Mewn cwestiwn i’r Prif Weinidog heddiw oedd â’r nod o ddiogelu cleifion ac ysgafnhau’r pwysau ar staff Gofal Sylfaenol rheng flaen, mae Janet Finch-Saunders AS - Aelod o’r Senedd dros Aberconwy - wedi galw ar Lywodraeth Cymru i gynnal adolygiad o nifer y cleifion y gall unrhyw bractis unigol eu cael ar eu llyfrau, ynghyd ag oriau gwaith practisau.
Yn ôl y Cyngor Iechyd Cymunedol, mae pobl mewn rhannau o Gymru yn wynebu “argyfwng mynediad” at feddygon teulu. Mae Bwrdd Iechyd Betsi yn amcangyfrif bod y galw am apwyntiadau wedi cynyddu o hyd at 20% yn y practisau lleol y mae’n eu rheoli. Yr wythnos diwethaf, wrth gydnabod y pwysau sy’n cael ei deimlo, galwodd Mrs Finch-Saunders yn yr un modd ar i'r Prif Weinidog adolygu’r gefnogaeth sydd ar gael i feddygon teulu i alluogi rhyngwynebu haws a gwell gyda chleifion.
Yn rhoi sylwadau ar ei chwestiwn, dywedodd Janet:
“Mae’r galw am ein gwasanaethau Gofal Sylfaenol yn cynyddu gan fod cleifion yn amlwg wedi rhoi problemau i’r neilltu yn y deunaw mis heriol diwethaf.
“Fodd bynnag, un pryder a allai fod yn cyfrannu at y broblem yw’r ffaith bod Llywodraeth Cymru yn gadael i nifer di-ddiwedd o gleifion gofrestru gyda phob meddyg, ac nid yw’n rhoi digon o sylw i nifer y cleifion dros 65 oed. Mae hyn yn gwyro pwysau ar y galw pan fo meddygfa wedi cofrestru nifer uwch o breswylwyr.
“Yn ôl y Dadansoddiad o Bractisiau Meddyg Teulu ym mis Gorffennaf 2021, a luniwyd gan y Bartneriaeth Cydwasanaethau, mae gan un feddygfa yn fy etholaeth i dros 6000 o gleifion wedi’u cofrestru ar gyfer dau feddyg yn unig. Mae angen llawn werthfawrogi’r effaith negyddol y gall y pwysau hyn ei chael ar staff Gwasanaethau Sylfaenol a chleifion sy’n agored i niwed.
“Dyma pam fy mod yn annog y Prif Weinidog i gydweithio gyda Gweinidog Iechyd Cymru i adolygu nifer y cleifion y gall unrhyw bractis unigol eu cofrestru ar eu llyfrau, ac ailystyried oriau gwaith ein practisau er mwyn gallu eu targedu i fodloni gofynion bywyd modern.”
DIWEDD
Ffoto: Janet Finch-Saunders AS