Skip to main content
Banner image for Janet Finch-Saunders MS/AS

Janet Finch-Saunders MS/AS

ABERCONWY

Main navigation

  • Home/Hafan
  • Janet
  • News/Newyddion
  • Senedd Cymru
  • Contact/Manylion Cyswllt

Angen cymorth brys wedi’i dargedu ar fusnesau lletygarwch a thwristiaeth

  • Tweet
Wednesday, 11 November, 2020
COVID-19

Heddiw (11 Tachwedd), defnyddiodd Janet Finch-Saunders AS - Aelod o’r Senedd Aberconwy - gwestiwn i Weinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru er mwyn annog Llywodraeth Cymru i fynd ati i ddarparu cymorth wedi’i dargedu ar gyfer diwydiannau twristiaeth a lletygarwch y Gogledd. Mae llawer o fusnesau lleol yn wynebu cwymp yn eu graddfa feddiannaeth yn dilyn y cyfyngiadau symud yn Lloegr.

Gan roi ei sylwadau, dywedodd Janet:

“Fel y mae fy sgyrsiau â pherchnogion busnes lleol wedi’i ddangos yn glir, mae busnesau llety ledled Aberconwy yn troedio’n agos i’r dibyn. Mewn ambell achos, mae’r raddfa feddiannaeth wedi disgyn i sero gan fod 80% o’u cwsmeriaid yn teithio o Loegr.

“O gofio bod Conwy eisoes wedi bod dan gyfyngiadau lleol cyn y cyhoeddiad am y cyfnod atal byr, y realiti yw na fydd rhai busnesau yn Aberconwy wedi gallu masnachu ers 8 wythnos erbyn diwedd cyfyngiadau Lloegr.

“Gyda’r argyfwng economaidd rhanbarthol hwn mewn golwg, rwyf wedi galw ar Weinidog yr Economi i fynd ati ar unwaith i ddarparu grantiau ariannol i gefnogi busnesau twristiaeth sydd wedi gweld gostyngiad yn eu cwsmeriaid y mis hwn. Rwyf wedi bod ysgrifennu ac yn gofyn am  sefydlu cymorth wedi’i dargedu o’r fath ers y cyfnod clo cyntaf, yn gynharach eleni. 

“Rwy’n gobeithio ei fod yn rhannu fy mhryderon ynghylch canfyddiadau arolwg Twristiaeth Gogledd Cymru yn ddiweddar nad oedd 75% o ymatebwyr wedi llwyddo i gyflwyno cais i gynllun Cam 3 Cronfa Cadernid Economaidd Llywodraeth Cymru, cyn iddi gau yn gynt na’r bwriad. Dyw hyn ddim yn ddigon da.

“Rwyf wedi gofyn am esboniad ynghylch faint o gyllid sydd ar ôl o’r gyllideb wedi’i chlustnodi o £20 miliwn a gafodd ei haddo i gefnogi busnesau twristiaeth a lletygarwch, fel rhan o’r trydydd cam. Mae busnesau’r Gogledd angen atebion ar unwaith, ynghyd ag eglurder ar sut y byddan nhw’n cael eu cefnogi i bontio’r cyfnod hwn.” 

DIWEDD

  • Local News

You may also be interested in

Janet

First Minister Urged to Keep to his word and Make Business Support “Immediately available”

Wednesday, 12 May, 2021

Janet Finch-Saunders, Member of the Senedd for Aberconwy, has written to Mark Drakeford MS, First Minister, urging him to keep to his word and make business support immediately available.

 

Show only

  • Articles
  • Assembly News
  • Local News
  • Media
  • Opinions
  • Senedd News
  • Speeches
  • Westminster News

Janet Finch-Saunders MS/AS Aberconwy

Footer

  • About RSS
  • Accessibility
  • Cookies
  • Privacy
  • About/Am Janet Finch-Saunders
  • Polisi Diogelu Data a Phreifatrwydd
Promoted by Mostyn Jones on behalf of Janet Finch-Saunders, both of 29 Madoc Street, Llandudno, LL30 2TL

Neither the Welsh Parliament, nor Janet Finch-Saunders are responsible for the content of external links or websites. The costs of this website have been met by the Senedd Commission from public funds | Nid yw Senedd Cymru na Janet Finch Saunders yn gyfrifol am gynnwys lincs na gwefannau allanol. Mae Comisiwn y Senedd wedi talu costau'r wefan hon o arian cyhoeddus.

Copyright 2021 Janet Finch-Saunders MS/AS Aberconwy. All rights reserved.
Powered by Bluetree