Heddiw (22 Hydref), mae Janet Finch-Saunders AS - Gweinidog Newid Hinsawdd, Ynni a Materion Gwledig yr Wrthblaid y Ceidwadwyr Cymreig – wedi erfyn ar Weinidog yr Amgylchedd i ateb cwestiynau pwysig ar fuddsoddiad i reoli llifogydd, wrth gyhoeddi adolygiad i'r ffordd y mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi delio â llifogydd 2020.
Mae’r adolygiad i’r llifogydd gwaethaf i Gymru eu gweld am fwy na 40 mlynedd wedi datgelu bod pwysau cynyddol ar staff sy’n gweithredu ei wasanaeth rhybudd llifogydd wedi effeithio ar ei allu i roi rhybuddion i breswylwyr. Creodd Stormydd Ciara, Dennis a Jorge lanast mewn rhannau o’r wlad ym mis Chwefror, gan arwain at fwy na 3,100 yn dioddef effaith llifogydd - 2,527 o’r rhain ar aelwydydd - yn ystod y mis.
Gan roi sylwadau ar ganfyddiadau’r arolwg, dywedodd Janet:
“Mewn cwestiynau i’r Gweinidog cyfrifol, rydw i wedi mynegi pryderon parhaus am allu’r asiantaeth i ymateb yn gyflym i ddigwyddiadau ar y tir. Dyw hi ddim yn syndod o gwbl felly bod yr adolygiad hwn wedi datgelu na allai adnoddau CNC ymdopi’n llawn â maint y dasg wrth law i’r pwynt na roddwyd 12 rhybudd llifogydd hanfodol ar waith pan ddylen nhw fod wedi’u rhoi.
“Mae’r ffaith i chwe rhybudd llifogydd gael eu rhoi yn hwyr hefyd wedi gwaethygu’r sefyllfa ac wedi methu â rhoi digon o amser i breswylwyr baratoi. Mae’n rhaid i Lywodraeth Cymru ateb cwestiynau brys am fuddsoddiad a staffio, yn enwedig gan fod yr argyfwng newid hinsawdd presennol yn golygu y rhagwelir bod y digwyddiadau hyn yn mynd i ddigwydd yn amlach nag erioed os nad ydyn nhw’n mynd i’r afael â nhw.
“Rwy’n bryderus iawn bod yr adolygiad hwn yn awgrymu y dylai unrhyw gamau nesaf ddibynnu’n fawr ar Strategaeth Llifogydd ac Erydu Arfordirol Cenedlaethol newydd Llywodraeth Cymru. Mae’n amlwg fod y ddogfen hon yn methu â mynd i’r afael â phryderon am ddarpariaeth adroddiadau swyddogol ac nad ydy’n darparu unrhyw symud ar alwadau am adolygiadau annibynnol.
“Wrth geisio egluro’r sefyllfa ynghylch rolau a chyfrifoldebau cyrff sy’n gyfrifol am ymateb i lifogydd ac erydu arfordirol, mae Llywodraeth Lafur Cymru wedi ceisio rhoi’r ddyletswydd yn annheg ar ymateb awdurdodau lleol, gan alluogi Cyfoeth Naturiol Cymru i gymryd agwedd hyd braich bellach.”
“I breswylwyr mewn ardaloedd sydd wedi dioddef llifogydd, gan gynnwys Dyffryn Conwy yn fy etholaeth fy hun yn Aberconwy, ni fydd y newyddion hwn am straen ar adnoddau yn fawr o gysur. Cyn misoedd anodd y gaeaf, mae’n rhaid rhoi sicrwydd y bydd y system rhybuddio am lifogydd yn gweithio yn unol â’i fwriad.”
DIWEDD