Skip to main content
Banner image for Janet Finch-Saunders MS/AS

Janet Finch-Saunders MS/AS

ABERCONWY

Main navigation

  • Home/Hafan
  • Janet
  • News/Newyddion
  • Senedd Cymru
  • Contact/Manylion Cyswllt

Allgau digidol yn gwaethygu bygythiad COVID-19 i gyrhaeddiad digidol

  • Tweet
Wednesday, 8 July, 2020
Janet Finch-Saunders MS

Heddiw (8 Gorffennaf), anogodd Janet Finch-Saunders AS - Gweinidog Plant a Phobl Ifanc yr Wrthblaid y Ceidwadwyr Cymreig - Lywodraeth Cymru i wneud mwy i gefnogi dysgwyr sydd wedi’u hallgau’n ddigidol.

Daeth ei ymyrraeth gan fod nifer o’r plant hyn yn dal i aros am ddarpariaeth technoleg angenrheidiol sy’n ofynnol i’w galluogi i ymgysylltu â’r cwricwlwm ysgol o’u cartrefi.

Yn siarad ar ôl iddi holi Gweinidog Addysg Cymru, dywedodd Janet:

“Mae llawer o rieni wedi cysylltu â mi i ddweud eu bod wedi cael trafferth cael gafael ar gyfleusterau addysgu ar-lein yn ystod y misoedd diwethaf, gan gynnwys gwarcheidwaid un plentyn sy’n dal i aros i dderbyn gliniadur hirddisgwyliedig gan yr awdurdodau perthnasol.

“Er fy mod yn croesawu cyhoeddiad Llywodraeth Cymru y bydd £1 miliwn pellach yn cael ei ddyrannu i gefnogi plant i ail-ymgysylltu ag addysg dros wyliau’r haf, mae cwestiynau pwysig i’w hateb o hyd o ran sut y bydd yr ail-ymgysylltu hwn yn digwydd.

“Gydag adroddiad arolwg diweddar yn datgelu mai dim ond 1.9% o fyfyrwyr a dderbyniodd bedair gwers y dydd ers dechrau’r cyfyngiadau symud, mae pryderon mawr y bydd cenhedlaeth gyfan o’n pobl ifanc mewn perygl o fethu targedau addysgol.

“Gan fod pandemig COVID-19 yn fygythiad cynyddol i gyrhaeddiad addysgol ein plant, dylai Llywodraeth Cymru osgoi gwaethygu hyn drwy allgau’n ddigidol y plant hynny  ymhellach am nad ydyn nhw’n gallu cael mynediad at y rhyngrwyd.”

DIWEDD

  • Local News

You may also be interested in

Janet

First Minister Urged to Keep to his word and Make Business Support “Immediately available”

Wednesday, 12 May, 2021

Janet Finch-Saunders, Member of the Senedd for Aberconwy, has written to Mark Drakeford MS, First Minister, urging him to keep to his word and make business support immediately available.

 

Show only

  • Articles
  • Assembly News
  • Local News
  • Media
  • Opinions
  • Senedd News
  • Speeches
  • Westminster News

Janet Finch-Saunders MS/AS Aberconwy

Footer

  • About RSS
  • Accessibility
  • Cookies
  • Privacy
  • About/Am Janet Finch-Saunders
  • Polisi Diogelu Data a Phreifatrwydd
Promoted by Mostyn Jones on behalf of Janet Finch-Saunders, both of 29 Madoc Street, Llandudno, LL30 2TL

Neither the Welsh Parliament, nor Janet Finch-Saunders are responsible for the content of external links or websites. The costs of this website have been met by the Senedd Commission from public funds | Nid yw Senedd Cymru na Janet Finch Saunders yn gyfrifol am gynnwys lincs na gwefannau allanol. Mae Comisiwn y Senedd wedi talu costau'r wefan hon o arian cyhoeddus.

Copyright 2021 Janet Finch-Saunders MS/AS Aberconwy. All rights reserved.
Powered by Bluetree