Skip to main content
Banner image for Janet Finch-Saunders MS/AS

Janet Finch-Saunders MS/AS

ABERCONWY

Main navigation

  • Home/Hafan
  • Janet
  • News/Newyddion
  • Senedd Cymru
  • Contact/Manylion Cyswllt

Annog Llywodraeth Cymru i ‘edrych yn ffafriol’ ar brosiect rheoli llifogydd Conwy Uchaf

  • Tweet
Thursday, 18 February, 2021
Janet Finch-Saunders MS

Mae Janet Finch-Saunders AS - Aelod o’r Senedd dros Aberconwy a Gweinidog yr Amgylchedd yr Wrthblaid - wedi ysgrifennu at Lywodraeth Cymru yn erfyn ar swyddogion i “edrych yn ffafriol ar gais prosiect Conwy Uchaf am £800,000.”

Gan roi sylwadau ar y broblem llifogydd ledled Dyffryn Conwy, dywedodd Janet:

“Yn anffodus, nid oes ateb syml i’r argyfwng llifogydd yn Nyffryn Conwy. Dyma pam rydw i wedi bod yn gweithio gyda rhanddeiliaid i gychwyn cyfuniad o fesurau, sy'n cwmpasu atebion rheoli naturiol a wnaed gan ddyn.

“Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, rydw i wedi bod yn gweithio gyda RWE Innogy i weld a ellir rhoi mesurau ar waith i leihau’r llifogydd o Lyn Eigiau, a thrwy hynny ddal mwy o ddŵr yn y mynyddoedd yn ystod stormydd. Mae modelu diweddar wedi tynnu sylw at ddatrysiad effeithlon sy’n cael ei bwyso a’i fesur ymhellach, rwy’n falch o ddweud.

“Yn yr un modd, rwy’n cyfathrebu’n barhaus ag RWE a Dŵr Cymru am Gronfa Ddŵr Ffynnon Llugwy. O’r hyn rwy’n ei ddeall, yn ystod cyfnodau gwlyb mae llawer iawn mwy o ddŵr glaw na’r galw ac mae’r gronfa ddŵr yn gorlifo, felly rwy’n ymgyrchu dros roi mesurau effeithlon ar waith i fynd i’r afael â hyn.”

Yn y gorffennol, mae Llywodraeth Cymru wedi mynegi eu cymeradwyaeth i brosiect Conwy Uchaf. Mae’r prosiect hwn yn ceisio cynorthwyo i gadw’r llifogydd yn yr ucheldir drwy arafu llif dŵr drwy adfer y gweunydd. Mae’r gwaith hwn yn cynnwys rhwystro ffosydd ac adfer afonydd. Mae’r prosiect cydweithredol yn cael ei arwain gan Cyfoeth Naturiol Cymru a’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol, gyda swyddog asiantaeth yn cael ei secondio i’r Ymddiriedolaeth i yrru’r gwaith yn ei flaen.

Yn rhoi sylwadau ar botensial y prosiect, dywedodd Janet:

“Rydw i wedi gweld gyda fy llygaid fy hun sut mae Afon Machno a’r Migneint wedi’u trawsnewid, gyda sawl cam wedi’u cymryd i rwystro ffosydd draenio mewn gorgorsydd. Yn wir, mae dros 30,000 o argaeau bach wedi’u hadeiladu i wneud y gorgorsydd yn wlypach. Byddai’r prosiect hwn yn ceisio adeiladu ar y gwaith rhagorol sydd eisoes wedi’i wneud.

“Yn wir, da fyddai gweld Llywodraeth Cymru yn ymateb yn gadarnhaol i’r cynigion i ehangu’r prosiect. Am y rheswm hwn, rydw i wedi ysgrifennu at Weinidog yr Amgylchedd i ofyn iddi edrych yn ffafriol ar gais prosiect Conwy Uchaf am £800,000.”

DIWEDD

Nodiadau i Olygyddion:  

  • Amgaeaf gopi o lythyr Janet at y Gweinidog.

Ffoto: Janet Finch-Saunders AS 

  • Local News

You may also be interested in

Janet

First Minister Urged to Keep to his word and Make Business Support “Immediately available”

Wednesday, 12 May, 2021

Janet Finch-Saunders, Member of the Senedd for Aberconwy, has written to Mark Drakeford MS, First Minister, urging him to keep to his word and make business support immediately available.

 

Show only

  • Articles
  • Assembly News
  • Local News
  • Media
  • Opinions
  • Senedd News
  • Speeches
  • Westminster News

Janet Finch-Saunders MS/AS Aberconwy

Footer

  • About RSS
  • Accessibility
  • Cookies
  • Privacy
  • About/Am Janet Finch-Saunders
  • Polisi Diogelu Data a Phreifatrwydd
Promoted by Mostyn Jones on behalf of Janet Finch-Saunders, both of 29 Madoc Street, Llandudno, LL30 2TL

Neither the Welsh Parliament, nor Janet Finch-Saunders are responsible for the content of external links or websites. The costs of this website have been met by the Senedd Commission from public funds | Nid yw Senedd Cymru na Janet Finch Saunders yn gyfrifol am gynnwys lincs na gwefannau allanol. Mae Comisiwn y Senedd wedi talu costau'r wefan hon o arian cyhoeddus.

Copyright 2021 Janet Finch-Saunders MS/AS Aberconwy. All rights reserved.
Powered by Bluetree