Skip to main content
Banner image for Janet Finch-Saunders MS/AS

Janet Finch-Saunders MS/AS

ABERCONWY

Main navigation

  • Home/Hafan
  • Janet
  • News/Newyddion
  • Senedd Cymru
  • Contact/Manylion Cyswllt

Archfarchnad y DU yn cadarnhau cefnogaeth i’r Ymgyrch Gwlân yng Nghymru

  • Tweet
Thursday, 26 November, 2020
Janet Finch-Saunders MS

Heddiw (26 Tachwedd) mae Janet Finch-Saunders AS, Gweinidog Cysgodol y Ceidwadwyr Cymreig dros Newid Hinsawdd, Ynni a Materion Gwledig wedi croesawu neges o gefnogaeth gan Wm Morrison Supermarkets plc, sydd wedi ymrwymo i adolygu’r opsiynau i gadw cynhyrchion gwlân o Gymru yn eu siopau.  

Dyma’r newyddion diweddaraf yn ymgyrch Addewid ynghylch Gwlân o Gymru Janet sy’n pwyso ar Aelodau etholedig neu Senedd Cymru i ymrwymo i hyrwyddo rhinweddau’r ffibr naturiol hwn. Yn ystod yr wythnosau diwethaf, mae Janet wedi ysgrifennu at fanwerthwyr gwlâu a charpedi , yn ogystal â’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol, er mwyn gofyn iddyn nhw adolygu eu polisïau prynu.    

Dyma a ddywedodd Janet am eu hymateb:  

“Rwyf wrth fy modd bod Morrisons am adolygu ei opsiynau i gadw cynhyrchion gwlân o Gymru yn eu siopau, gan sylweddoli bod yna awydd clir ymysg y cyhoedd i gefnogi ffermwyr o Gymru drwy’r cyfnod heriol hwn. Mae’r cadarnhad hwn hefyd yn gydnabyddiaeth amlwg o ansawdd gwych ac unigryw gwlân o Gymru, brand sy’n gyfystyr â gwydnwch a chynaliadwyedd. 

“Mae’r cadarnhad hwn, ynghyd â’r ymrwymiad gan John Lewis, yn esiampl i fanwerthwyr eraill, gan eu hannog i ymrwymo i adolygu eu harferion prynu. Mae llawer o dyddynwyr o Gymru eisoes yn cyflenwi cnu ac edafedd, tra gall nifer o gwmnïau nyddu a gwehyddu ar hyd a lled Cymru helpu i sicrhau bod y broses gweithgynhyrchu’n digwydd yn lleol.   

“Mae’r pandemig wedi cael effaith ddifrifol ar bris clipiau gwlân ac felly gall ein manwerthwyr fod â rhan bwysig yn cefnogi ffermwyr o Gymru drwy newid y deunyddiau a ddefnyddir yn eu cynhyrchion. Rwy’n canmol Morrisons am gymryd y cam cadarnhaol hwn i gadw gwlân o Gymru a byddaf yn anfon yr wybodaeth angenrheidiol am gysylltiadau’r sector i’r pencadlys er mwyn helpu gyda’i adolygiad.” 

DIWEDD 

Nodyn i Olygyddion:    

  • Cysylltwch â’r swyddfa i gael copi o’r e-bost gan Wm Morrison Supermarkets plc. 

 

  • Senedd News

You may also be interested in

Janet

First Minister Urged to Keep to his word and Make Business Support “Immediately available”

Wednesday, 12 May, 2021

Janet Finch-Saunders, Member of the Senedd for Aberconwy, has written to Mark Drakeford MS, First Minister, urging him to keep to his word and make business support immediately available.

 

Show only

  • Articles
  • Assembly News
  • Local News
  • Media
  • Opinions
  • Senedd News
  • Speeches
  • Westminster News

Janet Finch-Saunders MS/AS Aberconwy

Footer

  • About RSS
  • Accessibility
  • Cookies
  • Privacy
  • About/Am Janet Finch-Saunders
  • Polisi Diogelu Data a Phreifatrwydd
Promoted by Mostyn Jones on behalf of Janet Finch-Saunders, both of 29 Madoc Street, Llandudno, LL30 2TL

Neither the Welsh Parliament, nor Janet Finch-Saunders are responsible for the content of external links or websites. The costs of this website have been met by the Senedd Commission from public funds | Nid yw Senedd Cymru na Janet Finch Saunders yn gyfrifol am gynnwys lincs na gwefannau allanol. Mae Comisiwn y Senedd wedi talu costau'r wefan hon o arian cyhoeddus.

Copyright 2021 Janet Finch-Saunders MS/AS Aberconwy. All rights reserved.
Powered by Bluetree