Mae Janet Finch-Saunders wedi siarad am ei balchder o gael ei hail-fabwysiadu gan Gymdeithas Ceidwadwyr Aberconwy fel eu hymgeisydd ar gyfer etholiadau’r Senedd ym mis Mai 2011. Mae Mrs Finch-Saunders wedi bod yn Aelod dros Aberconwy ers 2011, ac ar hyn o bryd mae’n gwasanaethu fel Gweinidog Newid Hinsawdd, Ynni a Materion Gwledig yr Wrthblaid.
Mae Janet yn hen law ar wleidyddiaeth leol, ar ôl cynrychioli ward Craig-y-Don yn y gorffennol ar Gyngor Tref Llandudno a Chyngor Bwrdeistref Sirol Conwy. Yn ystod ei hamser ar yr Awdurdod Lleol, bu’n gwasanaethu fel yr Aelod Cabinet gyda chyfrifoldeb cyffredinol am Ddiogelwch Cymunedol, ynghyd â rolau fel Cadeirydd y Prif Bwyllgor Craffu ac Arweinydd Grŵp y Ceidwadwyr Cymreig. Roedd Mrs Finch-Saunders hefyd yn arfer bod yn Faer Llandudno, fel ei rhieni ers talwm.
Gydol ei thymor yn y Senedd, mae Janet wedi bod yn Weinidog Llywodraeth Leol yr Wrthblaid, ac yna’n Weinidog Gofal Cymdeithasol, Plant, Pobl Ifanc a Phobl Hŷn yr Wrthblaid. Ar hyn o bryd, hi yw Cadeirydd Pwyllgor Deisebau’r Senedd a dechreuodd y Grŵp Trawsbleidiol ar Siopau Bach yn ystod y Pedwerydd Cynulliad.
Gan roi sylwadau ar ei hail-fabwysiadu, dywedodd Janet:
“Mae’n andros o fraint cael fy ail-fabwysiadu gan Gymdeithas Ceidwadwyr Aberconwy fel eu hymgeisydd ar gyfer etholiadau’r Senedd ym mis Mai 2021. Roedd hi’n anrhydedd oes cael fy ethol fel Aelod o’r Cynulliad ar ran y Ceidwadwyr yn 2011, ac yna eto yn 2016 pan lwyddais i gynyddu ein cyfran o’r bleidlais. Rwy’n edrych ymlaen at ddal ati gyda’r llwyddiant hwn.
“Fy mlaenoriaethau o hyd yw cefnogi ein busnesau twristiaeth rhagorol a mynd i’r afael â methiannau difrifol ein bwrdd iechyd yma yn Aberconwy, yn enwedig gan ei fod wedi aros dan fesurau arbennig am bum mlynedd. Rydw i hefyd yn edrych ymlaen at barhau gyda’m gwaith ar lifogydd, ynghyd â’m hymgyrchoedd i gefnogi ein ffermwyr a helpu’r economi werdd i dyfu, trwy gefnogi’r gwaith o ehangu ein dewis o dechnolegau adnewyddu beiddgar ac arloesol a fydd yn dod â swyddi coler werdd hynod fedrus adref.
“Dewisir pob aelod etholedig i gynrychioli safbwyntiau eu hetholwyr ac rwy’n cymryd y ddyletswydd honno o ddifrif calon. Rydw i wedi bod mewn sawl cyfarfod lleol dros y blynyddoedd diwethaf, gan gynnwys rhai ar fand eang, llifogydd, gwasanaethau bws a materion priffyrdd. Mae pob cyfarfod wedi arwain at ganlyniadau cadarnhaol i’n hetholwyr ac i’n busnesau ar y materion hyn sy’n peri gofid yn lleol.
“Dydyn ni erioed wedi gweld cymaint o alw am lywodraeth effeithlon a chyfrifol. O ganlyniad uniongyrchol i gamreolaeth gweinyddiaeth bresennol Llafur Cymru, mae ein Bwrdd Iechyd yn parhau dan fesurau arbennig ac mae ein system gofal cymdeithasol yn methu ein plant a’n pobl hŷn fregus.
“Gallwn wneud yn llawer gwell, a dyna pam mae’r Ceidwadwyr Cymreig yn rhoi eu gair y bydd chwyldro datganoledig. Mae’n bryd cael gwell bargen i Aberconwy; un sy’n deall realiti ac anghenion y Gogledd. Dim ond drwy ethol llywodraeth y Ceidwadwyr Cymreig y flwyddyn nesaf y gellir gwneud hyn.”
DIWEDD