Skip to main content
Banner image for Janet Finch-Saunders MS/AS

Janet Finch-Saunders MS/AS

ABERCONWY

Main navigation

  • Home/Hafan
  • Janet
  • News/Newyddion
  • Senedd Cymru
  • Contact/Manylion Cyswllt

Angen Gweithredu ar Frys i Helpu Pobl Ifanc mewn Gofal

  • Tweet
Thursday, 6 February, 2020
paper

Mae Janet Finch-Saunders, Gweinidog Plant, Pobl Ifanc a Gofal Cymdeithasol yr Wrthblaid, wedi galw am weithredu ar frys i helpu pobl ifanc sydd mewn gofal.

 

Mae hyn yn sgil rhyddhau astudiaeth gan Brifysgol Caerdydd sy’n tynnu sylw at faint y broblem camddefnyddio sylweddau ymhlith pobl ifanc mewn gofal preswyl.

 

Mae’r ffigurau’n seiliedig ar arolwg o ddisgyblion ysgol 11-16 oed. Mae’r canlyniadau’n dangos y canlynol am bobl ifanc mewn gofal preswyl:

•          roedd ganddynt y sgôr lles meddyliol isaf

•          roedd dros hanner (56%) wedi dioddef achos o fwlio yn ddiweddar

•          roedd bron i dri chwarter (74%) wedi bod yn ymladd yn ystod y flwyddyn ddiwethaf

•          roedd dros draean (36%) wedi meddwi yn ystod y 30 diwrnod diwethaf (o gymharu â dim ond 9% o bobl ifanc nad ydynt mewn gofal)

•          roedd bron i draean (31%) y bobl ifanc mewn gofal preswyl wedi defnyddio canabis yn ystod y mis diwethaf (o gymharu â 4% nad ydynt mewn gofal)

•          dywedodd chwarter (26%) y bobl ifanc mewn lleoliadau preswyl eu bod yn smygu bob wythnos o gymharu â 3% sy’n byw gartref.

 

Meddai Gweinidog yr Wrthblaid wrth ymateb i’r canlyniadau:

 

“Un o nodau Cynllun Cyflawni Llywodraeth Cymru ar gyfer Camddefnyddio Sylweddau yw gwella canlyniadau i blant sydd naill ai mewn gofal neu ar ffiniau gofal.

 

“Mae’r cynllun yn llygad ei le yn nodi bod gwaith partneriaeth da yn hollbwysig er mwyn darparu’r cymorth gorau posib i unigolion a chymunedau.

 

“Mae gan Gymru ffordd bell i fynd.

 

“Mae bron i draean y bobl ifanc sydd mewn gofal preswyl wedi defnyddio canabis yn y mis diwethaf, o gymharu â 4% o’r rhai nad ydynt mewn gofal.

 

“Mae’n dorcalonnus bod pobl ifanc sydd mewn gofal preswyl dan gymaint o anfantais.

 

“Fel y dengys yr Athro Simon Murphy, mae pobl ifanc sydd wedi’u categoreiddio fel rhai sy’n derbyn gofal o unrhyw fath, yn profi canlyniadau gwael yn eu bywydau dro ar ôl tro.

 

“Mae angen i Lywodraeth Cymru weithredu ar fyrder er mwyn helpu i ddeall pam mae pobl ifanc mewn gofal yn fwy tebygol o droi at alcohol a chyffuriau, a gweithio gyda phob unigolyn er mwyn helpu i leihau camddefnydd o sylweddau”.

 

 

Nodiadau:

 

Scale of substance misuse among adolescents in care revealed

 

Cynllun Cyflawni ar gyfer Camddefnyddio Sylweddau 2019-2022

 

  • Senedd News

You may also be interested in

Janet

First Minister Urged to Keep to his word and Make Business Support “Immediately available”

Wednesday, 12 May, 2021

Janet Finch-Saunders, Member of the Senedd for Aberconwy, has written to Mark Drakeford MS, First Minister, urging him to keep to his word and make business support immediately available.

 

Show only

  • Articles
  • Assembly News
  • Local News
  • Media
  • Opinions
  • Senedd News
  • Speeches
  • Westminster News

Janet Finch-Saunders MS/AS Aberconwy

Footer

  • About RSS
  • Accessibility
  • Cookies
  • Privacy
  • About/Am Janet Finch-Saunders
  • Polisi Diogelu Data a Phreifatrwydd
Promoted by Mostyn Jones on behalf of Janet Finch-Saunders, both of 29 Madoc Street, Llandudno, LL30 2TL

Neither the Welsh Parliament, nor Janet Finch-Saunders are responsible for the content of external links or websites. The costs of this website have been met by the Senedd Commission from public funds | Nid yw Senedd Cymru na Janet Finch Saunders yn gyfrifol am gynnwys lincs na gwefannau allanol. Mae Comisiwn y Senedd wedi talu costau'r wefan hon o arian cyhoeddus.

Copyright 2021 Janet Finch-Saunders MS/AS Aberconwy. All rights reserved.
Powered by Bluetree