Skip to main content
Banner image for Janet Finch-Saunders MS/AS

Janet Finch-Saunders MS/AS

ABERCONWY

Main navigation

  • Home/Hafan
  • Janet
  • News/Newyddion
  • Senedd Cymru
  • Contact/Manylion Cyswllt

Annog yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol i adolygu arferion prynu gwlân

  • Tweet
Monday, 12 October, 2020
Vince Veras/UnSplash

Heddiw (12 Hydref), mae Janet Finch-Saunders AS - Gweinidog Newid Hinsawdd, Ynni a Materion Gwledig yr Wrthblaid y Ceidwadwyr Cymreig - wedi ysgrifennu at Gyfarwyddwr Cyffredinol yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol i annog y sefydliad elusennol i adolygu ei arferion prynu gwlân, wrth i’r Wythnos Gwlân 2020 estynedig barhau.

Yr wythnos diwethaf, nododd Gweinidog yr Wrthblaid y digwyddiad dathlu cenedlaethol drwy ysgrifennu at wneuthurwyr a manwerthwyr carpedi a gwlâu y genedl i hyrwyddo rhinweddau’r ffibr naturiol Cymreig. Mae Mrs Finch-Saunders am gael cadarnhad nawr gan y sefydliad Prydeinig y byddai’r Ymddiriedolaeth yn ystyried defnyddio gwlân Cymreig i inswleiddio, a’i ddefnyddio hefyd wrth uwchraddio celfi a’i werthu yn eu siopau. Mae’r llythyr yn dilyn cyfarfod cynhyrchiol gyda Gwlân Prydain (Bwrdd Marchnata Gwlân Prydain gynt), lle siaradodd yr Aelod o’r Senedd am ei Menter Addewid Gwlân Cymru.

Yn rhoi sylwadau ar ei llythyr i’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol, dywedodd Janet:

“Mae hon wedi bod yn flwyddyn anodd dros ben i ffermwyr defaid Cymru, gyda llawer yn gorfod gwneud y penderfyniad anodd i losgi neu aredig y gwlân o ganlyniad uniongyrchol i’r cwymp yn ei bris. Dyna pam mae Wythnos Wlân yr Ymgyrch dros Wlân, sy’n dathlu’r deg, wedi bod mor bwysig.

“Yn fy nhrafodaethau gyda swyddogion diwydiant, mae wedi dod yn glir bod yn rhaid i’r sefydliadau cenedlaethol allweddol gyfrannu’n ehangach at gefnogi ffermwyr defaid ein gwlad. Mae’n rhaid i elusennau fel yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol ystyried gwlân Cymru ar gyfer ei phrosiectau inswleiddio, ar gyfer  unrhyw garpedi newydd yn y dyfodol, ac ar ddeunydd i’w gwerthu yn eitemau ei siopau.

“Dyna pam fy mod i wedi erfyn ar Gyfarwyddwr Cyffredinol yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol i ymgysylltu â swyddogion yn British Wool i gynnal adolygiad o'u harferion prynu gwlân. Er bod angen canmol cefnogaeth yr elusen i wlân Cymru wrth werthu blancedi, dylai’r sefydliad fynd ati i fod yn esiampl falch i gwmnïau eraill.

“Yn ogystal â llawer o dyddynwyr ledled Cymru sy’n fodlon cyflenwi gwlân ac edafedd, mae llawer o gwmnïau troelli a gwehyddu yng Nghymru hefyd sy’n fodlon gweithio gyda meintiau o tua 25kg ac uwch i gynhyrchu brethyn. Y cwbl rwy’n ei ofyn yw bod yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn gweithio gyda’r busnesau hyn i hyrwyddo rhinweddau gwlân Cymru.”

DIWEDD

Ffoto: Vince Veras/UnSplash

  • Senedd News

You may also be interested in

Janet

First Minister Urged to Keep to his word and Make Business Support “Immediately available”

Wednesday, 12 May, 2021

Janet Finch-Saunders, Member of the Senedd for Aberconwy, has written to Mark Drakeford MS, First Minister, urging him to keep to his word and make business support immediately available.

 

Show only

  • Articles
  • Assembly News
  • Local News
  • Media
  • Opinions
  • Senedd News
  • Speeches
  • Westminster News

Janet Finch-Saunders MS/AS Aberconwy

Footer

  • About RSS
  • Accessibility
  • Cookies
  • Privacy
  • About/Am Janet Finch-Saunders
  • Polisi Diogelu Data a Phreifatrwydd
Promoted by Mostyn Jones on behalf of Janet Finch-Saunders, both of 29 Madoc Street, Llandudno, LL30 2TL

Neither the Welsh Parliament, nor Janet Finch-Saunders are responsible for the content of external links or websites. The costs of this website have been met by the Senedd Commission from public funds | Nid yw Senedd Cymru na Janet Finch Saunders yn gyfrifol am gynnwys lincs na gwefannau allanol. Mae Comisiwn y Senedd wedi talu costau'r wefan hon o arian cyhoeddus.

Copyright 2021 Janet Finch-Saunders MS/AS Aberconwy. All rights reserved.
Powered by Bluetree