywodraeth Cymru i ail-agor yn ddiogel ein rhwydwaith trafnidiaeth gyhoeddus i deithio nad yw’n hanfodol, gan gyhoeddi’r canllawiau priodol i’n gweithredwyr bysiau a threnau, ynghyd â gyrwyr tacsis. Trwy wneud hyn yn ddiogel, byddai hyn yn ysgafnhau’r problemau a welwyd yn Eryri dros y penwythnos ac yn dod â busnes mawr ei angen i’n trefi glan môr.

“Bydd y newid angenrheidiol hwn hefyd yn helpu llawer iawn o breswylwyr lleol i gymudo i’r gwaith, drwy gefnogi cynnydd mewn opsiynau trafnidiaeth ar gyfer y rhai sydd eu hangen. Ni allwn adael i bobl y Gogledd deimlo eu bod yn cael eu hanwybyddu a’u hynysu gyda pharhad y gwasanaeth tila presennol.”

DIWEDD

Picture: Sunyu Kim/UnSplash

  • Local News

You may also be interested in

Janet

First Minister Urged to Keep to his word and Make Business Support “Immediately available”

Wednesday, 12 May, 2021

Janet Finch-Saunders, Member of the Senedd for Aberconwy, has written to Mark Drakeford MS, First Minister, urging him to keep to his word and make business support immediately available.

 

Show only

  • Articles
  • Assembly News
  • Local News
  • Media
  • Opinions
  • Senedd News
  • Speeches
  • Westminster News

Janet Finch-Saunders MS/AS Aberconwy

Footer

  • About RSS
  • Accessibility
  • Cookies
  • Privacy
  • About/Am Janet Finch-Saunders
  • Polisi Diogelu Data a Phreifatrwydd
Promoted by Mostyn Jones on behalf of Janet Finch-Saunders, both of 29 Madoc Street, Llandudno, LL30 2TL

Neither the Welsh Parliament, nor Janet Finch-Saunders are responsible for the content of external links or websites. The costs of this website have been met by the Senedd Commission from public funds | Nid yw Senedd Cymru na Janet Finch Saunders yn gyfrifol am gynnwys lincs na gwefannau allanol. Mae Comisiwn y Senedd wedi talu costau'r wefan hon o arian cyhoeddus.

Copyright 2021 Janet Finch-Saunders MS/AS Aberconwy. All rights reserved.
Powered by Bluetree