Skip to main content
Banner image for Janet Finch-Saunders MS/AS

Janet Finch-Saunders MS/AS

ABERCONWY

Main navigation

  • Home/Hafan
  • Janet
  • News/Newyddion
  • Senedd Cymru
  • Contact/Manylion Cyswllt

Ailedrych ar gymorth iechyd meddwl lleol er mwyn mynd i'r afael â 'gwaddol parhaol' y pandemig

  • Tweet
Monday, 1 March, 2021
Llun: Emma SimpsonarUnsplash

Mae Janet Finch-Saunders, yr Aelod o'r Senedd dros Aberconwy, wedi gofyn i Lywodraeth Cymru ystyried gwneud mynediad at gymorth iechyd meddwl yn haws, drwy gefnogi'r syniad o ddarparu gweithiwr hyfforddedig ym mhob practis meddyg teulu.  

Mewn Cwestiwn Ysgrifenedig, gofynnodd Mrs Finch-Saunders:  

Pa ystyriaeth y mae'r Gweinidog wedi'i rhoi i gefnogi'r gwaith o ddarparu gweithiwr iechyd meddwl penodedig ym mhob practis meddyg teulu yng Nghymru?  

Daw'r ymyriad wrth i ni glywed bod mwy na 3.2 miliwn o wrthiselyddion wedi'u rhagnodi gan feddygon teulu yng Nghymru yn ystod y chwe mis wedi i'r pandemig Covid ddechrau - cynnydd o 115,660 o gymharu â'r flwyddyn flaenorol. Yn yr un cyfnod, roedd gostyngiad o draean yn nifer y bobl a atgyfeiriwyd at therapïau siarad <https://statswales.gov.wales/Catalogue/Health-and-Social-Care/Mental-He…; i 25,520. 

Wrth drafod yr angen i ailedrych ar gymorth iechyd meddwl, dywedodd Janet:  

“Fel y mae Mind Cymru wedi rhybuddio'n gwbl briodol, allwn ni ddim troi'n genedl sy'n llawer rhy barod i ddefnyddio cyffuriau gwrth-iselder i leddfu straen yn y tymor byr. 

“Rhaid i gymorth iechyd meddwl fod yn gynaliadwy, gyda therapïau siarad a chwnsela yn galluogi gweithwyr proffesiynol hyfforddedig i ystyried pob mater yn ei gyfanrwydd. 
Ond dyma'r broblem - yng Nghymru, dim ond drwy'r GIG y gellir cael gafael ar wasanaethau fel cwnsela a hynny drwy atgyfeiriad gan feddyg teulu. 

“Dyna pam rydw i wedi gofyn i'r Gweinidog ystyried cynigion gan gyd-gadeirydd Coleg Brenhinol y Meddygon Teulu yng Nghymru, i gefnogi'r gwaith o ddarparu gweithiwr iechyd meddwl penodedig ym mhob practis meddyg teulu ar hyd a lled Cymru.  

“Mae Dr Peter Saul wedi dod i'r casgliad, yn gwbl briodol, bod darpariaeth o'r fath yn sicrhau y bydd cleifion yn cael trafodaeth iechyd meddwl gytbwys a fyddai'n caniatáu adolygiad o'r cymorth y maen nhw am ei gael a pha gymorth sydd ar gael, gan helpu i sicrhau bod y drefn o droi at feddyginiaeth yn unig, sy'n destun cryn bryder, yn dod i ben.  

“Mae'n rhaid canfod cymorth o fath newydd os yw Llywodraeth Cymru am fynd i'r afael â'r hyn a fydd, mae'n debyg, yn waddol parhaol i’r pandemig hwn.” 

Diwedd 

Nodiadau i Olygyddion:  

  • I ddarllen sylwadau Dr Peter Saul, cliciwch yma <https://www.bbc.co.uk/news/uk-wales-56087135&gt;.   
  • Mae ystadegau ar gymorth iechyd meddwl yng Nghymru ar gael yma.  

Llun: Emma SimpsonarUnsplash

  • Local News

You may also be interested in

Janet

First Minister Urged to Keep to his word and Make Business Support “Immediately available”

Wednesday, 12 May, 2021

Janet Finch-Saunders, Member of the Senedd for Aberconwy, has written to Mark Drakeford MS, First Minister, urging him to keep to his word and make business support immediately available.

 

Show only

  • Articles
  • Assembly News
  • Local News
  • Media
  • Opinions
  • Senedd News
  • Speeches
  • Westminster News

Janet Finch-Saunders MS/AS Aberconwy

Footer

  • About RSS
  • Accessibility
  • Cookies
  • Privacy
  • About/Am Janet Finch-Saunders
  • Polisi Diogelu Data a Phreifatrwydd
Promoted by Mostyn Jones on behalf of Janet Finch-Saunders, both of 29 Madoc Street, Llandudno, LL30 2TL

Neither the Welsh Parliament, nor Janet Finch-Saunders are responsible for the content of external links or websites. The costs of this website have been met by the Senedd Commission from public funds | Nid yw Senedd Cymru na Janet Finch Saunders yn gyfrifol am gynnwys lincs na gwefannau allanol. Mae Comisiwn y Senedd wedi talu costau'r wefan hon o arian cyhoeddus.

Copyright 2021 Janet Finch-Saunders MS/AS Aberconwy. All rights reserved.
Powered by Bluetree