Skip to main content
Banner image for Janet Finch-Saunders MS/AS

Janet Finch-Saunders MS/AS

ABERCONWY

Main navigation

  • Home/Hafan
  • Janet
  • News/Newyddion
  • Senedd Cymru
  • Contact/Manylion Cyswllt

Angen gweithredu drwy Gymru gyfan i roi diwedd ar droseddau yng nghefn gwlad

  • Tweet
Tuesday, 4 August, 2020
Spencer Pugh/UnSplash

Heddiw (4 Awst), mae Janet Finch-Saunders AS - Gweinidog Newid Hinsawdd, Ynni a Materion Gwledig yr Wrthblaid y Ceidwadwyr Cymreig - wedi galw am gynllun gweithredu Cymru gyfan i fynd i’r afael â throseddau yng nghefn gwlad.

Daw ei galwadau ar ôl i adroddiad blynyddol NFU Mutual am droseddau yng nghefn gwlad ddatgelu bod y troseddau hyn wedi costio £2.6 miliwn i fusnesau Cymru yn ystod y flwyddyn ddiwethaf. Yn gyffredinol, mae cost troseddau yng nghefn gwlad wedi cynyddu o 11.1% yn 2019 o’i gymharu â 2018. Mae’r cynnydd hwn yn uwch na’r cynnydd o 8% yn y DU ar gyfartaledd.

Wrth roi sylwadau ar y cynnydd mewn achosion, dywedodd Janet:

“Mae cost gynyddol troseddau yng nghefn gwlad yn achos pryder mawr i mi, gyda’r ffigurau diweddaraf hyn yn dangos ei bod yn broblem fawr o hyd i’n busnesau gwledig hollbwysig.

“Yn rhy aml o lawer, rwy’n clywed gan ffermwyr a gweithwyr amaethyddol sydd wedi dioddef lladron a rhwydweithiau troseddau cyfundrefol. Wrth ystyried bod yr eitemau hyn yn cael eu dwyn o dir sy’n gartref ac yn weithle i ffermwyr, mae’r troseddau hyn yn cael effaith feddyliol hirdymor yn aml.

"Gan fod 84% o ffermwyr dan 40 oed bellach yn credu mai iechyd meddwl yw’r perygl unigol mwyaf sy’n wynebu’r diwydiant, mae troseddau cefn gwlad wedi dod yn bryder ychwanegol diangen ar gyfer ein harwyr amaethyddol.

"Mae’n rhaid i ni fynd ati i roi cynllun gweithredu ar waith ledled Cymru sy’n mynd i’r afael â throseddau yng nghefn gwlad a fyddai’n galluogi ein cymunedau gwledig a’r awdurdodau i rannu deallusrwydd ac arferion gorau. Gydag ardaloedd daearyddol mor fawr, dylai’r cynllun hefyd hyrwyddo buddsoddiad mewn technolegau gwledig sy’n cyd-fynd yn well â’r adnoddau sydd ar gael ar hyn o bryd.”

DIWEDD

Ffotograff: Spencer Pugh/UnSplash

  • Senedd News

You may also be interested in

Janet

First Minister Urged to Keep to his word and Make Business Support “Immediately available”

Wednesday, 12 May, 2021

Janet Finch-Saunders, Member of the Senedd for Aberconwy, has written to Mark Drakeford MS, First Minister, urging him to keep to his word and make business support immediately available.

 

Show only

  • Articles
  • Assembly News
  • Local News
  • Media
  • Opinions
  • Senedd News
  • Speeches
  • Westminster News

Janet Finch-Saunders MS/AS Aberconwy

Footer

  • About RSS
  • Accessibility
  • Cookies
  • Privacy
  • About/Am Janet Finch-Saunders
  • Polisi Diogelu Data a Phreifatrwydd
Promoted by Mostyn Jones on behalf of Janet Finch-Saunders, both of 29 Madoc Street, Llandudno, LL30 2TL

Neither the Welsh Parliament, nor Janet Finch-Saunders are responsible for the content of external links or websites. The costs of this website have been met by the Senedd Commission from public funds | Nid yw Senedd Cymru na Janet Finch Saunders yn gyfrifol am gynnwys lincs na gwefannau allanol. Mae Comisiwn y Senedd wedi talu costau'r wefan hon o arian cyhoeddus.

Copyright 2021 Janet Finch-Saunders MS/AS Aberconwy. All rights reserved.
Powered by Bluetree