Skip to main content
Banner image for Janet Finch-Saunders MS/AS

Janet Finch-Saunders MS/AS

ABERCONWY

Main navigation

  • Home/Hafan
  • Janet
  • News/Newyddion
  • Senedd Cymru
  • Contact/Manylion Cyswllt

Anogwyd Senedd Cymru i Aradr Ymlaen gyda Hyrwyddo Bwyd Cymru

  • Tweet
Wednesday, 2 December, 2020
Lucy May on Unsplash

Heddiw (2 Rhagfyr), mae Janet Finch-Saunders AS – Gweinidog Newid Hinsawdd, Ynni a Materion Gwledig yr Wrthblaid y Ceidwadwyr Cymreig – wedi erfyn ar Lywodraeth Cymru i ddal ati gyda’i chynigion i hyrwyddo bwyd Cymru. Daeth ei sylwadau fel rhan o ddadl yn y Senedd.

Defnyddiodd Gweinidog yr Wrthblaid y ddadl fel cyfle i dynnu sylw at y ffaith y dylai Llywodraeth Cymru wneud y canlynol:

  • Creu mwy o safleoedd ar gyfer marchnadoedd bwyd;
  • Datblygu rhwydwaith o hybiau bwyd;
  • Cefnogi gerddi perlysiau a llysiau cymunedol;
  • Gwneud perllannau mewn mannau gwyrdd cyhoeddus segur;
  • Cefnogi datblygiad prosesyddion bwyd yng Nghymru;
  • Cyflwyno Siarter Bwyd a Diod lleol i annog siopau, caffis a bwytai i werthu bwyd a diod o Gymru sy’n lleol a helpu i hyrwyddo’r cynllun i ddefnyddwyr;
  • Datblygu llwybrau a phrofiadau bwyd a diod ym mhob etholaeth ledled Cymru;
  • Annog y cyhoedd i brynu eitemau sydd wedi’u tyfu a’u gwneud yng Nghymru;
  • Gweithio gyda Llywodraeth Ei Mawrhydi i hyrwyddo bwyd a diod o Gymru dramor;
  • Cyflwyno targed statudol ar gyfer gwella oes silff cig oen Cymru fel ei fod yn gallu cystadlu’n well â chig oen o Seland Newydd.

Mae syniadau’r Gweinidog yn rhoi blaenoriaeth i fwyd, ffermwyr a chynnyrch lleol Cymru.

Wrth roi sylwadau ar gyfraniad bywiog a phwysig, dywedodd Janet:

“Mae’r pandemig wedi tynnu sylw at fregusrwydd ein system fwyd bresennol, ac wedi dangos bod ffermwyr Cymru yn agored i beryglon anghymesur. Er enghraifft, cafwyd chwalfa dorcalonnus yn y sector cynnyrch llaeth, gyda’r FUW yn awgrymu bod bron i 50% o fusnesau cynnyrch llaeth yng Nghymru wedi’u heffeithio’n arw yn sgil y pandemig.

“Dyna pam fy mod wedi erfyn ar Lywodraeth Cymru i ddal ati gyda chynigion i hyrwyddo bwyd Cymru, fel meithrin mwy o safleoedd ar gyfer marchnadoedd bwyd a datblygu rhwydwaith o hybiau bwyd. Bydd y rhain yn helpu i sefydlu Cymru fel cyrchfan fwyd ar gyfer twristiaid a phobl sy’n mynd allan am y diwrnod unwaith y bydd pobl yn cael gwneud hynny.

“Rwyf wedi ymgyrchu’n frwd dros gynlluniau i gyflwyno Siarter Bwyd a Diod Lleol fel ffordd i annog siopau, caffis a bwytai i werthu cynnyrch lleol o Gymru. Wedi’r cwbl, does dim ffordd well o gefnogi ffermwyr a chynnyrch Cymru na ni, pobl Cymru, yn prynu cynnyrch Cymru.

“Gall Llywodraeth Cymru yn sicr wneud mwy i gefnogi cynhyrchwyr, o ran allforio a’r farchnad ddomestig. Ers tro byd bellach, rwyf wedi bod yn galw ar y Gweinidog i gyflwyno targed statudol ar gyfer gwella oes silff cig oen Cymru, er mwyn gallu cystadlu’n well â chig o Seland Newydd. Mae potensial byd-eang hefyd.

“Ond i wireddu’r potensial, mae’n rhaid i Lywodraeth Cymru weithio gyda Llywodraeth Ei Mawrhydi i hyrwyddo bwyd a diod Cymru dramor. Mae hyn yn arbennig o wir os ydym am fanteisio ar farchnadoedd rhyngwladol newydd. Ond, heb weledigaeth genedlaethol gydlynol ar gyfer bwyd, bydd y cynlluniau hyn yn parhau i gael eu  rhwystro.”

DIWEDD

Ffoto: Lucy May ar Unsplash

  • Senedd News

You may also be interested in

Janet

First Minister Urged to Keep to his word and Make Business Support “Immediately available”

Wednesday, 12 May, 2021

Janet Finch-Saunders, Member of the Senedd for Aberconwy, has written to Mark Drakeford MS, First Minister, urging him to keep to his word and make business support immediately available.

 

Show only

  • Articles
  • Assembly News
  • Local News
  • Media
  • Opinions
  • Senedd News
  • Speeches
  • Westminster News

Janet Finch-Saunders MS/AS Aberconwy

Footer

  • About RSS
  • Accessibility
  • Cookies
  • Privacy
  • About/Am Janet Finch-Saunders
  • Polisi Diogelu Data a Phreifatrwydd
Promoted by Mostyn Jones on behalf of Janet Finch-Saunders, both of 29 Madoc Street, Llandudno, LL30 2TL

Neither the Welsh Parliament, nor Janet Finch-Saunders are responsible for the content of external links or websites. The costs of this website have been met by the Senedd Commission from public funds | Nid yw Senedd Cymru na Janet Finch Saunders yn gyfrifol am gynnwys lincs na gwefannau allanol. Mae Comisiwn y Senedd wedi talu costau'r wefan hon o arian cyhoeddus.

Copyright 2021 Janet Finch-Saunders MS/AS Aberconwy. All rights reserved.
Powered by Bluetree