Skip to main content
Banner image for Janet Finch-Saunders MS/AS

Janet Finch-Saunders MS/AS

ABERCONWY

Main navigation

  • Home/Hafan
  • Janet
  • News/Newyddion
  • Senedd Cymru
  • Contact/Manylion Cyswllt

Ailagor y sector lletygarwch mewn modd anghyfartal yn bygwth ‘pileri economi’r Gogledd’

  • Tweet
Thursday, 2 July, 2020
Katlyn Gibers/UnSplash

Heddiw (2 Gorffennaf), mae Aelod o’r Senedd Cymru dros Aberconwy – Janet Finch-Saunders AS – wedi annog y Prif Weinidog i egluro’r rhesymau dros ailagor caffis a bwytai mewn modd anghyfartal, gan ddweud mai’r rhain yw ‘pileri economi’r Gogledd.’

Daeth ei hymyriadau wrth i Lywodraeth Cymru gyhoeddi y gall tafarndai a bwytai Cymru agor i fasnachu yn yr awyr agored o 13 Gorffennaf. Mae Mrs Finch-Saunders nawr wedi cyflwyno Cwestiwn Ysgrifenedig i Mark Drakeford, sef:

A wnaiff y Prif Weinidog ddarparu’r dystiolaeth wyddonol a oedd yn dangos ei bod hi’n ddiogel i blant eistedd yn bwyta eu cinio mewn ystafell ddosbarth ond ei bod hi’n anniogel i unigolion eistedd mewn bwyty o 29 Mehefin 2020?

Wrth siarad am y sefyllfa y mae llawer o fasnachwyr lleol yn ei hwynebu, meddai Janet:

“Mae’n siomedig fy mod i’n gorfod parhau i bwyso ar Lywodraeth Cymru i ystyried effaith eu cyfyngiadau ar y sector lletygarwch.

“Er fy mod i’n croesawu cyhoeddiad heddiw i ganiatáu masnachu yn yr awyr agored, mae’n codi cwestiwn pam mae Llywodraeth Cymru’n caniatáu i’n plant gyfarfod a bwyta mewn ysgolion, ond yn atal oedolion rhag eistedd mewn bwyty lle y gellir gweithredu mesurau diogelwch priodol.

“Mae’r ddarpariaeth dwristiaeth ledled Aberconwy’n cynnwys llu o gaffis a bwytai gwych, sy’n defnyddio cynhwysion o Gymru ac maen nhw o fudd mawr i

gynhyrchwyr lleol. Mae’r pileri hyn yn economi’r Gogledd yn awyddus i gyfrannu at y gwaith o helpu adferiad y genedl o bandemig COVID-19.

“Mae’n rhaid i weinyddiaeth Mark Drakeford ddilyn arweiniad Llywodraeth y DU ar frys a gosod amserlen ar gyfer masnachu o dan do. Mae parhau i beidio â gweithredu ar y mater hwn yn costio swyddi a bywoliaeth pobl.”

DIWEDD

Llun: Katlyn Gibers/UnSplash

  • Local News

You may also be interested in

Janet

First Minister Urged to Keep to his word and Make Business Support “Immediately available”

Wednesday, 12 May, 2021

Janet Finch-Saunders, Member of the Senedd for Aberconwy, has written to Mark Drakeford MS, First Minister, urging him to keep to his word and make business support immediately available.

 

Show only

  • Articles
  • Assembly News
  • Local News
  • Media
  • Opinions
  • Senedd News
  • Speeches
  • Westminster News

Janet Finch-Saunders MS/AS Aberconwy

Footer

  • About RSS
  • Accessibility
  • Cookies
  • Privacy
  • About/Am Janet Finch-Saunders
  • Polisi Diogelu Data a Phreifatrwydd
Promoted by Mostyn Jones on behalf of Janet Finch-Saunders, both of 29 Madoc Street, Llandudno, LL30 2TL

Neither the Welsh Parliament, nor Janet Finch-Saunders are responsible for the content of external links or websites. The costs of this website have been met by the Senedd Commission from public funds | Nid yw Senedd Cymru na Janet Finch Saunders yn gyfrifol am gynnwys lincs na gwefannau allanol. Mae Comisiwn y Senedd wedi talu costau'r wefan hon o arian cyhoeddus.

Copyright 2021 Janet Finch-Saunders MS/AS Aberconwy. All rights reserved.
Powered by Bluetree